Llwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy
Diweddariad Mawrth 2024
Dechreuodd y gwaith ar Drybridge Street ddechrau mis Chwefror; fodd bynnag, cafodd y cynllun ei ohirio ar unwaith wrth i gontractwyr dorri drwy brif bibell ddŵr Dŵr Cymru heb ei mapio. Roedd hyn oherwydd ei fod wedi’i osod yn rhy fas i fodloni’r safonau gofynnol arferol. Bu’n rhaid oedi’r cynllun cyfan tra wnaeth Dŵr Cymru gynnal archwiliadau a cwhblhau’r gwaith atgyweirio angenrheidiol i’r brif bibell ddŵr a’r cwlfert gerllaw. Bu’n rhaid gwneud rhywfaint o waith ail-ddylunio ar y llwybrau troed hefyd er mwyn osgoi rhwystrau pellach a oedd wedi cyflwyno’r gwaith cychwynnol iddynt eu hunain.
Mae rhywfaint o waith wedi’i wneud ar wahanol rannau o’r cynllun, gyda’r gwaith o ledu’r llwybr troed rhwng mynedfa’r parc sglefrio a’r gyffordd yn Drybridge House bron wedi’i gwblhau. Er bod y cynllun ar ei hôl hi, mae’r gwaith cyfyngedig hwn wedi galluogi’r cynllun i barhau. Yn anffodus, ni fydd y dyddiad cwblhau gwreiddiol, tua chanol mis Ebrill yn bosibl ac felly mae dyddiad cwblhau diwygiedig bellach wedi’i osod ar gyfer canol Mai 2024.
Y gwaith i’w gwblhau o hyd yw:
- Gosod man croesi o Drybridge House ar draws Heol Rockfield i’r llwybr troed newydd ger y parc sglefrio
- Rhoi blaenoriaeth i groesi cyffordd “T” yn lle’r gylchfan fach bresennol
- Lledu’r droedffordd ar ochr ogleddol Heol Wonastow i gysylltu â llwybr Williams Field Lane
- Lledu rhan fer o Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy.
Yn sgil sawl ymholiad a pheth dryswch, hoffem gadarnhau na fydd goleuadau traffig parhaol yn cael eu gosod fel rhan o’r cynllun terfynol. Mae’r goleuadau traffig yno ar hyn o bryd dros dro tra bod y gwaith yn mynd rhagddo a byddant yn cael eu tynnu oddi yno unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau.
Mae’r llwybr hwn yn darparu cysylltiad hanfodol fel rhan o’n rhwydwaith teithio llesol cyffredinol yn Nhrefynwy ac yn parhau i ddarparu’r seilwaith i alluogi trigolion i symud tuag at ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar Lwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy
Gan ddechrau ar y 22ain Ionawr, bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau gweithio ar lwybr teithio llesol newydd, Llwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a Chronfa Dyrannu’r Gronfa Lles Craidd, a’i nod yw datblygu llwybr teithio llesol newydd sbon yn Nhrefynwy.
Mae’r llwybr hwn yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith Teithio Llesol cynhwysfawr. Bydd yn darparu mynediad uniongyrchol i Bont Mynwy a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yng nghanol y dref. Bydd y llwybr yn cysylltu Lôn Cae Williams â chanol tref Trefynwy drwy Heol Wonastow a Stryd Drybridge. Bydd hefyd yn darparu cysylltiadau o barc sglefrio Heol Rockfield i ganol y dref.
Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn gweld nifer o newidiadau ar hyd y llwybr. Maent yn cynnwys:
- Lledu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol Heol Wonastow i gynnwys llwybr troed/beic a rennir (bydd dwy lôn ar gyfer traffig yn cael eu cynnal).
- Gosod cyffordd â blaenoriaeth (cyffordd T) yn lle’r gylchfan fach bresennol yn Heol Wonastow /Rockfield.
- Darparu croesfan i gerddwyr ar Heol Wonastow a Heol Rockfield.
- Lledu’r droedffordd bresennol ar Heol Rockfield o’r gyffordd flaenoriaeth newydd i barc sglefrio Trefynwy. Bydd traffig dwy ffordd yn cael ei gynnal, ac ni fydd yn effeithio ar safleoedd bysiau.
- Lledu rhan fer o’r llwybr troed presennol ar hyd Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy
- Cael gwared ar rannau o barcio ar y stryd ar hyd Heol Wonastow i ddarparu’r llwybr yn unol â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol.
