Gwaith coed ar fin dechrau ar Gomin y Felin
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau rheoli’r coetir ar Gomin y Felin, Magwyr a Gwndy ar 3ydd Chwefror. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys teneuo a thorri coed fel rhan o’n hymdrechion adferiad.
Derbyniodd y prosiect gefnogaeth gyhoeddus gref yn dilyn ymgynghoriad yn 2024, gan ddangos ymrwymiad y gymuned i gadw a gwella Comin y Felin.
Nod y gwaith hwn yw gwella iechyd ecolegol, hygyrchedd a gwerth cymunedol y coetir annwyl hwn. Fodd bynnag, rhaid cael gwared ar rai coed, yn bennaf y coed ynn sydd wedi eu heintio, er mwyn cyflawni’r amcanion hyn.
Mae’r gwaith coed wedi’i amserlennu i ddechrau ar 3ydd Chwefror a bydd yn parhau am tua phedair wythnos, gyda gwaith yn cael ei wneud y tu allan i amseroedd gollwng a chasglu’r ysgol er mwyn lleihau unrhyw aflonyddwch. Bwriad yr amserlen hon yw sicrhau diogelwch a hwylustod trigolion, yn enwedig teuluoedd â phlant ysgol.
Yn ystod y cyfnod gwaith, bydd rhai ardaloedd yn cael eu cau yn ystod y gwaith torri coed a byddant yn cael eu ffensio pan na fydd yna waith er mwyn gwarchod pobl.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae hwn yn brosiect pwysig sydd â’r nod o warchod ein coetiroedd yn Sir Fynwy. Yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i bob rhiant a gofalwr sicrhau bod plant yn
cadw draw o’r coetir pan fydd y gwaith coed yn digwydd, gan y gall fod yn beryglus mynd yn rhy agos.”
Mae llawer o goed ynn ar Gomin y Felin yn cael eu heffeithio gan glefyd (Chalara) coed ynn, clefyd difrifol sy’n gwanhau ac yn y pen draw yn lladd y coed. Mae cael gwared ar y coed heintiedig hyn yn hanfodol i atal lledaeniad y clefyd a sicrhau diogelwch ymwelwyr. Bydd hyn hefyd yn agor y canopi i olau’r haul, gan ganiatáu i lasbrennau dyfu. Bydd yr ardal yn cael ei hailblannu gyda chymysgedd amrywiol o rywogaethau coed brodorol.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad wrth i ni weithio i adfywio Comin y Felin ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.monlife.co.uk/cy/outdoor/green-infrastructure/mill-common-restoration-project/
This post is also available in: English