Mae ‘Tokyo Stories’ yn ffilm Arddangosfa ar Sgrin newydd sydd i’w dangos yn Drill Hall, Cas-gwent ar ddydd Iau 25ain Mai 7.30pm, ac mae’n dechrau gyda sioe fawr yn yr Ashmolean yn Rhydychen gan bontio 400 mlynedd o gelf o’r printiau blociau pren o Hokusai a Hiroshige, i bosteri ‘Pop Art’, lluniau cyfredol, Manga, ffilm a gwaith celf hollol newydd sydd wedi ei greu ar y strydoedd. Roedd yr arddangosfa yn hynod boblogaidd, gan dderbyn pum seren. Ond mae’r ffilm yn mynd ymhellach ac yn defnyddio’r arddangosfa fel cyfle i’n lansio ni i Tokyo gan fynd â’r gynulleidfa ar daith yn archwilio celf ac arlunwyr y ddinas, ac mae’n cynnwys rhai o’r gorffennol a’r rhai presennol.
Mae hyn yn cael ei ddangos yn hyfryd mewn ffilm hynod gyfoethog, sydd yn ystyried dinas sydd wedi ei difa a’i hadnewyddu’n barhaus dros 400 mlynedd, gan arwain at un o’r dinasoedd mwyaf hyfyw a diddorol ar y blaned. Mae’n olrhain storïau arlunwyr a’r bobl sydd gwneud Tokyo yn adnabyddus am y brwdfrydedd diderfyn ar gyfer pethau newydd ac arloesol.
Mae’r ffilmiau Arddangosfa ar Sgrin yn cael eu dangos yn y Drill Hall gan, ac er mwyn cefnogi Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife.
Mae amgueddfeydd Sir Fynwy sydd yn cael eu rheoli gan MonHeritage, sy’n rhan o Gyngor Sir Fynwy, wedi derbyn hwb ar ôl y rownd ddiwethaf o ddyfarniadau ariannol.
Mae’r cynllun i ail-leoli amgueddfa Trefynwy i’r Shire Hall (Neuadd y Sir) gam yn agosach yn sgil y Grant Datblygu o £349,928 a ddyfarnwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid yn caniatáu’r Cyngor i ail-ddatblygu’r Neuadd Sir fel amgueddfa achrededig.
Roedd grant ychwanegol o £241,697 wedi ei ddyfarnu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Casgliadau Deinamig) er mwyn gwella’r gwaith catalogio o Gasgliad Trefynwy ac i ymgynghori gyda chymunedau lleol am y straeon y maent am weld yn cael eu olrhain yn arddangosfeydd yr amgueddfa. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys arddangosfeydd o fewn y gymuned ac yn y Neuadd Sir.
Mae gwaith cadwraeth a gwelliannau i gasgliad Nelson eisoes wedi eu gwneud. Lluniwyd adroddiad a ariannwyd gan Ffederasiwn Amgueddfeydd a Galerïau Cymru yn ystod 2022 a oedd yn amlinellu pwysigrwydd cenedlaethol casgliad Nelson. Mae hyn wedi ei gymeradwyo gan Amgueddfa Forol Genedlaethol, Greenwich. Mae’r amgueddfa hefyd wedi gweithio gyda Race Council Cymru er mwyn cynnal dau weithdy gyda’r testunau na sydd wedi eu trafod rhyw lawer cyn hyn ynglŷn â Nelson ond y mae pobl am weld.
Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet sydd yn gyfrifol am amgueddfeydd MonHeritage: “Rwyf wrth fy modd fod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi’r cynlluniau ar gyfer adleoli amgueddfa Trefynwy i’r Neuadd Sirol. Bydd yn helpu ni ddatblygu’r cynlluniau i wneud yr amgueddfa, y casgliad, ac arddangosfeydd y dyfodol yn fwy cynrychioliadol o Drefynwy, y sir, ei hanes a’i phobl.”
Mae amgueddfeydd MonHeritage yn y Fenni a Chas-gwent hefyd wedi elwa o gyllid. Roeddynt wedi derbyn £173,318 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect – Ymchwilio, ail-asesu ac adhawlio: treftadaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at yr amcanion treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru. Mae’r dyfarniad yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei ddechrau yn y ddwy amgueddfa ac yn cyfrannu at ddehongliadau gwell o’r casgliadau, yn cynrychioli eu cysylltiad gyda chaethwasiaeth yn well ynghyd â choloneiddio a’r ymerodraeth, ac yn cydnabod y rôl sydd wedi ei chwarae gan gymunedau Sir Fynwy o ran caethwasiaeth, yr ymerodraeth a globaleidido.
Gyda Race Council Cymru, bydd MonHeritage yn cynnal gweithdai cymunedol er mwyn archwilio ffyrdd i ddehongli’r casgliadau yma yn well. Bydd gweithio gyda chymunedau yn caniatáu’r tîm Dysgu a’r Churadurol i greu rhaglen o weithgareddau sydd yn debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd yn lleoliadau Sir Fynwy. At hyn, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu yn cael eu cynnal mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a’r dreftadaeth leol yng Nghas-gwent.
Yng Nghas-gwent, mae prosiect sydd wedi ei ariannu gan £10,000 o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol newydd ei gwblhau er mwyn ymchwilio ac ail-ddehongli bywydau’r nyrsys a oedd wedi gweithio yn yr amgueddfa pan oedd yn ysbyty. Mae’r arddangosfa sydd wedi ei hysbrydoli gan y prosiect ar agor tan fis Rhagfyr 2023.
Bydd amgueddfa Cas-gwent yn agor arddangosfa barhaol yn ymwneud gyda Thaith y Gwy ym mis Gorffennaf. Bydd yn cynnwys llun gan JMW Turner a brynwyd yn diweddar yn dilyn cyfraniad o £76,000 gan Gyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu V&A a chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol, Museums Association Beecroft Bequest, Ymddiriedolaeth Dyffryn Gwy.
Mae Grid Gwyrdd Gwent yn cynnal y digwyddiad ‘Gwent Fwyaf yn Mynd yn Wyllt’ ar gyfer y teulu cyfan ar ddydd Sadwrn, 20fed Mai, 2023. Mae’r digwyddiad, sydd wedi ei ysbrydoli gan natur, yn rhad ac am ddim ac i’w gynnal ym Mharc Bailey y Fenni rhwng 11am a 4pm. Bydd yn arddangos a’n dathlu y gwaith ffantastig sydd wedi ei wneud ar draws Gwent er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth.
