Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer dau gynllun Grant Gwella Mynediad newydd gyda’r nod o wella mynediad i atyniadau ymwelwyr Sir Fynwy neu ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr.
Ariennir y ddau gynllun grant o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Y cyntaf yw Cynllun Cefnogi Gwella Mynediad i Ddigwyddiadau, sy’n cynnig grantiau refeniw o hyd at £5,000 i ymgeiswyr sydd am wella mynediad mewn digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr a/neu gynnig gweithgareddau cynhwysol newydd mewn digwyddiadau yn Sir Fynwy.
Yr ail yw Cynllun Grant Cyfalaf Gwella Mynediad, sy’n cynnig grantiau cyfalaf o hyd at £25,000 i sefydliadau yn Sir Fynwy sy’n ceisio gwella mynediad at atyniadau a digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr.
Bydd ceisiadau ar gyfer y ddau gynllun grant yn cael eu hasesu rhwng nawr a diwedd Rhagfyr 2024 (pan fydd y cynllun yn cau) neu cyn hynny os dyrennir yr holl gyllid.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’r grantiau hyn yn rhoi cyfle gwych i wella hygyrchedd digwyddiadau ac atyniadau yn Sir Fynwy er budd pawb, boed nhw yma am ddiwrnod, wythnos neu oes. Byddwn yn annog unrhyw sefydliad sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i gyflwyno cais.”
Mae’r cynlluniau grant yn rhan o brosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin ehangach Llywodraeth y DU i ddatblygu Sir Fynwy fel cyrchfan i bawb. Mae gweithgareddau arfaethedig eraill yn cynnwys datblygiadau i wella hygyrchedd gwefan y gyrchfan, www.VisitMonmouthshire.com a chyngor a hyfforddiant arbenigol i fusnesau twristiaeth ar fynediad a chynwysoldeb.
Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy agoriad swyddogol o gyrtiau pêl-fasged, pêl-rwyd a thenis newydd Canolfan Hamdden Cil-y-coed ar ddydd Iau, 1af o Dachwedd.
Bydd y safle defnydd deuol yn darparu ar gyfer diwallu anghenion y cwricwlwm, gyda’r ysgol uwchradd ar y safle ac ysgolion cynradd clwstwr lleol, yn ogystal â’r defnydd cymunedol gyda’r nos ac ar benwythnosau, a hynny diolch i’r llifoleuadau bylbiau LED newydd uwchben y cyrtiau. Gellir archebu lle drwy’r wefan, ap neu yn y dderbynfa yn y ganolfan hamdden.
Mae Canolfan Hamdden Cil-y-coed yn ganolfan wych i lawer o glybiau, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Yn ogystal â’r cyrtiau defnydd deuol newydd sydd â chylchoedd pêl-fasged newydd sbon y gellir addasu eu huchder, sy’n darparu ar gyfer pob oed a gallu, gall ymwelwyr gael mynediad i gae 3G gyda llifoleuadau (cymeradwywyd gan FIFA), maes Astroturf maint llawn, neuadd chwaraeon amlbwrpas, ystafell ffitrwydd, cyrtiau sboncen a phwll nofio 20m. Er mwyn dysgu mwy am y ganolfan hamdden, ewch i https://www.monlife.co.uk/monactive/caldicot-leisure-centre/
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Bydd y cyrtiau newydd sy’n agor yn swyddogol heddiw yn chwarae rhan hanfodol wrth ganiatáu i ddisgyblion lleol, grwpiau ieuenctid, trigolion a’r gymuned ehangach i fyw bywyd gweithgar, iachus drwy gydol y flwyddyn. Ni allaf aros i weld pawb yn elwa o’r cyfleuster newydd anhygoel hwn.”
Mae hanner tymor bron yma a hydref eleni bydd llu o hwyl i’r teulu i’w fwynhau ar hyd a lled Sir Fynwy.
O nofio i grefftau, pêl-droed i rywbeth arswydus, bydd rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau yn ystod wythnos hanner tymor yr hydref (30 Hydref – 5 Tachwedd).
Mae MonLife yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau i gadw’ch plant bach yn brysur yn ystod hanner tymor.
Yn ystod hanner tymor, bydd MonLife yn cynnal sesiynau Chwarae Gweithredol AM DDIM yng nghanolfannau hamdden y Fenni, Cas-gwent, Cil-y-coed a Threfynwy. Mae’r rhaglen ‘Chwarae’ yn 1 awr a 55 munud, lle gellir gadael plant 5-11 oed gyda’n gweithwyr chwarae hynod hyfforddedig a phrofiadol, a dewis o amrywiaeth o weithgareddau i’w chwarae gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd.