Disgwylir i’r gwaith barhau am 12 wythnos, gyda’r nod o orffen erbyn canol mis Ebrill 2024. Bydd y llwybr hwn yn darparu cysylltiadau â lleoliadau addysg, megis Ysgol Gynradd Overmonnow ac Ysgol Gyfun Trefynwy, a bydd yn gyswllt canolog â chanol y dref a’i chyfleusterau. Bydd angen goleuadau traffig dros dro ar gyfer y gwaith ac maent wedi’u trefnu gan ystyried gwaith ffordd arall sydd wedi’i gynllunio yn yr ardal i leihau’r effaith.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae hwn yn gam cyffrous yn natblygiad Llwybr Teithio Llesol yn Nhrefynwy. Bydd ehangu llwybrau troed yn darparu llwybr mwy diogel i feicwyr a cherddwyr wrth iddynt teithio o gwmpas Trefynwy.”
Hoffem roi diweddariad i chi ar y cynnig ar gynnydd dolen Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy ers yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein diwethaf ym mis Chwefror 2022.
Pam y cafodd newidiadau eu cynnig?
Cafodd yr angen am ddolen Teithio Llesol yn y lleoliad yma ei adnabod gyntaf pan gyflwynwyd Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy i Lywodraeth Cymru yn 2018. Mae’r ddolen rhwng y fynedfa i Lôn Cae Williams a Phont Mynwy yn gymharol fyr ond mae’n bwysig i’r rhwydwaith Teithio Llesol ehangach gan y bydd yn rhoi mynediad uniongyrchol i Bont Mynwy a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yng nghanol y dref. Bydd y llwybr yn cysylltu Lôn Cae Williams gyda chanol Trefynwy drwy Heol Wonastow a Stryd Drybridge, a hefyd yn rhoi cysylltiadau o barc sglefrio Heol Rockfield i ganol y dref. Ar ben Heol Wonastow, byddai’r llwybr arfaethedig yn cysylltu gyda llwybr teithio llesol arall yn rhedeg rhwng datblygiad Kingswood Gate a Lôn Cae Williams. Bu’r datblygiad tai newydd yn Kingswood Gate yn un o’r sbardunau allweddol am y newidiadau a gynigir. Mae’n anochel y bydd twf yn y boblogaeth leol yn arwain at fwy o deithiau a phwysau ar y rhwydwaith priffyrdd lleol. Gall hyn arwain at fwy o dagfeydd, llygredd a mwy o effeithiau negyddol ar yr economi. Mae gan gerdded a seiclo rôl sylweddol wrth wneud i drafnidiaeth redeg yn fwy effeithiol. Felly, i alluogi symudedd effeithiol a chynaliadwyedd, ni fu integreiddio cynllunio a thwf tai gyda chynllunio trafnidiaeth o’r cychwyn cyntaf erioed yn bwysicach. Cafodd dau gyfnod cyntaf llwybr Kingswood i Lôn Cae Williams eu hadeiladu eisoes a byddai’r cynllun a gynigir yn clymu mewn i’r llwybr newydd hwn yng nghyffordd Heol Wonastow/Lôn Cae Williams. Dangosir ardal yr astudiaeth yn Ffigur 1.
Amcanion y Cynllun
- Darparu rhwydwaith cerdded a seiclo cydlynus, uniongyrchol, diogel, cysurus a deniadol o Overmonnow i’r cymunedau o amgylch cymunedau, gwasanaethau a chyfleusterau ar draws Trefynwy.
- Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i gyflogaeth, iechyd, addysg a gwasanaethau;
- Cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch gwirioneddol a thybiedig cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn ar hyd ac ar draws ardal yr astudiaeth;
- Sicrhau newid dull teithio yn Nhrefynwy tuag at ddulliau mwy cynaliadwy ar gyfer pob taith; a
- Gostwng effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.
Proses WelTAG
Bydd y cynllun arfaethedig yn gofyn am gymeradwyaeth a chyllid o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a chafodd felly ei ddatblygu yn unol ag Arweiniad Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Mae proses WelTAG yn cynnwys cylch oes cyflawn ymyriad arfaethedig yn y system drafnidiaeth o asesu’r broblem, ystyried datrysiadau a dyluniad cynllun posibl, hyd at weithredu ac arfarnu prosiect. Mae astudiaethau WelTAG yn rhan hanfodol o brif brosiectau trafnidiaeth Cymru i helpu penderfynu pa rai yw’r datrysiadau mwyaf addas i’w datblygu, ac yn bwysig wrth gefnogi cynigion i Lywodraeth Cymru ar gyfer grantiau cyllid i gwblhau’r gwaith. Fel arfer caiff cynlluniau hyn eu datblygu dros nifer o flynyddoedd o’r cysyniad hyd at y dyluniad manwl ac maent wedyn yn dibynnu ar gymeradwyaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu. Cyhoeddwyd arweiniad arfarniad trafnidiaeth neilltuol ar gyfer Cymru yn 2008 a’i ddiweddaru yn 2017. Cyhoeddwyd drafft ganllawiau newydd yn 2022 i adlewyrchu Llwybr Newydd, strategaeth trafnidiaeth newydd Cymru 2021. Mae WelTAG yn cynnwys cyfres o gamau cynllunio prosiect sy’n dilyn bywyd prosiect, rhaglen neu bolisi o syniadau cynnar trwodd i’w gwblhau. Mae gan WelTAG bum cam, fel y dangosir yn Ffigur 2. Cafodd camau 1 a 2 y prosiect eu cwblhau ym mis Awst 2022, a rydym ar WelTAG Cam 3 ar hyn o bryd.