Parc Bailey yw’r lleoliad perffaith ar gyfer y digwyddiad. Mae’n gartref i ddarn o waith celf Nid yw Natur yn daclus, sydd ger y Clwb Rygbi. Mae’r mosaic yn dathlu’r blodyn diymhongar llygad y dydd, a’i rôl bwysig ar gyfer pryfed peillio gyda chwilen blodau â choesau trwchus yn hawlio’r sylw. Fel rhan o’r digwyddiad, bydd y gwaith celf yn cael ei ddadorchuddio’n ffurfiol.
Cyn y digwyddiad, bydd swyddogion PGGG yn gweithio gyda phlant iau o ysgolion/grwpiau cymunedol lleol er mwyn creu’r adenydd perffaith ar gyfer peillio. Bydd y plant yn cymryd rhan mewn “Parêd Peillio” gan ddathlu’r bywyd gwyllt lleol ar y diwrnod.
Bydd pobl ifanc o’r Fenni yn creu murlun newydd ar gyfer y safle. Y gobaith yw y bydd y gymuned leol yn mwynhau’r gwaith celf am flynyddoedd i ddod a bydd y dyluniad yn dathlu’r natur sydd i’w weld yn yr ardal.
Bydd yna ystod o weithgareddau ar gael i deuluoedd a phobl o bob oedran yn ystod y diwrnod, gan gynnwys stondinau crefft a phobl yn olrhain straeon ynghyd â llawer o wybodaeth am brosiectau amgylcheddol a chymunedol ar draws Gwent.
Tra eich bod yn y digwyddiad, beth am fynd ati i helpu’r tîm Grid Gwyrdd Gwent i adeiladu plasty drychfilod o ddeunyddiau sydd wedi eu canfod yn lleol a’u hailgylchu. Bydd hyn yn aros ym Mharc Bailey ar ôl y digwyddiad, gan ddarparu cartref i amryw o drychfilod.
Bydd bagiau nwyddau a pethau am ddim ar gael i chi fynd â hwy adref. Bydd hyn yn cynnwys peli hadau a chanllawiau ar gyfer caeau fel bod y teulu cyfan yn medru ‘mynd yn wyllt’ ar ôl y digwyddiad.
Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw: “Mae’r digwyddiad hwn sydd yn rhad ac am ddim, yn ffordd wych o ddwyn cymuned ehangach y Fenni ynghyd, i ddathlu’r amgylchedd. Bydd y gweithgareddau yn rhannu gwybodaeth ac yn llawer o hwyl hefyd. Rwy’n disgwyl ymlaen at weld y gwaith gwych sydd wedi ei wneud gan bobl ifanc y Fenni a chwrdd â chynifer o bobl leol ag sydd yn bosib ar y diwrnod.”
Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae gwaith Grid Gwyrdd Gwent, sydd yn gwella a’n datblygu’r amgylchedd naturiol ar draws y rhanbarth, mor bwysig. Mae nid yn unig yn mynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd ond hefyd yn chwarae rôl allweddol yn gwella bioamrywiaeth a’n gwella lles y bobl sydd yn byw yn yr ardal. Byddem yn annog cynifer o bobl ag sydd yn bosib i nodi’r dyddiad yn eu dyddiaduron gan ddod i ddigwyddiad y Fenni, sydd yn mynd i fod yn llawn gwybodaeth a hwyl.”
Mae tîm Grid Gwyrdd Gwent yn cynnwys swyddogion o Gyngor Sir Fynwy, CBS Blaenau Gwent, CBS Caerffili, Cyngor Casnewydd a CBS Torfaen CBC, gyda phawb yn gweithio gyda’i gilydd a Chyfoeth Naturiol Cymru, Forest Research ac Asiantaeth Ynni Hafren Gwy.
Mae pum darn o waith celf mosäig, sydd wedi eu hysbrydoli gan natur, wedi ymddangos mewn gofodau gwyrdd ar hyd a lled Gwent, gan ysbrydoli pobl i feddwl am y natur yr ydym yn medru ei weld yn ein cymunedau.
Mae’r darnau yma o gelf yma wedi eu datblygu gan y prosiect Natur Wyllt, sydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r dirywiad mewn pryfed peillio ac yn annog pobl i weithredu ar lefel leol, gan greu dolydd newydd mewn pentrefi a threfi ar draws Gwent.
Mae pobl yn cael eu hannog i fynd allan dros y gwanwyn er mwyn ceisio dod o hyd i’r pum cerflun a chwblhau’r daith gerdded. Maent wedi eu lleoli ar draws Gwent, sef yn: Gilfach, Bargoed; Parc Bryn Bach, Tredegar; Meysydd Lles Rogerstone, Rogerstone; Fairhill, Cwmbrân a Pharc Bailey, y Fenni.
Wedi dod o hyd i bob un darn, sganiwch y cod QR er mwyn darllen gwybodaeth gudd am y planhigion a’r pryfed peillio sydd wedi ysbrydoli pob cerflun.
Beth am fynd ati i gysylltu gyda @NatureisntNeat ar Twitter, Facebook ac Instagram a rhannu ag eraill y planhigion a’r pryfed peillio anhygoel yr ydych wedi eu darganfod?
Roedd y gwaith celf wedi eu creu yn ystod haf 2022, pan oedd cymunedau Gwent yn brysur ac yn adeiladu dyluniadau mosäig gyda’r arlunydd Stephanie Roberts. Y thema oedd ceisio cofnodi harddwch y byd natur sydd i’w weld mewn gofodau gwyrdd.
Mae’r darnau mosäig yn dathlu’r berthynas rhwng blodau gwyllt, pryfed peillio a phobl Gwent. Mae pob cerflun wedi ei ysbrydoli gan blanhigion a phryfed peillio lleol, sydd i’w gweld ym mhob un mosäig.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cyngh. Catrin Maby: “Mae’r gwaith celf newydd yn ffantastig ac yn dysteb barhaol i Natur Wyllt a’r effaith bositif y mae’r egwyddorion yn cael ar fywyd gwyllt a phryfed peillio ar draws Gwent.”
“Mae’r dull o dethol a dewis pa bryd i ladd gwair yn caniatáu’r glaswellt a’r blodau gwyllt i ffynnu am gyfnod hwy ynghyd ag amrywiaethau o fywyd gwyllt. Mae gweld y gymuned yn dod ynghyd er mwyn dathlu hyn drwy waith celf, sydd wedi ei arwain gan y gymuned, yn wych.”