Bydd MonLife hefyd yn cynnal sesiynau Aros a Chwarae am ddim yn ystod hanner tymor, lle gall plant a theuluoedd ddewis yn rhydd o lawer o weithgareddau gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd. Nodwch fod angen goruchwyliaeth gan rieni ar gyfer plant dan 11 oed!
Bydd crefftau a gemau Calan Gaeaf yn y neuadd wledda, ac yna llwybr pwmpen brawychus bwgan brain drwy ein cwrt a’r tyrau.
Mae Hen Orsaf Tyndyrn yn cynnig pethau mwy brawychus, lle gall plant fwynhau llwybr pwmpen arswydus, gwneud mygydau Calan Gaeaf, a gweithgareddau crefft.
Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ôl ym mis Hydref eleni, gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig ar gyfer pob oedran mewn amgueddfeydd ar draws ein safleoedd. Mae amgueddfeydd Y Fenni, Cas-gwent a’r Neuadd Sirol hefyd yn dathlu ysbryd y cyfnod gyda digwyddiadau crefft Calan Gaeaf – does dim angen archebu lle. Hefyd, beth am gael hwyl gyda ffrindiau a theulu yn ein prynhawn crefft hanner tymor i blant, dan arweiniad Gwirfoddolwyr creadigol Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife, Dydd Iau 2 Tachwedd 2-4pm, Y Neuadd Ymarfer, Stryd yr Eglwys Isaf, Cas-gwent.
Ymunwch â ni yng nghlybiau ieuenctid Y Parth, Cil-y-coed neu’r Caban, Y Fenni ar gyfer ein Partïon Calan Gaeaf rhwng 4-9pm ddydd Mawrth 31ain Hydref. Mae’r rhain yn sesiynau agored i bobl ifanc fynychu gyda gweithgareddau Calan Gaeaf ar thema 11+ oed
Cymerwch olwg aderyn o’r bodau dynol mewn sioe deuluol newydd sbon gan M6 Theatre yn Theatr y Fwrdeistref yr hanner tymor hwn. Yn llawn dwli, caneuon gwreiddiol a chwarae cysgodion hardd, mae’r sioe hynod gorfforol hon yn defnyddio ychydig iawn o iaith i adrodd stori am gymryd gofal, darganfod beth sy’n bwysig a dysgu sut i hedfan.
Mae plant ysgol Sir Fynwy wedi cael eu hysbrydoli i ddod yn arweinwyr drwy chwaraeon, a hynny ar i’r Gynhadledd Llysgenhadon Ifanc Efydd ddychwelyd.
Cynhaliwyd y gynhadledd flynyddol yng Nghanolfan Antur Awyr Agored Gilwern ar ddydd Gwener, 20fed Hydref. Roedd plant ym mlwyddyn 6 yn cynrychioli ysgolion cynradd ar draws Sir Fynwy gyda ffocws y gynhadledd yn canolbwyntio ar iechyd, lles, gweithgaredd corfforol ac arweinyddiaeth.
Drwy gydol y dydd, bu’r Llysgenhadon Ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai – megis mentora eu cyfoedion, siarad cyhoeddus, ac ymgynghoriadau disgyblion – yn ogystal â sesiynau ymarferol a gyflwynwyd gan bartneriaid allanol. Ers 2017, mae mwy na 5,300 o ddisgyblion wedi cymryd rhan yn rhaglen ‘playmaker’ blwyddyn 5, gyda mwy na 350 wedyn yn mynd ymlaen i gynrychioli eu hysgol yn rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd blwyddyn 6. Mae’r rhaglen, sydd wedi’i chydnabod fel arfer gorau, bellach yn cael ei hailadrodd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gan roi llwyfan i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau arwain drwy chwaraeon.
Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd yn ddechrau’r daith i lawer o bobl ifanc gyda phedair academi arweinyddiaeth wedi’u sefydlu ar draws holl ysgolion cyfun Sir Fynwy. Mae’r academïau arweinyddiaeth yn parhau i ymgorffori negeseuon a osodwyd yn y rhaglen ac yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gefnogi gweithgaredd corfforol yn eu hysgol a’u cymuned leol, tra’n ennill profiad gwirfoddoli hanfodol. Mae llwybr clir wedi’i sefydlu i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a chael cyfleoedd cyflogaeth drwy’r llwybr i gyflogaeth ôl-16.