Cam Un Achos Strategol Amlinellol | Cam Dau Achos Busnes Amlinellol | Cam Tri Achos Busnes Llawn | Cam Pedwar Gweithredu | Cam Pump Yn dilyn gweithredu |
Materion/Problemau Amcanion Rhestr Hir o Opsiynau | Dichonolrwydd/ Dyluniad Amlinellol Opsiynau ar y Rhestr Fer | Dyluniad Manwl o’r Opsiwn a Ffefrir Terfynol | Gweithredu | Monitro yn Dilyn y Cynllun |
Cliciwch yma i weld drafft newydd Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (heb ei fabwysiadu hyd yma
Arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2022 | LLYW.CYMRU
Cliciwch yma i weld Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2017
Cynnydd ar y Cynllun hyd yma
Ar ddechrau’r prosiect hwn ac yn unol â phroses WelTAG datblygodd tîm y prosiect restr eang o ddatrysiadau posibl, digon i fedru penderfynu os oes unrhyw opsiynau cynllun sy’n werth eu dilyn a dewis rhestr fer o opsiynau ar gyfer ystyriaeth mwy manwl. Datblygwyd y rhestr hir o opsiynau ar ddeilliannau cyfnod cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus (a gynhaliwyd rhwng 9 Mehefin a 2 Gorffennaf 2021), ymgysylltu gyda’r rhanddeiliaid allweddol (swyddogion Cyngor Sir Fynwy, Cynghorwyr, Trafnidiaeth Cymru, grwpiau’n cynrychioli pobl gydag anableddau, Sustrans, gweithredwyr bws ac yn y blaen), ymweliadau safle, sesiynau sesiynau taflu syniadau gyda’r tîm dylunio prosiect a’r angen i alinio gyda’r blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru a nodir yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Cytunwyd ar y rhestr hir o opsiynau gyda Chyngor Sir Fynwy ac maent yn cynnwys naw opsiwn. Cafodd y naw opsiwn eu hidlo yn dibynnu ar:
- Y gallu i atal neu ddatrys y broblem nawr ac yn y dyfodol
- Y gallu i gyflawni’r amcanion a osodwyd a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru
- Effeithiau tymor byr a hirdymor i sicrhau buddion lluosog ar draws pedair agwedd llesiant ac uchafu cyfraniad i bob un o saith nod llesiant Cymru;
- Ymarferoldeb; a
- Cydnerthedd i ansicrwydd a’r potensial i yrru newid hirdymor.
- Arolwg traffig yng nghyffordd cylchfan fach Heol Wonastow/Heol Rockfield i alluogi gwaith modelu traffig;
- Gosod synwyryddion deallusrwydd artiffisial i gasglu data di-enw 24/7 ar ddulliau traffig, llif traffig a phatrymau teithio o fewn ardal yr astudiaeth;
- Cynnal arolwg parcio 12-awr ar 11 Hydref 2022 ar hyd Heol Wonastow;
- Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda’r cynghorwyr lleol am y cynnig i ddileu parcio er mwyn i’r llwybr gydymffurfio gyda Chanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol;
- Dosbarthu llythyrau i breswylwyr ar hyd Heol Wonastow i’w hysbysu am y cynnig i ddileu gofodau parcio ceir;
- Ychwanegwyd rhan o Heol Rockfield at ardal yr astudiaeth er mwyn gwella cysylltiad gyda Pharc Sglefrio Trefynwy a maes parcio Heol Rockfield;
- Paratoi am fwy o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid (tebyg i weithdai rhanddeiliaid a chyfarfodydd technegol); a
Cynnig
The proposed scheme would provide the following:
- Lledu’r droetffordd bresennol ar ochr ogleddol Heol Wonastow i roi troetffordd.lôn seiclo rhannu defnydd 3m-35m o led a gyflawnir drwy gulhau ychydig ar y gerbytffordd (cedwir dwy lon ar gyfer traffig);
- Rhoi cyffordd blaenoriaeth yn lle’r gylchfan fach bresennol ar HeolWonastow/Heol Rockfield, gyda Heol Wonastow yn dod yn fân fraich. Bwriad y newid hwn yw gwrthannog traffig trwm rhag defnyddio’r ffyrdd a nodir uchod a’u hannog i ddefnyddio’r Ffordd Gyswllt yn lle. Cynhaliwyd gwaith modelu i sicrhau y bydd y gyffordd yn parhau i weithredu o fewn capasiti ar ôl iddi gael ei throsi;
- Darparu croesfan syml heb ei rheoli i gerddwyr ar Heol Wonastow, yn union i’r gorllewin o’r gyffordd blaenoriaeth newydd. Byddai gan y croesiad gyrbiau isel a phalmant botymog melyn.