Mae’r prosiect celf cymunedol yma yn cael ei gefnogi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig ac wedi ei ariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles gan Lywodraeth Cymru.
Glan yr Afon yng Nghas-gwent oedd y man dathlu ar ddydd Llun, 27ain Mawrth, wrth i ni ddathlu pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 mlwydd oed. Roedd y digwyddiad, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi amlygu’r manteision a ddaw o fynd allan i’r awyr agored a phrofi byd natur. Roedd y naturiaethwr, cadwraethwr a’r cyflwynwyd teledu, Iolo Williams yn un o’r gwesteion, ynghyd â chyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.
Ar y safle ger Pont Cas-gwent, roedd Iolo wedi dadorchuddio bocs sŵn newydd sydd yn disgrifio’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd i’w weld ar Lwybr Arfordir Cymru. Mae Iolo wedi recordio tair neges hefyd ac mae cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn darllen ei gerdd Bendith Llwybr yr Arfordir. Mae cerddwyr ar y llwybr arfordirol yn medru defnyddio’r bocs sŵn er mwyn dod ag amrywiaeth cyfoethog bywyd gwyllt yr ardal yn fyw wrth iddynt fynd ar eu ffordd. Mae pedair neges gan y bocs sŵn, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae’n cynnig ffordd fwy hygyrch o glywed gwybodaeth. Mae modd newid y negeuon er mwyn eu cadw’n ffres ac yn berthnasol.
Roedd yr arlunydd Michael Johnson wedi dylunio a gwneud gwaith celf o gerrig crynion ar gyfer y safle yng Nghas-gwent sydd yn cynnwys rhan o gerdd Ifor ap Glyn. Mae gwaith celf tebyg i’w weld yn Sir Fflint.
Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Iolo Williams: “Rwyf wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i helpu dathlu penblwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 mlwydd oed. Dros y ddegawd ddiwethaf, rwyf wedi cerdded sawl rhan o’r llwybr ac mae amrywioldeb y dirwedd a’r bywyd gwyllt yn fy synnu bob un tro. Roedd y cyfnodau clo adeg Covid wedi ein dysgu ni pa mor bwysig yw’r byd naturiol ar gyfer ein lles corfforol a meddyliol ac rwyf yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn annog mwy o bobl i fynd allan a mwynhau’r byd naturiol anhygoel sydd gan Gymru.”
Dywedodd cyn Fardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn: “Er bod y digwyddiad hwn yn dathlu dechrau (a diwedd!) y daith yng Nghas-gwent, mae cerddwyr yn medru creu eu mannau ‘dechrau’ a ‘gorffen’ eu hunain unrhyw le ar hyd y llwybr sydd yn 870 milltir. Y peth pwysig yw mynd allan a mwynhau’r llwybr.”
Mae Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn gwella’r ffyrdd y mae pobl yn medru cael mynediad at Lwybr Arfordir Cymru. Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi ei roi gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill. Mae’r prosiect yn ceisio dwyn ynghyd y mannau yn y gogledd a’r de fel bod pobl yn cael ymdeimlad o gysylltiad, treftadaeth a dathu’r orchest hon.
Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw: “Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig cyfle pwysig i brofi harddwch y sir a gwella ein lles, yn feddyliol a’n gorfforol. Hoffem ddiolch i Gyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Fflint, Llywodraeth Cymru, Ifor Ap Glyn, Iolo Williams, Croeso i Gerddwyr Cas-gwent a Cherddwyr Gwy Isaf, am ddod ynghyd i ddathlu penblwydd Llwybr Arfordir Cymru yng Nghas-gwent.”
Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae ychwanegu’r bocs sŵn at y llwybr yng Nghas-gwent yn mynd i gyfoethogi profiad pobl o’r daith a chodi ymwybyddiaeth o’r bywyd gwyllt amrywiol ac anhygoel sydd i’w weld yma. Rwy’n gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sydd yn bosib yn mwynhau’r bocs sŵn ac yn archwilio’r llwybr ar ôl cael eu hysbrydoli gan y wybodaeth y maent yn clywed.”
Yn ogystal â bod yn fan dechrau ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, mae Cas-gwent hefyd yn cynnig cyfle i ymuno gyda nifer o deithiau cerdded eraill fel taith Gerdded Dyffryn Gwy a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Eleni, 2023, yw Blwyddyn y Llwybrau ac roedd y digwyddiad wedi dathlu hyn hefyd.
Roedd Croeso i Gerddwyr Cas-gwent wedi cynnal ‘taith gerdded iachus’ fer er mwyn dathlu’r digwyddiad a hyrwyddo’r Ŵyl Gerdded sydd i’w chynnal ar 12fed Ebrill. Roedd Cerddwyr Dyffryn Gwy Isaf yno hefyd ac wedi cynnal taith gerdded hirach. Roedd staff Mynediad i Gefn Gwlad a swyddogion rhanbarthol Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru yno hefyd er mwyn trafod cyfleoedd gwirfoddoli a ble i gerdded. Rodd disgyblion o Ysgol Gynradd y Dell wedi mynychu’r digwyddiad gan gyflwyno llyfr i Iolo Williams yr oeddynt wedi ei greu.
Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir, yn cynnig cyfleoedd i’r cyhoedd i ymgysylltu gyda bioamrywiaeth ar gyfer eu hiechyd a’u lles.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd mewn lle y mae morloi a hebogau Peregrine i’w gweld yn aml, hefyd yn cynnwys Nid yw Natur yn Daclus, a Grid Gwyrdd Gwent a Lefelau Byw, yn ymgymryd â gweithgareddau ar gyfer y cyhoedd a’r plant o Ysgol Gynradd y Dell yn y dref.
Diolch i gyllid a sicrhawyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu V&A a chymorth y Loteri Genedlaethol, Becwedd Beecroft y Gymdeithas Amgueddfeydd, Ymddiriedolaeth Dyffryn Wysg a chronfa pryniant amgueddfeydd MonLife, bydd ‘trysor lleol’ – paentiad gan JMW Turner yn dod gartref i Gas-gwent yn fuan. Mae dyfrlliw Turner o Gastell Cas-gwent yn un o ddim ond dau o weithiau gan yr artist y gwyddys eu bod yn dangos yr olygfa eiconig o’r castell ger Afon Gwy.