Yn ogystal â’r llysgenhadon ifanc, roedd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, Meirion Howells, a’r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Angela Sandles, yn bresennol ar y diwrnod hefyd.
Dywedodd y Cyng. Sandles: “Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd yn arf mor bwysig i hyrwyddo manteision chwaraeon, gweithgaredd corfforol a byw’n iach. Braf oedd gweld cymaint o bobl ifanc brwdfrydig yma yng Ngilwern heddiw. Roeddynt yn mwynhau’r gweithgareddau g ac i’w gweld yn elwa o’r diwrnod. Edrychaf ymlaen at weld sut mae ein Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio’r hyn y maent wedi’i ddysgu heddiw i helpu i ledaenu negeseuon cadarnhaol am les yn ôl yn eu hysgolion.” Am fwy o wybodaeth am raglenni Datblygu Chwaraeon, neu i gysylltu â’r tîm, e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk
Yn dilyn cais llwyddiannus i Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Fynwy yn lansio’r Prosiect Llwybrau i’r Gymuned.
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd o wneud y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir a bydd yn cyfrannu at dargedau cyfiawnder cymdeithasol, lles a chymunedau cydnerth.
Mae rhan o’r prosiect yn galluogi staff Mynediad Cefn Gwlad MonLife i weithio gyda grwpiau gwirfoddol cymunedol, gan ddarparu deunyddiau, hyfforddiant a gwybodaeth iddynt, wrth wneud gwelliannau i arwyddion a hygyrchedd llwybrau.
I ehangu ar y prosiect hwn, mae Cyngor Sir Fynwy wedi arwyddo Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Cherddwyr Cymru – y cyntaf o’i fath yng Nghymru neu Loegr.
Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i ddefnyddio rhan o Gyllid Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru i weithio gyda thri grŵp gwirfoddol cymunedol arall yn Sir Fynwy. Bydd y cyllid yn cael ei weinyddu gan y Cyngor, gyda Cherddwyr Cymru yn darparu swyddog llawn amser i ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgysylltu i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.
Mae digwyddiad lansio cyhoeddus yn cael ei gynnal rhwng 2pm a 4pm ar ddydd Sadwrn, 28ain Hydref yn Hyb Cymunedol Magwyr a Gwndy. Bydd y digwyddiad hwn yn galluogi trigolion i ddod draw i ddysgu mwy am y prosiect a sut y gallant gymryd rhan.
Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Cherddwyr Cymru i helpu i wella llwybrau lleol a mynediad i fyd natur. Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth newydd gyda’r cerddwyr yn bartneriaeth sylweddol sy’n caniatáu i ni wella hawliau tramwy cyhoeddus yma yn Sir Fynwy. Bydd hyn yn rhoi’r llwybrau gorau i drigolion ac ymwelwyr fynd i gerdded neu heicio, gan gysylltu cymunedau ac economïau lleol.
“Mae ein llwybrau’n byrth sy’n cysylltu ein cymunedau ac yn ein helpu i fynd allan i’r amgylchedd naturiol. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â’r digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio a’r lansiad ar 28ain Hydref.”
Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Cerddwyr Cymru : “Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein gwaith i’n helpu i roi cerdded wrth galon cymunedau a rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd. Os ydych chi’n angerddol am gerdded yn eich cymuned, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.”
Digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio:
Trefynwy: Dydd Mercher, 25ain Hydref, 2pm tan 4pm, yn dechrau ym maes parcio’r Parc Sglefrio, Heol Rockfield, Trefynwy, NP25 5AS
Brynbuga: Dydd Iau, 26ain Hydref, 2pm tan 4pm, gan ddechrau ym maes parcio Gwarchodfa Natur Cefn Ila
Os nad ydych yn gallu mynychu un o’r digwyddiadau ond dal am gymryd rhan neu ddarganfod mwy, cysylltwch â rhys.wynne-jones@ramblers.org.uk
Byddem wrth ein bodd pe gallech ein helpu drwy lenwi’r holiadur ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Sir Fynwy i helpu gyda’n prosiect ‘Llwybrau i Gymunedau’ a lansir yr wythnos yma. CLICIWCH YMA
Mae gennym ddiweddariadau cyffrous sy’n gysylltiedig ag ymchwil Prosiect Mapio Celfyddydau Gweledol Sir Fynwy. Trefnwyd y gwaith hwn drwy bartneriaeth Caerdydd Creadigol gyda MonLife fel rhan o brosiect Hybiau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol.