- Darparu croesiad cyfochrog ar Heol Rockfield yn union i’r gogledd o’r gyffordd blaenoriaeth newydd. Mae croesiad cyfochrog ar gyfer cerddwyr a seiclwyr yn rhoi datrysiad sy’n ymyl ei gilydd o gymharu â chyfleusterau gyda signalau. Mae’r croesiad yn debyg i groesiad Sebra ond gyda chroesiad ar wahân i feiciau a ddangosir gan farciau ‘Ôl Troed Eliffant’ a symbolau beic rhwng streipiau Sebra a llinell ildio.
- Lledu’r llwybr troed presennol ar ochr ddwyreiniol Heol Rockfield o’r gyffordd blaenoriaeth newydd i Barc Sglefrio Trefynwy. Cyflawnir hyn drwy gulhau ychydig ar y gerbytffordd. Byddai traffig yn dal i fedru defnyddio’r ddwy lon ac ni effeithid ar y safleoedd bws presennol (dim ond y llwyfan yn y safle bws ar ochr orllewinol y ffordd a gaiff ei symud ychydig i’r gogledd);
- Ychwanegu palmant botymog i’r croesiad heb ei reoli ar Heol Rockfield, ger y fynedfa i Barc Sglefrio Trefynwy.
- I hwyluso cerddwyr, byddid yn rhoi croesiad syml heb ei reoli i ogledd y safleoedd bws presennol, gyda chwrbin isel a phalmant botymog melyn;
- Lledu adran fer o’r droetffordd bresennol ar hyd B4233 Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy;
- Dileu rhai o’r lleoedd o’r parcio ar y stryd ar hyd Heol Wonastow i gyflenwi’r llwybr yn unol â chanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol. I ganiatáu hyn, mae’r cynllun yn cynnig parcio trwydded YN UNIG ar gyfer rhan fawr ar hyd Stryd Drybridge, tra’n dal i gynnal ardal fach ar gyfer arhosiad byr. Ni chafodd union ddyluniad y parcio ei gadarnhau hyd yma a chytunir arno ar y cam dylunio manwl. Caiff dileu y parcio ar y stryd yma ei gynnwys yng Ngorchymyn Diwygio Traffig Rhif 11 Cyngor Sir Fynwy, yr ymgynghorir arno ym mis Mai 2023.
Cliciwch yma i weld y Canllawiau Teithio Llesol.
https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2022-01/active-travel-act-guidance.pdf
Camau Nesaf
Mae camau nesaf datblygu’r cynllun yn cynnwys:
- Cwblhau WelTAG Cam 3 (Mawrth 2023)
- Cais a chymeradwyo cyllid (Ebrill 2023)
- Cyllid gweithgaredd adeiladu dibynnol ar gyllid a Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parcio dibynnol (Mehefin-Medi 2023)
- Monitro ar ôl y cynllun (Hydref 2023, Hydref 2024)
Dweud eich Barn
Os hoffech roi unrhyw sylwadau ar gynnig y cynllun, cyflwynwch y ffurflen yma os gwelwch yn dda.
Drwy lenwi’r arolwg, rydych yn cytuno i’r data gael ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwn gan Gyngor Sir Fynwy a gan WSP (RE&I). Caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gan Gyngor Sir Fynwy ar ran WSP (RE&I).
Dim ond ar gyfer y diben hwn y byddwn yn casglu eich data a bydd unrhyw ddata a gaiff ei rannu yn ddienw. Nid yw’r ffurflen hon yn casglu eich enw na’ch manylion cyswllt. I gael mwy o wybodaeth am breifatrwydd ewch i:
https://www.monmouthshire.gov.uk/your-privacy/
Drwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych yn cydsynio i’ch gwybodaeth gael ei phrosesu ar gyfer y diben a amlinellir uchod.
This post is also available in: English