Mae Treftadaeth MonLife wedi sicrhau’r tirlun hardd a gaiff ei arddangos yn yr haf yn amgueddfa Cas-gwent a gobeithir y bydd cynifer o bobl leol ag sydd modd yn ymweld i edrych ar y paentiad a chael eu hysbrydoli ganddo.
Caiff Joseph Mallord William Turner (1775-1851) ei gydnabod fel efallai yr artist ‘Rhamantus’ Prydeinig gorau a chyfeirir ato yn aml fel “paentiwr goleuni” oherwydd ei allu i gyfleu tirluniau a morluniau egnïol ar bapur a chanfas.
Dim ond 19 oed oedd Turner pan baentiodd y dyfrlliw o Gastell Cas-gwent yn 1794 a chredir iddo gael ei greu fel canlyniad i daith gyntaf yr artist o Dde Cymru. Unwaith y caiff ei arddangos yn Amgueddfa Cas-gwent, bydd y paentiad yn helpu i gyfleu stori Sir Fynwy y 18fed ganrif a hefyd gariad Turner at y sir.
Dywedodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol a Gweithredol: “Mae’n newyddion gwych y bydd y paentiad yn dychwelyd i Gas-gwent lle gwnaeth Turner ei baentio yn 19 oed. Daw yn em yng nghasgliad paentiadau a darluniau Sir Fynwy a ysbrydolwyd gan Ddyffryn Gwy. Gobeithiaf y bydd artistiaid ifanc heddiw yn ei weld ac yn cael eu hysbrydoli. Roeddem wedi credu y byddai prynu gwaith celf pwysig fel hyn allan o’n cyrraedd, nes i gyllidwyr hael gamu mewn i arbed y paentiad ar gyfer y genedl a Sir Fynwy.”
Caiff paentiad Turner ei arddangos yng Nghas-gwent yn yr haf, yn y cyfamser i ganfod mwy am amgueddfeydd Sir Fynwy a’u harddangosiadau cyfredol ewch i https://www.monlife.co.uk/heritage/
Cadarnhawyd y llynedd mai Cas-gwent fyddai’r dref nesaf i elwa o’r Prosiect Gofodau Natur, a hynny ar ôl cwblhau’r cynlluniau yn Nhrefynwy. Gofynnwyd i drigolion a budd-ddeiliaid am eu barn yn Hydref 2022 ar y gwelliannau posib ar gyfer gofodau gwyrdd. Mae’r prosiect nawr yn dechrau siapio ac mae’n amser i rannu eich adborth ar y pedwar cynllun arfaethedig yn y dref.
Y pedwar safle yng Nghas-gwent sydd i’w datblygu y tro hwn yw: y Danes, Severn Crescent, Ffordd Woolpitch a Ffordd Strongbow. Mae’r safleoedd yma wedi eu dewis yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod camau cyntaf yr ymgynghoriad a lle mae’n bosib diwallu anghenion yr amgylchedd a’r gymuned.
Mae trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i ymweld gyda thudalennau gwe Gofodau Natur Cymunedol er mwyn gweld y dyluniadau a rhannu eu hadborth erbyn 10fedMawrth 2023. Yn dilyn y cyfnod hwn i rannu adborth, mae’r Cyngor am barhau i reoli a gwella gofodau gwyrdd, ac felly, rydym yn croesawu awgrymiadau ar unrhyw adeg.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol ac Egnïol: “Rwyf yn falch iawn i weld y pedwar cynllun yma oll yn cael eu datblygu drwy gyfrwng y cynigion yma ar gyfer Cas-gwent. Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad y llynedd yn ffantastig ac wedi helpu i lywio’r cynlluniau yma. Rwyf yn disgwyl ymlaen at weld Cas-gwent yn cael gofodau newydd, gwyrdd a hyfryd ar gyfer mwynhau ac ymlacio ynddynt yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Bydd y gofodau yn ymgyfoethogi’r amgylchedd yng Nghas-gwent ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Byddant hefyd yn cynnig buddion iechyd a lles i bawb. Byddem yn annog cynifer o bobl ag sydd yn bosib i rannu eu hadborth er mwyn gwneud y gofodau yma yn ofodau gwirioneddol ar gyfer y gymuned.”
Mae’r Prosiect Gofodau Natur Cymunedol, a gefnogwyd gan gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, yn anelu i wella ein gofodau gwyrdd ar gyfer natur a chefnogi cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles. Mae modd gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd, fel plannu coed, neilltuo lleoedd ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned a phlannu blodau gwyllt ar gyfer pryfed peillio. Bydd modd mynd yn agos at fyd natur yno a bod yn egnïol.
Last year it was confirmed that Chepstow would be the next town to benefit from the Community Nature Spaces Project following the completion of schemes in Monmouth. Residents and stakeholders were asked for their views on possible enhancements for green spaces in the Autumn of 2022. The project is now progressing and it’s time to share your feedback on the four proposed schemes around the town.
The four Chepstow sites that will be taken forward at this time are: The Danes, Severn Crescent, Woolpitch Road and Strongbow Road. These sites have been selected based on responses received during the first stages of the consultation and where it’s possible to meet the needs of the environment and the community.
Residents, businesses and community groups are encouraged to visit the Community Nature Spaces webpage to see the designs and share their feedback by 10th March 2023. Following this feedback period, the council wants to continue management and enhancement of green spaces, so ideas are welcomed at any time.
Cllr. Sara Burch, Cabinet Member for Active & Inclusive Communities said: “I am pleased to see the four schemes taking shape in these proposals for Chepstow. The response to the consultation last year was fantastic and has helped to shape these schemes. I look forward to Chepstow having new, green and beautiful spaces to enjoy and relax in in the future.”
Cllr. Catrin Maby, Cabinet Member for Climate Change & the Environment said: “These spaces will enrich the environment in Chepstow for people and for wildlife. They will also bring health and wellbeing benefits for everyone. I would encourage as many local people to share their feedback as possible and help make these spaces truly for the community.”