Cyfle Comisiynu
Mae Caerdydd Creadigol, sydd mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol yn Sir Fynwy, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf, wrthi’n ceisio comisiynu naw artist i gynhyrchu darn o waith ar thema creadigrwydd, cymuned ac arloesedd lleol. Mae’r cyfle hwn yn cael ei ddarparu fel rhan o brosiect Hybiau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol. Nodwch y gall darnau sydd wedi’u comisiynu fod yn amlddisgyblaethol ar draws amrywiaeth o gyfryngau creadigol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: celfyddydau gweledol, cerflunwaith, fideo, geiriau llafar/ysgrifenedig, tecstilau, perfformiad, dawns, gosodiad ac ati.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw neu’n gweithio yn Sir Fynwy, Casnewydd neu Rhondda Cynon Taf. Mae Caerdydd Creadigol yn gobeithio comisiynu tri artist o Sir Fynwy gyda hyd at £1000 ar gael i bob artist. Y dyddiad cau yw’r 31ain Ionawr 2024 a gellir dod o hyd i’r wybodaeth ar wefan Caerdydd Creadigol: sef https://creativecardiff.org.uk/creative-cardiff-artist-commission
FREE Creative Cuppas, a letyir gan The Borough Theatre yn y Fenni ac a ddarperir gan Caerdydd Creadigol
Dydd Iau 25ain Ionawr am 10.00am
Gwneud mannau gwaith yn hygyrch i bobl greadigol niwrowahanol gyda’r cynhyrchydd, Tom Bevan. Mae Tom yn gynhyrchydd theatr a digwyddiadau byw llawrydd o Gaerdydd. Mae ganddo Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Dyslecsia ac mae eisiau creu gofodau lle gall pobl greadigol niwrowahanol ddod at ei gilydd ac adeiladu undod, cefnogaeth a chydweithio. Ers mis Hydref 2023, mae wedi bod yn cynnal man agored er mwyn i bobl greadigol, cynhyrchwyr ac artistiaid niwrowahanol sy’n gweithio yn y sector diwylliannol yn Ne Cymru ddod at ei gilydd i weithio a chysylltu.
Creu cynnwys digidol gydag Amy Pay, newyddiadurwr, ysgrifennwr copi ac ymgynghorydd creadigol hynod brofiadol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Gyda chefndir amrywiol ym maes cyfryngau print, darlledu a newyddiaduraeth ddigidol, mae’n defnyddio’i sgiliau i helpu pobl i gyfleu eu straeon trwy eiriau, strategaeth a syniadau creadigol. Mae hi wedi gweithio gyda chleientiaid bach a mawr, gan gynnwys Lonely Planet, Croeso Cymru, The Telegraph, yr Evening Standard a The Guardian, gydag arbenigeddau gan gynnwys teithio yn y DU, busnesau bach, coffi arbenigol a diwydiannau creadigol. Gweler y ddolen isod i ddarllen mwy o fanylion ac archebu eich lle:
Adeiladu Hyder wrth weithio yn y diwydiannau creadigol; cyflwyniad gan Richard Holman. Dechreuodd ei yrfa gyda’r BBC cyn mynd ymlaen i sefydlu un o asiantaethau hysbysebu a dylunio bwtîc uchaf ei barch y DU. Heddiw mae’n gweithio fel awdur, siaradwr a hyfforddwr. Mae’n credu bod angen creadigrwydd ac arloesedd ar y byd nawr yn fwy nag erioed, a dyna pam ei fod wrth ei fodd yn gweithio gydag unigolion a thimau i fagu eu hyder a gwneud syniadau gwell a dewrach. Gweler y ddolen isod am y digwyddiad hwn ac i archebu eich lle:
I gael y newyddion diweddaraf a diweddariadau ar ddigwyddiadau neu ar sut i gyfrannu at y prosiect hwn, ewch i: https://www.monlife.co.uk/heritage/
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “This is such an exciting time for arts in Monmouthshire, I look forward to hearing everyone’s creative ideas and input. It will be great to see the development of a clear vision and collective goal for the future. I can’t wait to learn and see the opportunities that will come from this project and the success it will bring in developing a creative economy in Monmouthshire.”
