Rhaglen Dysgu Cymunedol Sir Fynwy yn derbyn adroddiad disglair
Derbyniodd rhaglen Dysgu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy, sy’n rhan o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, o dan arweiniad Coleg Gwent, ganmoliaeth ddisglair ar ôl arolygiad diweddar gan Estyn.
Mae rhaglen Dysgu Cymunedol y Cyngor yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i drigolion i ddysgu sgiliau newydd ac adeiladu ar y rhai presennol.
Yma yn Sir Fynwy, mae gennym bum canolfan Dysgu Cymunedol ar draws y sir, gyda chyrsiau amrywiol yn cael eu cynnig. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau mewn Mathemateg, Saesneg, TG, Celf a Chrefft a Saesneg i ddysgwyr.
Ymwelodd Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, â’r bartneriaeth yn ddiweddar. Amlygodd yr adroddiad terfynol yr effaith drawsnewidiol y mae gwaith y partneriaethau yn ei chael ar ddysgwyr a’r gymuned.
Amlygodd adroddiad Estyn effaith sylweddol ein rhaglen ar fywydau dysgwyr. Pan gafodd eu cyfweld gan arolygwyr, rhannodd llawer o ddysgwyr dystebau diffuant ynghylch sut mae’r rhaglen wedi bod yn achubiaeth, yn enwedig o dan amgylchiadau heriol. Mae hefyd wedi rhoi hwb i’w hyder wrth ddatblygu sgiliau digidol.
Agwedd hollbwysig o unrhyw Raglen Gymunedol yw’r tiwtoriaid. Roedd adroddiad Estyn wedi canmol ymroddiad y tiwtoriaid i greu amgylchedd dysgu cynhwysol. Mae tîm Dysgu Cymunedol Sir Fynwy yn ymroddedig i ddarparu’r gefnogaeth orau i bob dysgwr. Eu nod yw creu amgylchedd a fydd yn galluogi dysgwyr i wella eu hiechyd a’u lles tra ar yr un pryd yn darparu lle iddynt ddysgu ac uwchsgilio eu gwybodaeth.
Mae ein tîm ymroddedig hefyd wedi cael ei ganmol am ei waith cydweithredol mewn gwelliant parhaus. Canmolwyd y bartneriaeth am hunanarfarnu cadarn a’r gwaith cynllunio i wella ansawdd. Mae pob un o’r staff yn dadansoddi data asesu’r holl ddysgwyr yn ofalus, yn monitro cynnydd ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer adborth trwy gydol taith y dysgwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Sir Fynwy: “Mae adroddiad Estyn yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r ymroddiad mae ein swyddogion rhaglen Dysgu Cymunedol yn ei wneud bob dydd. Rwyf am ddiolch iddynt i gyd am eu gwaith caled. Bob dydd, maent yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr o Sir Fynwy i ddysgu sgiliau newydd neu uwchsgilio eu hunain mewn llawer o bynciau. Nid yw addysg yn dod i ben yn yr ystafell ddosbarth. Os ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd, edrychwch ar ein tudalennau Dysgu Cymunedol ar y wefan am y cyrsiau diweddaraf.”
Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg
Wrth i ni ddathlu cyflawniadau rhaglen Dysgu Cymunedol y Cyngor fel rhan o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, o dan arweiniad Coleg Gwent, rydym hefyd yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y dysgwyr. Mae eu gwaith caled yn galluogi ein swyddogion i barhau i wella a darparu cyrsiau newydd drwy gydol y flwyddyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein rhaglen Dysgu Cymunedol a’r cyrsiau yr ydym yn eu cynnig, ewch i’n gwefan heddiw: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/dysgu-yn-y-gymuned-sir-fynwy/
This post is also available in: English