The Community Nature Spaces Project, supported by Welsh Government’s Local Places for Nature funding, aims to improve our green spaces for nature and help support opportunities for health and wellbeing. This can be done in a variety of ways, such as by planting trees, adding raised beds for community food growing and increasing wildflower planting for pollinators. They will be places to get up close to nature and get active. To find out more visit: www.monlife.co.uk/outdoor/consultation-community-nature-spaces/
Dechreuodd y gwaith ar Drybridge Street ddechrau mis Chwefror; fodd bynnag, cafodd y cynllun ei ohirio ar unwaith wrth i gontractwyr dorri drwy brif bibell ddŵr Dŵr Cymru heb ei mapio. Roedd hyn oherwydd ei fod wedi’i osod yn rhy fas i fodloni’r safonau gofynnol arferol. Bu’n rhaid oedi’r cynllun cyfan tra wnaeth Dŵr Cymru gynnal archwiliadau a cwhblhau’r gwaith atgyweirio angenrheidiol i’r brif bibell ddŵr a’r cwlfert gerllaw. Bu’n rhaid gwneud rhywfaint o waith ail-ddylunio ar y llwybrau troed hefyd er mwyn osgoi rhwystrau pellach a oedd wedi cyflwyno’r gwaith cychwynnol iddynt eu hunain.
Mae rhywfaint o waith wedi’i wneud ar wahanol rannau o’r cynllun, gyda’r gwaith o ledu’r llwybr troed rhwng mynedfa’r parc sglefrio a’r gyffordd yn Drybridge House bron wedi’i gwblhau. Er bod y cynllun ar ei hôl hi, mae’r gwaith cyfyngedig hwn wedi galluogi’r cynllun i barhau. Yn anffodus, ni fydd y dyddiad cwblhau gwreiddiol, tua chanol mis Ebrill yn bosibl ac felly mae dyddiad cwblhau diwygiedig bellach wedi’i osod ar gyfer canol Mai 2024.
Y gwaith i’w gwblhau o hyd yw:
Gosod man croesi o Drybridge House ar draws Heol Rockfield i’r llwybr troed newydd ger y parc sglefrio
Rhoi blaenoriaeth i groesi cyffordd “T” yn lle’r gylchfan fach bresennol
Lledu’r droedffordd ar ochr ogleddol Heol Wonastow i gysylltu â llwybr Williams Field Lane
Lledu rhan fer o Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy.
Yn sgil sawl ymholiad a pheth dryswch, hoffem gadarnhau na fydd goleuadau traffig parhaol yn cael eu gosod fel rhan o’r cynllun terfynol. Mae’r goleuadau traffig yno ar hyn o bryd dros dro tra bod y gwaith yn mynd rhagddo a byddant yn cael eu tynnu oddi yno unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau.
Mae’r llwybr hwn yn darparu cysylltiad hanfodol fel rhan o’n rhwydwaith teithio llesol cyffredinol yn Nhrefynwy ac yn parhau i ddarparu’r seilwaith i alluogi trigolion i symud tuag at ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar Lwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy
Gan ddechrau ar y 22ain Ionawr, bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau gweithio ar lwybr teithio llesol newydd, Llwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a Chronfa Dyrannu’r Gronfa Lles Craidd, a’i nod yw datblygu llwybr teithio llesol newydd sbon yn Nhrefynwy.
Mae’r llwybr hwn yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith Teithio Llesol cynhwysfawr. Bydd yn darparu mynediad uniongyrchol i Bont Mynwy a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yng nghanol y dref. Bydd y llwybr yn cysylltu Lôn Cae Williams â chanol tref Trefynwy drwy Heol Wonastow a Stryd Drybridge. Bydd hefyd yn darparu cysylltiadau o barc sglefrio Heol Rockfield i ganol y dref.
Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn gweld nifer o newidiadau ar hyd y llwybr. Maent yn cynnwys:
Lledu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol Heol Wonastow i gynnwys llwybr troed/beic a rennir (bydd dwy lôn ar gyfer traffig yn cael eu cynnal).
Gosod cyffordd â blaenoriaeth (cyffordd T) yn lle’r gylchfan fach bresennol yn Heol Wonastow /Rockfield.
Darparu croesfan i gerddwyr ar Heol Wonastow a Heol Rockfield.
Lledu’r droedffordd bresennol ar Heol Rockfield o’r gyffordd flaenoriaeth newydd i barc sglefrio Trefynwy. Bydd traffig dwy ffordd yn cael ei gynnal, ac ni fydd yn effeithio ar safleoedd bysiau.
Lledu rhan fer o’r llwybr troed presennol ar hyd Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy
Cael gwared ar rannau o barcio ar y stryd ar hyd Heol Wonastow i ddarparu’r llwybr yn unol â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol.
Disgwylir i’r gwaith barhau am 12 wythnos, gyda’r nod o orffen erbyn canol mis Ebrill 2024. Bydd y llwybr hwn yn darparu cysylltiadau â lleoliadau addysg, megis Ysgol Gynradd Overmonnow ac Ysgol Gyfun Trefynwy, a bydd yn gyswllt canolog â chanol y dref a’i chyfleusterau. Bydd angen goleuadau traffig dros dro ar gyfer y gwaith ac maent wedi’u trefnu gan ystyried gwaith ffordd arall sydd wedi’i gynllunio yn yr ardal i leihau’r effaith.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae hwn yn gam cyffrous yn natblygiad Llwybr Teithio Llesol yn Nhrefynwy. Bydd ehangu llwybrau troed yn darparu llwybr mwy diogel i feicwyr a cherddwyr wrth iddynt teithio o gwmpas Trefynwy.”
Hoffem roi diweddariad i chi ar y cynnig ar gynnydd dolen Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy ers yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein diwethaf ym mis Chwefror 2022.
Pam y cafodd newidiadau eu cynnig?