Am y tîm: Mae Beth McIntyre, sy’n hanu o Drefynwy ac Ann Sumner wedi cydweithio ers blynyddoedd lawer, ar ôl cyfarfod am y tro cyntaf fel cydweithwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae Ann yn gyn Bennaeth Celfyddyd Gain ac roedd Beth yn Uwch Guradur (Celfyddyd Gain – Printiau a Darluniau) yn yr amgueddfa. Gyda’i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ymchwilio a chwmpasu prosiectau, arwain ymgynghoriadau, trefnu digwyddiadau rhwydweithio a gweithio gydag artistiaid.
Nod cynllun teithio llesol Rhosied i Gwndy y B4245 yw gwella teithiau rhwng Rhosied a Gwndy. Archwiliwyd sawl llwybr ac, er y gellir datblygu llwybrau ychwanegol yn y dyfodol, aseswyd prif lwybr arfaethedig, sy’n cynnwys llwybr teithio llesol defnydd a rennir ger ochr ddeheuol y B4245, i ddarparu’r llwybr teithio llesol byrraf, mwyaf uniongyrchol rhwng Rhosied a Gwndy. Paratowyd dyluniadau manwl o’r opsiwn a ffefrir hwn ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r blwch coch ar y ddelwedd hon yn dangos yr adran o’r B4245 rhwng Rhosied a Gwndy sy’n destun y cynllun hwn
Disgrifiad o’r cynllun
Nid oes gan y B4245 presennol rhwng Gwndy a Rhosied ddarpariaeth palmant. Mae astudiaethau blaenorol ar hyd y llwybr hwn wedi tynnu sylw at yr angen am ddarpariaeth ddiogel i gerddwyr a beiciau, i gysylltu â gorsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren ac ar draws ardal Glannau Hafren.
Mae Rhosied a Gwndy ychydig dros filltir ar wahân, pellter y gellid ei wneud gan ddefnyddio sgwter symudedd mewn hanner awr neu feicio mewn llai na deng munud. Bydd llwybr teithio llesol ar hyd y rhan hon o’r B4245 yn caniatáu i drigolion y ddau bentref elwa o’r cyfleusterau a’r cyfleoedd a gynigir gan eu pentrefi cyfagos, heb fod angen mynediad at gar.
Canlyniadau’r ymgynghori
Archwiliodd 219 o bobl y cynigion, ac ymateb i’n hymgynghoriad, naill ai yn y digwyddiad wyneb yn wyneb ar Hydref 4ydd 2023 neu ar-lein. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Rhosied a Chyngor Tref Magwyr sylwadau ar wahân.
B4245 llwybr teithio llesol Rhosied-Gwndy (Cam 1)
Roedd 96% o’r bobl yr ymgynghorwyd â nhw yn ‘gefnogol iawn’ neu’n ‘eithaf cefnogol’ o’r llwybr teithio llesol arfaethedig Rhosied i Gwndy, sydd fel y disgwyl o ystyried nad oes cyswllt uniongyrchol a hygyrch ar gyfer teithio llesol ar hyn o bryd. Mae llawer o bobl eisiau cael yr opsiwn o deithio llesol ar frys ac yn canfod nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn ddigonol. Dywedodd y mwyafrif helaeth y byddai’r gwelliannau arfaethedig yn dylanwadu ar eu dewis moddol ar gyfer teithiau lleol.
Canolbwyntiodd sylwadau ar y potensial i’r llwybr teithio llesol arfaethedig fod yn opsiwn diogel, hygyrch, ymarferol, cynaliadwy, iach a fforddiadwy. Mae’n cael ei weld fel cyswllt ‘i bawb’ mawr ei angen rhwng cymunedau. Roedd pryder gan rai am agosrwydd y llwybr i’r B4245, y potensial am wrthdaro rhwng defnyddwyr llwybrau, effaith y llwybr ar fioamrywiaeth leol a’r posibilrwydd o dagfeydd traffig neu golli lled y ffordd. Byddwn yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn trwy ddylunio, defnyddio arfer gorau a dadansoddi effaith y lleoliad lleol. Gweler yr adran Cwestiynau Cyffredin isod am fwy o fanylion.
