Os ydych yn chwilio am bethau i’w gwneud dros wyliau y Pasg, yna nid oes angen i chi chwilio mwyach gan fod yr ateb gan MonLife – rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau i ddiddanu plant o bob oedran (a’u rhieni).
Mae Dysgu MonLife wedi paratoi cynlluniau i greu hwyl am ddim i deuluoedd rhwng 11am a 3pm yn Neuadd Sirol Sir Fynwy (dydd Llun 11eg Ebrill), Neuadd Drill Cas-gwent (dydd Iau 21ain Ebrill) ac Amgueddfa’r Fenni (dydd Gwener 22ain Ebrill)
Mae Gemau Sir Fynwy, sydd wedi dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd, yn ôl eto o ddydd Llun 11eg – dydd Iau 14eg Ebrill, a dydd Mercher 20fed – dydd Gwener 22ain Ebrill. Mae’n gyfle i ddysgu sgiliau newydd, adeiladu hyder, cwrdd â phobl newydd ac yn fwy pwysig, cael hwyl drwy gyfrwng chwaraeon. Mae pob un diwrnod yn llawn gweithgareddau gwahanol ac mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru er mwyn cadw lle gan fod yna 50 lle ar gael bob dydd. Bydd plant a phobl ifanc rhwng 5 a 11 mlwydd oed yn cael y cyfle, ar draws y sesiynau gwahanol, i fwynhau 30 o chwaraeon gwahanol. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng 8am a 5pm, a’r gost yw £21 y diwrnod. Mae modd cofrestru ar wefan MonLife:
Os ydych yn chwilio am rywbeth ychydig mwy naturus, yna beth am gymryd rhan yn Sesiwn Rhoi Cynnig ar Anturiaethau Gwasanaeth Ieuenctid MonLife. Bydd y gyfres o ddiwrnodau antur awyr agored yn cynnwys – os yw’r tywydd yn caniatáu – canŵio, ogofa, dringo creigiau a rhaffau uchel. Mae’r teithiau ar agor i bobl ifanc ym Mlynyddoedd 7-10, sef rhwng 11 a 15 mlwydd oed. Mae ffi benodol ar gyfer pob sesiwn o £15, sydd yn talu am y gweithgaredd a’r cludiant, a bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan staff addysg awyr agored proffesiynol a staff o Wasanaeth Ieuenctid MonLife. Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael ac mae cofrestru yn hanfodol a’r dyddiad cau yw dydd Gwener, 8fed Ebrill, ac felly, bydd angen i chi fod yn gyflym. Mae manylion y sesiynau yma ar gael ar wefan MonLife neu drwy e-bostio youth@monmouthshire.gov.uk
Bydd y Caban a Pharc Sgrialu y Fenni yn cynnal Gweithdy Sgrialu am ddim rhwng 12pm a 2pm ar ddydd Mawrth 12fed Ebrill, pan fydd sgrialwr yn helpu pobl ifanc i ddysgu hanfodion sgrialu. Bydd Canolfan Chwarae Trefynwy hefyd yng nghanolfan hamdden y dref hefyd ar agor ac yn cynnig llawer o hwyl dros dri llawr. Mae yna fan penodol ar gyfer plant bach. Mae oedolion yn medru ymlacio gyda phaned o de, gydag wi-fi ar gael am ddim. Mae’r nifer o lefydd wedi eu cyfyngu. Peidiwch ag anghofio bod y pyllau nofio, campfeydd a’r dosbarthiadau ar agor yn ystod y gwyliau (ac eithrio ar ddydd Gwener, 15fed, dydd Llun 18fed a dydd Mawrth 19eg Ebrill).
Am fwy o wybodaeth a syniadau, ewch i:
This post is also available in: English