Cafodd yr angen am ddolen Teithio Llesol yn y lleoliad yma ei adnabod gyntaf pan gyflwynwyd Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy i Lywodraeth Cymru yn 2018. Mae’r ddolen rhwng y fynedfa i Lôn Cae Williams a Phont Mynwy yn gymharol fyr ond mae’n bwysig i’r rhwydwaith Teithio Llesol ehangach gan y bydd yn rhoi mynediad uniongyrchol i Bont Mynwy a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yng nghanol y dref. Bydd y llwybr yn cysylltu Lôn Cae Williams gyda chanol Trefynwy drwy Heol Wonastow a Stryd Drybridge, a hefyd yn rhoi cysylltiadau o barc sglefrio Heol Rockfield i ganol y dref. Ar ben Heol Wonastow, byddai’r llwybr arfaethedig yn cysylltu gyda llwybr teithio llesol arall yn rhedeg rhwng datblygiad Kingswood Gate a Lôn Cae Williams. Bu’r datblygiad tai newydd yn Kingswood Gate yn un o’r sbardunau allweddol am y newidiadau a gynigir. Mae’n anochel y bydd twf yn y boblogaeth leol yn arwain at fwy o deithiau a phwysau ar y rhwydwaith priffyrdd lleol. Gall hyn arwain at fwy o dagfeydd, llygredd a mwy o effeithiau negyddol ar yr economi. Mae gan gerdded a seiclo rôl sylweddol wrth wneud i drafnidiaeth redeg yn fwy effeithiol. Felly, i alluogi symudedd effeithiol a chynaliadwyedd, ni fu integreiddio cynllunio a thwf tai gyda chynllunio trafnidiaeth o’r cychwyn cyntaf erioed yn bwysicach. Cafodd dau gyfnod cyntaf llwybr Kingswood i Lôn Cae Williams eu hadeiladu eisoes a byddai’r cynllun a gynigir yn clymu mewn i’r llwybr newydd hwn yng nghyffordd Heol Wonastow/Lôn Cae Williams. Dangosir ardal yr astudiaeth yn Ffigur 1.
Amcanion y Cynllun
Darparu rhwydwaith cerdded a seiclo cydlynus, uniongyrchol, diogel, cysurus a deniadol o Overmonnow i’r cymunedau o amgylch cymunedau, gwasanaethau a chyfleusterau ar draws Trefynwy.
Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i gyflogaeth, iechyd, addysg a gwasanaethau;
Cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch gwirioneddol a thybiedig cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn ar hyd ac ar draws ardal yr astudiaeth;
Sicrhau newid dull teithio yn Nhrefynwy tuag at ddulliau mwy cynaliadwy ar gyfer pob taith; a
Gostwng effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.
Proses WelTAG
Bydd y cynllun arfaethedig yn gofyn am gymeradwyaeth a chyllid o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a chafodd felly ei ddatblygu yn unol ag Arweiniad Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Mae proses WelTAG yn cynnwys cylch oes cyflawn ymyriad arfaethedig yn y system drafnidiaeth o asesu’r broblem, ystyried datrysiadau a dyluniad cynllun posibl, hyd at weithredu ac arfarnu prosiect. Mae astudiaethau WelTAG yn rhan hanfodol o brif brosiectau trafnidiaeth Cymru i helpu penderfynu pa rai yw’r datrysiadau mwyaf addas i’w datblygu, ac yn bwysig wrth gefnogi cynigion i Lywodraeth Cymru ar gyfer grantiau cyllid i gwblhau’r gwaith. Fel arfer caiff cynlluniau hyn eu datblygu dros nifer o flynyddoedd o’r cysyniad hyd at y dyluniad manwl ac maent wedyn yn dibynnu ar gymeradwyaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu.
Cyhoeddwyd arweiniad arfarniad trafnidiaeth neilltuol ar gyfer Cymru yn 2008 a’i ddiweddaru yn 2017. Cyhoeddwyd drafft ganllawiau newydd yn 2022 i adlewyrchu Llwybr Newydd, strategaeth trafnidiaeth newydd Cymru 2021. Mae WelTAG yn cynnwys cyfres o gamau cynllunio prosiect sy’n dilyn bywyd prosiect, rhaglen neu bolisi o syniadau cynnar trwodd i’w gwblhau. Mae gan WelTAG bum cam, fel y dangosir yn Ffigur 2. Cafodd camau 1 a 2 y prosiect eu cwblhau ym mis Awst 2022, a rydym ar WelTAG Cam 3 ar hyn o bryd.
Cam Un Achos Strategol Amlinellol
Cam Dau Achos Busnes Amlinellol
Cam Tri Achos Busnes Llawn
Cam Pedwar Gweithredu
Cam Pump Yn dilyn gweithredu
Materion/Problemau Amcanion Rhestr Hir o Opsiynau
Dichonolrwydd/ Dyluniad Amlinellol Opsiynau ar y Rhestr Fer
Dyluniad Manwl o’r Opsiwn a Ffefrir Terfynol
Gweithredu
Monitro yn Dilyn y Cynllun
Cliciwch yma i weld drafft newydd Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (heb ei fabwysiadu hyd yma
Ar ddechrau’r prosiect hwn ac yn unol â phroses WelTAG datblygodd tîm y prosiect restr eang o ddatrysiadau posibl, digon i fedru penderfynu os oes unrhyw opsiynau cynllun sy’n werth eu dilyn a dewis rhestr fer o opsiynau ar gyfer ystyriaeth mwy manwl. Datblygwyd y rhestr hir o opsiynau ar ddeilliannau cyfnod cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus (a gynhaliwyd rhwng 9 Mehefin a 2 Gorffennaf 2021), ymgysylltu gyda’r rhanddeiliaid allweddol (swyddogion Cyngor Sir Fynwy, Cynghorwyr, Trafnidiaeth Cymru, grwpiau’n cynrychioli pobl gydag anableddau, Sustrans, gweithredwyr bws ac yn y blaen), ymweliadau safle, sesiynau sesiynau taflu syniadau gyda’r tîm dylunio prosiect a’r angen i alinio gyda’r blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru a nodir yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Cytunwyd ar y rhestr hir o opsiynau gyda Chyngor Sir Fynwy ac maent yn cynnwys naw opsiwn. Cafodd y naw opsiwn eu hidlo yn dibynnu ar:
Y gallu i atal neu ddatrys y broblem nawr ac yn y dyfodol
Y gallu i gyflawni’r amcanion a osodwyd a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru
Effeithiau tymor byr a hirdymor i sicrhau buddion lluosog ar draws pedair agwedd llesiant ac uchafu cyfraniad i bob un o saith nod llesiant Cymru;
Ymarferoldeb; a
Cydnerthedd i ansicrwydd a’r potensial i yrru newid hirdymor.