Mae’r llwybr hwn yn cael ei ystyried yn gam wrth gysylltu Magwyr a Gwndy â Chyffordd Twnnel Hafren, Cil-y-coed ac ymhellach i ffwrdd. Dywedodd sylw nodweddiadol: ‘Mae hwn yn gynllun a fydd o fudd i drigolion ac ymwelwyr yr ardaloedd cysylltiedig, ac yn hyrwyddo dulliau teithio mwy ecogyfeillgar, e.e. wedi’i gyfuno o gerdded/beicio a hyfforddi yn lle gyrru.’
Heol yr Orsaf (Cam 2)
Mae dros hanner y bobl yr ymgynghorwyd â nhw yn teithio ar hyd Heol yr Orsaf i gyrraedd trafnidiaeth gyhoeddus (gorsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren) ac mae’r mwyafrif yn aml yn defnyddio’r llwybr ar gyfer teithiau pwrpasol. Dywedodd y rhan fwyaf y byddai palmentydd ehangach a gwelliannau cyffredinol i’r seilwaith teithio llesol yn eu hannog i gerdded a/neu feicio ar hyd Heol yr Orsaf, lle ar hyn o bryd roedd mwy na thri chwarter y bobl a ymgynghorwyd yn bennaf yn gyrru ar ei hyd.
Llwybr Teithio Llesol arfaethedig Rhosied i Gil-y-coed (Cam 3)
Dywedodd 92% o’r ymatebwyr ‘Byddaf’ i’r cwestiwn ‘A fyddech yn cefnogi Cam 3 adran llwybrau Teithio Llesol Rhosied i Gil-y-coed?’
Mae Teithio Llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, olwyna neu feicio i gyrchfan (a elwir hefyd yn “deithiau pwrpasol”). Nid yw’n cynnwys cerdded a beicio a wneir ar gyfer hamdden yn unig, er y gallai wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol trwy helpu i gysylltu rhwydweithiau. Gellir defnyddio teithio llesol i gyrraedd yr ysgol, gwaith, gwasanaethau a siopau, neu fel un o sawl dull ar daith hirach – er enghraifft, cerdded i’r orsaf i ddal bws neu drên. Mae strategaeth teithio llesol Cyngor Sir Fynwy yn canolbwyntio ar deithiau o dair milltir neu lai, sy’n golygu gwella seilwaith cerdded a beicio o fewn cymunedau a rhwng pentrefi agos fel Rhosied a Gwndy, i wneud teithio llesol y dewis naturiol cyntaf ar gyfer teithiau lleol.
Pam canolbwyntio ar y B4245 rhwng Rhosied a Gwndy?
Amlygwyd yr angen am welliannau yn y rhan hon o Sir Fynwy yn ystod cyflwyniad Map Rhwydwaith Integredig Cyngor Sir Fynwy i Lywodraeth Cymru yn 2018. Yr opsiynau presennol ar gyfer teithio llesol rhwng Rhosied a Gwndy (tua 1,700 a 4,000 o drigolion, yn y drefn honno) yn gyfyngedig ac yn anhygyrch i ddefnyddwyr amrywiol, oherwydd cyflymder traffig uchel a chyfaint y traffig, a diffyg llwybrau dirwystr a diogel.
Mae sawl opsiwn ar gyfer cyswllt teithio llesol rhwng Rhosied a Gwndy wedi cael eu harchwilio ac aseswyd prif lwybr arfaethedig sy’n cynnwys llwybr teithio llesol defnydd a rennir ger ochr ddeheuol y B4245 fel yr un a fydd yn darparu’r opsiwn byrraf, mwyaf uniongyrchol.
Mae’r llwybr arfaethedig rhwng Rhosied a Gwndy yn gyswllt pwysig yn y rhwydwaith cerdded a beicio ehangach. Bydd llwybr teithio llesol byr ac uniongyrchol yn agor mynediad iachus, fforddiadwy a chynaliadwy i wasanaethau, ysgolion a chyfleoedd gwaith yn y ddau bentref, yn ogystal â chysylltu pobl leol ac ymwelwyr â’r llwybrau troed a beiciau presennol yn ardal Glannau Hafren, gwasanaethau bysiau ar hyd y B4245 a gwasanaethau rheilffordd i ymhellach i ffwrdd.
Mae lefelau teithio llesol yn is yn Rhosied a Gwndy o gymharu â Sir Fynwy gyfan. Ar yr un pryd, mae cyfran y preswylwyr yn yr ardal leol sy’n gyrru car neu fan yn uwch na Sir Fynwy gyfan (Cyfrifiad 2021). Roedd Cyfrifiad 2021 hefyd yn nodi bod gan Fagwyr a Rhosied gyfran uchel (63.7%) o breswylwyr oedran gweithio sy’n debygol o deithio’n rheolaidd i gymudo ac felly’n elwa’n uniongyrchol o well mynediad i Orsaf Reilffordd Cil-y-coed a Chyffordd Twnnel Hafren.
