Gweinidog yn ymweld â rhaglenni haf y Fenni
Ymwelodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans AoS â rhaglenni haf Cyngor Sir Fynwy yn y Fenni’n ddiweddar.
Yng nghwmni Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby a’r Cynghorydd Sirol Angela Sandles, yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, dangoswyd i’r Gweinidog, dwy ddarpariaeth haf sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd.
Dros wyliau’r ysgol, gall pobl ifanc gymryd rhan mewn rhaglenni haf ledled Sir Fynwy. Gyda chefnogaeth Rhaglen Bwyd a Hwyl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, bydd gan blant y sir le diogel i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chael mynediad at fwyd iach drwy gydol yr haf.
Yn ystod yr ymweliad, dangoswyd i’r Gweinidog y ddarpariaeth bresennol yn Ysgol Gynradd Deri View a chanolfan ieuenctid Y Caban.
Yn Ysgol Gynradd Deri View, dangoswyd y rhaglen Bwyd a Hwyl i’r Gweinidog, sy’n caniatáu i blant ysgolion cynradd wneud gweithgareddau corfforol a dysgu am fwyd a maeth. Mae’r rhaglen Hwyl a Bwyd yn cael ei rhedeg ar draws pedwar safle yn Sir Fynwy am 24 diwrnod dros yr haf. Ar draws y rhaglenni yng Nghil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a’r Fenni mae dros 700 o blant wedi cofrestru i gymryd rhan dros yr haf eleni.
Ynghyd â darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc, mae’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn darparu cyflogaeth leol gyda mwy na 75 o bobl yn cael eu cyflogi i gyflawni’r cynllun.
Dros yr haf, mae canolfannau ieuenctid ar draws y sir ar agor i bobl ifanc 11-25 oed ymweld â nhw. Wedi’i gefnogi gan Gynllun Cymorth Bwyd Uniongyrchol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael yn Y Caban, yn dibynnu ar anghenion, dymuniadau a syniadau’r bobl ifanc. Mae’r rhain wedi cynnwys datblygu sgiliau bywyd trwy goginio a gweithgareddau bwyd. Mae’r holl weithgareddau yng nghanolfannau ieuenctid ledled y sir wedi’u cynllunio gan ystyried yn llawn y blaenoriaethau a nodwyd gan bobl ifanc drwy ymgynghoriad Gwneud eich Marc eleni.
Mae’r Ymgynghoriad Gwnewch eic Marc yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ar draws Sir Fynwy i roi adborth ar faterion yr oeddynt yn teimlo oedd wedi effeithio ar eu bywydau. Cafodd pobl ifanc ddeg pwnc a ddewiswyd gan Gyngor Ieuenctid Sir Fynwy. O’r deg pwnc a drafodwyd eleni, dywedodd pobl ifanc mai eu pryder mwyaf oedd yr argyfwng costau byw, gyda’r effaith ar eu bywydau cymdeithasol, cyfleoedd yn y dyfodol, a lles cyffredinol yn dylanwadu ar hyn.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby: “Roedd yn wych croesawu’r Gweinidog i’r Fenni a dangos y cyfleoedd gwych a ddarparwn ar draws gwyliau’r ysgol. Trwy gyllid gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae gan bobl ifanc yn Sir Fynwy fynediad at raglenni hwyliog ac addysgol dros yr haf. Roedd yn wych gweld y wên ar wynebau pawb a siarad â’r bobl ifanc oedd yn bresennol.”
Mae MonLife yn darparu ystod eang o weithgareddau i blant a phobl ifanc dros yr haf eleni. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.monlife.co.uk/cy/school-holiday-activities