Rhoddwyd tri opsiwn ar y rhestr fer i fynd ymlaen i Gam 2 nesaf y broses arfarnu ar gyfer asesiad mwy trwyadl. Allwedd i’r broses hidlo oedd yr ail gyfnod o ymgynghori cyhoeddus, a gynhaliwyd rhwng 5 Ionawr a 16 Chwefror 2022. Fe wnaeth cyfanswm o 133 aelod o’r cyhoedd ymateb i’r holiadur ymgynghori ar-lein, gyda 41% ohonynt yn dewis y cynnig presennol fel yr opsiwn a ffafrir. Dewisodd 28% Opsiwn 9 (dim gwelliannau, dim ond cynnal a chadw arferol), dewisodd 20% Opsiwn 8&4 (lon feiciau ar y gerbytffordd ar hyd Heol Wonastow a gwelliannau cerdded a seiclo ar Heol Somerset a Lôn Goldwire) a 11% yn ffafrio Opsiwn 5 (gwelliannau i’r droetffordd gyda lôn seiclo ar y gerbytffordd ar hyd Heol Wonastow i Bont Mynwy ar hyd yr B4233). Fel canlyniad, cafodd Opsiwn 2 (a fanylir isod) ei argymell fel opsiwn a ffefrir ar ddiwedd astudiaeth WelTAG Cam 1 a 2.
Yn ddilynol, comisiynodd Cyngor Sir Fynwy astudiaeth Cam 3 a buont yn gwneud tasgau i alluogi gweithredu y cynigion, tebyg i:
Arolwg traffig yng nghyffordd cylchfan fach Heol Wonastow/Heol Rockfield i alluogi gwaith modelu traffig;
Gosod synwyryddion deallusrwydd artiffisial i gasglu data di-enw 24/7 ar ddulliau traffig, llif traffig a phatrymau teithio o fewn ardal yr astudiaeth;
Cynnal arolwg parcio 12-awr ar 11 Hydref 2022 ar hyd Heol Wonastow;
Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda’r cynghorwyr lleol am y cynnig i ddileu parcio er mwyn i’r llwybr gydymffurfio gyda Chanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol;
Dosbarthu llythyrau i breswylwyr ar hyd Heol Wonastow i’w hysbysu am y cynnig i ddileu gofodau parcio ceir;
Ychwanegwyd rhan o Heol Rockfield at ardal yr astudiaeth er mwyn gwella cysylltiad gyda Pharc Sglefrio Trefynwy a maes parcio Heol Rockfield;
Paratoi am fwy o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid (tebyg i weithdai rhanddeiliaid a chyfarfodydd technegol); a
Dylunio cynllun mwy manwl ynghyd ag Archwiliad Cam 4 Diogelwch Ffyrdd a datblygu amcangyfrif cost adeiladu’r cynllun.
Cynnig
The proposed scheme would provide the following:
Lledu’r droetffordd bresennol ar ochr ogleddol Heol Wonastow i roi troetffordd.lôn seiclo rhannu defnydd 3m-35m o led a gyflawnir drwy gulhau ychydig ar y gerbytffordd (cedwir dwy lon ar gyfer traffig);
Rhoi cyffordd blaenoriaeth yn lle’r gylchfan fach bresennol ar HeolWonastow/Heol Rockfield, gyda Heol Wonastow yn dod yn fân fraich. Bwriad y newid hwn yw gwrthannog traffig trwm rhag defnyddio’r ffyrdd a nodir uchod a’u hannog i ddefnyddio’r Ffordd Gyswllt yn lle. Cynhaliwyd gwaith modelu i sicrhau y bydd y gyffordd yn parhau i weithredu o fewn capasiti ar ôl iddi gael ei throsi;
Darparu croesfan syml heb ei rheoli i gerddwyr ar Heol Wonastow, yn union i’r gorllewin o’r gyffordd blaenoriaeth newydd. Byddai gan y croesiad gyrbiau isel a phalmant botymog melyn.
Darparu croesiad cyfochrog ar Heol Rockfield yn union i’r gogledd o’r gyffordd blaenoriaeth newydd. Mae croesiad cyfochrog ar gyfer cerddwyr a seiclwyr yn rhoi datrysiad sy’n ymyl ei gilydd o gymharu â chyfleusterau gyda signalau. Mae’r croesiad yn debyg i groesiad Sebra ond gyda chroesiad ar wahân i feiciau a ddangosir gan farciau ‘Ôl Troed Eliffant’ a symbolau beic rhwng streipiau Sebra a llinell ildio.
Lledu’r llwybr troed presennol ar ochr ddwyreiniol Heol Rockfield o’r gyffordd blaenoriaeth newydd i Barc Sglefrio Trefynwy. Cyflawnir hyn drwy gulhau ychydig ar y gerbytffordd. Byddai traffig yn dal i fedru defnyddio’r ddwy lon ac ni effeithid ar y safleoedd bws presennol (dim ond y llwyfan yn y safle bws ar ochr orllewinol y ffordd a gaiff ei symud ychydig i’r gogledd);
Ychwanegu palmant botymog i’r croesiad heb ei reoli ar Heol Rockfield, ger y fynedfa i Barc Sglefrio Trefynwy.
I hwyluso cerddwyr, byddid yn rhoi croesiad syml heb ei reoli i ogledd y safleoedd bws presennol, gyda chwrbin isel a phalmant botymog melyn;
Lledu adran fer o’r droetffordd bresennol ar hyd B4233 Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy;
Dileu rhai o’r lleoedd o’r parcio ar y stryd ar hyd Heol Wonastow i gyflenwi’r llwybr yn unol â chanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol. I ganiatáu hyn, mae’r cynllun yn cynnig parcio trwydded YN UNIG ar gyfer rhan fawr ar hyd Stryd Drybridge, tra’n dal i gynnal ardal fach ar gyfer arhosiad byr. Ni chafodd union ddyluniad y parcio ei gadarnhau hyd yma a chytunir arno ar y cam dylunio manwl. Caiff dileu y parcio ar y stryd yma ei gynnwys yng Ngorchymyn Diwygio Traffig Rhif 11 Cyngor Sir Fynwy, yr ymgynghorir arno ym mis Mai 2023.
Cyllid gweithgaredd adeiladu dibynnol ar gyllid a Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parcio dibynnol (Mehefin-Medi 2023)
Monitro ar ôl y cynllun (Hydref 2023, Hydref 2024)
Dweud eich Barn
Os hoffech roi unrhyw sylwadau ar gynnig y cynllun, cyflwynwch y ffurflen yma os gwelwch yn dda.
Drwy lenwi’r arolwg, rydych yn cytuno i’r data gael ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwn gan Gyngor Sir Fynwy a gan WSP (RE&I). Caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gan Gyngor Sir Fynwy ar ran WSP (RE&I).
