Datganiad i’r Wasg: Llunio dyfodol ein hamgylchedd yn Sir Fynwy - Monlife

Datganiad i’r Wasg: Llunio dyfodol ein hamgylchedd yn Sir Fynwy

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGAN) a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd.

Rhwng 14eg o Fedi a’r 24ain o Hydref, ein nod yw deall sut mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn effeithio ar drigolion Sir Fynwy a chasglu gwybodaeth werthfawr ar sut y gallwn gefnogi ein cymunedau.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ddiwyro yn ei ymrwymiad i wella a chadw ein hamgylchedd naturiol o dan Ddeddf Amgylchedd Cymru 2016. Mae ein Strategaeth Argyfwng Hinsawdd a Natur wedi’i hadeiladu ar bedwar piler cydgysylltiedig: Allyriadau Cyngor, Adfer Natur, Afonydd a Chefnforedd, a Chymunedau a Hinsawdd. Yn ganolog i’n hymdrechion, mae piler Adfer Natur, a fydd yn cael ei ddatblygu drwy Gynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Sir Fynwy (CGAN) a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd.

Mae’e CGAN Lleol Sir Fynwy yn gydweithrediad rhwng Cyngor Sir Fynwy a Phartneriaeth Natur Leol Sir Fynwy. Mae’n darparu map ffordd ar gyfer ymdrechion cadwraeth lleol, gan gynnig camau ymarferol i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth a chryfhau cydnerthedd ecosystemau ar draws Sir Fynwy. Nod y cynllun yw cefnogi pawb, o unigolion a chymunedau i fusnesau a chadwraethwyr.

Mae’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd yn cwmpasu holl gydrannau naturiol ein tirwedd, gan gynnwys coed, planhigion, mannau gwyrdd, glaswelltiroedd, a nodweddion dŵr fel pyllau ac afonydd. Mae’r elfennau hyn yn hanfodol ar gyfer iechyd yr amgylchedd, lles cymdeithasol a sefydlogrwydd economaidd. Nod ein strategaeth yw creu rhwydwaith cysylltiedig o fannau gwyrdd i wella iechyd, cefnogi bioamrywiaeth, gwella cydnerthedd ecosystemau, cynyddu gwytnwch hinsawdd, cadw ein tirweddau, a hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy. Mae ffocws allweddol ar warchod ac adfer cynefinoedd naturiol i gefnogi bywyd gwyllt a chynyddu gwytnwch ecosystemau drwy brosiectau a phartneriaethau arloesol, gan wella canlyniadau iechyd yn y pen draw a hyrwyddo gweithredu hinsawdd ar raddfa fwy.

Mae ein hymgynghoriad, sy’n cael ei lansio heddiw yn Sioe Brynbuga, yn gyfle hollbwysig i chi rannu eich adborth ar y CGAN a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd. Mae eich barn ar sut mae’r argyfwng natur yn effeithio ar Sir Fynwy a’ch syniadau am y cymorth sydd ei angen i gymell cymunedau i weithredu yn amhrisiadwy.

I ddarganfod mwy am y strategaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/green-infrastructure/local-nrap-and-gi-strategy-consultation/

This post is also available in: English