Dim ond ar gyfer y diben hwn y byddwn yn casglu eich data a bydd unrhyw ddata a gaiff ei rannu yn ddienw. Nid yw’r ffurflen hon yn casglu eich enw na’ch manylion cyswllt. I gael mwy o wybodaeth am breifatrwydd ewch i:
Mae MonLife, sy’n rhedeg gwasanaeth Treftadaeth MonLife Cyngor Sir Fynwy, wedi sicrhau dau ddyfarniad cyllid gwerth dros £415,000 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r dyfarniad yn galluogi Treftadaeth MonLife i weithio’n agos gyda chymunedau yn Sir Fynwy, dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod straeon pawb yn cael eu hadrodd yn amgueddfeydd y sir.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £241,697 ar gyfer y prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ sy’n darganfod a rhannu casgliad hanes lleol Trefynwy. Bydd y gwaith hwn yn trawsnewid sut y cofnodir casgliadau hanes lleol Trefynwy, gan eu gwneud yn berthnasol i gymunedau heddiw.
Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025 a bydd y tasgau’n cynnwys: Gwella cronfa ddata catalogau cyfrifiadurol a chomisiynu adroddiad ar arteffactau ymerodraethol, caethwasiaeth a gwladychiaeth o fewn y casgliad hanes lleol, i ategu adroddiadau a gynhyrchwyd yn ddiweddar am gasgliadau amgueddfeydd yn y Fenni a Chas-gwent.
Bydd tîm Treftadaeth MonLife yn gweithio gyda grwpiau cymunedol amrywiol i archwilio’n gritigol sut a beth sy’n cael ei gofnodi am gasgliadau, gan gynnwys nodi termau allweddol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Chyngor Hil Cymru i gefnogi sesiynau gyda grwpiau hil amrywiol; y rhai sydd ag anabledd a’r gymuned LHDTC+, ac yn gweithio gyda phobl sy’n deall ecoleg a newid yn yr hinsawdd.
Bydd y prosiect hwn yn arwain at arddangosfa deithiol gymunedol wedi’i chyd-guradu, sy’n archwilio’r cwestiwn “Beth sy’n gwneud Trefynwy?” Bydd hyn yn golygu bod modd clywed gwahanol safbwyntiau, archwilio cyd-destunau newydd ac adrodd amrywiaeth o straeon. Bydd yr arddangosfa yn mynd o amgylch lleoliadau cymunedol, gan rannu casgliadau gyda chynulleidfaoedd newydd na fyddai efallai wedi ymweld â’r amgueddfa o’r blaen. Bydd cyd-arddangosfa yn y Neuadd Sirol yn galluogi themâu a archwilir yn y prosiect i gael eu harddangos a threialu dulliau newydd cyn ailddatblygiad Amgueddfa’r Neuadd Sirol. Bydd rhaglen ymgysylltu cymunedol o sesiynau dysgu, gweithdai trafod, sesiwn y Dadeni a gweithgareddau crefft yn hwyluso trafodaeth am ein casgliadau.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae treftadaeth ar gyfer pawb, ac rydym am weld ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth, a dyna pam rydym yn cefnogi prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ Cyngor Sir Fynwy. Trwy ein cyllid rydym yn ceisio dod â chymunedau ynghyd drwy ymgysylltu’n ddyfnach â threftadaeth, yn enwedig drwy ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddod â threftadaeth i gynulleidfaoedd newydd. Bydd hyn yn helpu i drafod ac archwilio ein treftadaeth fel y gall pobl a chymunedau ledled Cymru ymgysylltu â, dehongli, a chyd-ddeall ein gorffennol.”
I gefnogi casgliadau Treftadaeth MonLife yn Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, mae MonLife wedi derbyn £173,318 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid ar gyfer y prosiect ‘Ymchwilio, ail-archwilio ac adennill: etifeddiaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy’. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at y nodau treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Atal Hiliol Cymru. Mae’r wobr yn adeiladu ar waith a ddechreuwyd yn y ddwy amgueddfa, a bydd yn arwain at well dehongliad o’r casgliadau, gan gynrychioli’n well eu cysylltiadau â chaethwasiaeth, gwladychu ac ymerodraeth a chydnabod rôl cymunedau Sir Fynwy yn y gorffennol mewn caethwasiaeth, ymerodraeth a globaleiddio.
Gyda gyda Chyngor Hil Cymru, bydd Treftadaeth MonLife yn cynnal gweithdai cymunedol i archwilio ffyrdd o ddehongli’r casgliadau’n well. Bydd cydweithio â’r cymunedau’n galluogi’r tîm Dysgu a Churaduriaeth i greu rhaglen weithgareddau, sy’n debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd mewn lleoliadau Sir Fynwy. Yn ogystal, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a threftadaeth leol.
Ymwelodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, ag Amgueddfa’r Fenni yn ddiweddar a dywedodd: “Roedd yn ardderchog i ddysgu mwy am sut y bydd ein cyllid yn cael ei ddefnyddio gan MonLife. Mae angen i’n hamgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, theatrau, a lleoliadau chwaraeon cenedlaethol a lleol fod yn gynhwysol o bobl a lleoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Rhaid i’n diwylliant, ein treftadaeth a’n gwasanaethau chwaraeon fod yn gymwys yn ddiwylliannol ac yn adlewyrchu’r hanes a’r cyfraniad a wnaed gan bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i’r gymdeithas yng Nghymru.
“Rydw i wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau a’r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o fewn fy mhortffolio. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae prosiect MonLife yn cyfrannu at ein cynnydd parhaus wrth i ni sicrhau newid ystyrlon gyda phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru, ac ar eu cyfer.”
Mae’r gwaith hwn yn ategu penderfyniad diweddar Cyngor Sir Fynwy i ddod yn aelod o rwydwaith Dinas Noddfa ac i ddechrau’r broses o wneud cais ffurfiol i fod yn sir noddfa i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithredol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr arian yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd yn arwain at welliannau arwyddocaol yn y ffordd mae ein casgliadau treftadaeth yn cael eu dehongli, eu harddangos a’u cyfathrebu. Bydd y gweithgareddau, sydd wedi eu cynllunio yn y ddwy raglen hyn, yn ein helpu i nodi a rhannu â phobl y straeon sy’n gysylltiedig â’n casgliadau a’n bro, sy’n dathlu amrywiaeth ddiwylliannol lawn ein cymunedau yn Sir Fynwy a bydd yn galluogi cynrychiolaeth o’n holl gymunedau yn ein hamgueddfeydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Hil Cymru i sicrhau bod ein casgliadau yn berthnasol, yn barchus ac yn gynhwysol.”