Y Cynigion
Daeth astudiaeth o opsiynau posibl ar gyfer gwelliannau teithio llesol yn yr ardal i’r casgliad mai llwybr defnydd wedi’i rannu, tri metr o led i ochr ddeheuol y B4245 rhwng Rhosied a Gwndy yw’r opsiwn a ffefrir. Fel arfer, caiff prosiectau fel yr un hwn eu datblygu dros sawl blwyddyn o’r cysyniad hyd at ddyluniad manwl, gan ddilyn Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru neu WelTAG (gweler isod). Mae prosiectau wedyn yn ddibynnol ar gymeradwyo cyllid gan gyrff fel Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu. Ar hyn o bryd rydym ar gam dylunio manwl y broses (WelTAG Cam 3).
Gan mai’r llwybr a ffefrir yw ar gyfer teithio llesol, mae’r broses wedi’i seilio ar Ganllawiau Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer archwilio cerdded a beicio yn ogystal â’r safonau y dylai llwybrau teithio llesol gadw atynt.
Hidlo’r Opsiynau
Ar ddechrau’r prosiect hwn ac yn unol â phroses Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, datblygodd tîm y prosiect restr eang o atebion posibl, digon i allu penderfynu a oes unrhyw opsiynau cynllun sy’n werth eu dilyn a dewis rhestr fer o opsiynau i’w hystyried yn fanylach. Cafodd opsiynau eu rhoi ar y rhestr fer yn seiliedig ar:
eu gallu i atal, neu ddatrys y broblem nawr ac yn y dyfodol;
eu gallu i gyflawni’r amcanion a bennwyd a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru;
eu heffeithiau tymor byr a thymor hwy i sicrhau manteision lluosog ar draws pedair agwedd llesiant a gwneud y mwyaf o’r cyfraniad i’r saith nod llesiant;
eu cyflawniad;
eu cadernid i ansicrwydd a’u potensial i sbarduno newid hirhoedlog.
Y Broses WelTAG
Bydd y cynllun arfaethedig yn ceisio cymeradwyaeth a chyllid gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac felly mae wedi cael ei ddatblygu yn unol â Chanllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Mae’r broses WelTAG yn cwmpasu cylch bywyd cyflawn ymyrraeth arfaethedig yn y system drafnidiaeth o asesu’r broblem, ystyried datrysiadau posibl a dylunio cynlluniau, hyd at weithredu a gwerthuso prosiectau.
Mae astudiaethau WelTAG yn rhan hanfodol o brosiectau trafnidiaeth mawr yng Nghymru i helpu i benderfynu pa rai yw’r atebion mwyaf priodol i’w datblygu, ac yn bwysig o ran cefnogi ceisiadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer ariannu grantiau i gwblhau’r gwaith. Mae WelTAG yn cynnwys cyfres o gamau cynllunio prosiect sy’n dilyn bywyd prosiect, rhaglen neu bolisi o syniadau cynnar hyd at ar ôl iddo gael ei gwblhau. Mae pum cam WelTAG: Cwblhawyd camau 1 a 2 y prosiect ym mis Awst 2022, ac rydym ar hyn o bryd yng Nghyfnod 3 WelTAG.
Cyfnodau’r dyfodol
Bydd llwybr Rhosied i Gwndy (cam 1, a ddangosir isod fel llinell werdd) yn ategu gwelliannau teithio llesol arfaethedig ardal Glannau Hafren eraill y mae Cyngor Sir Fynwy yn ymchwilio iddynt ar hyn o bryd fel camau 2 a 3 y prosiect hwn (a ddangosir fel y llinell goch a’r llinell las, yn y drefn honno). Bydd Cam 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu gwelliannau teithio llesol ar hyd Ffordd yr Orsaf yn Rhosied i annog teithiau cerdded a beicio i orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren. Bydd Cam 3 yn bwrw ymlaen â’r cynigion i barhau â’r llwybr hwn o’r orsaf drenau sy’n teithio tua’r dwyrain, i Gil-y-coed, gyda’r potensial i gysylltu â llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (RhBC) 4 ar Heol yr Orsaf yng Nghil-y-coed.
Bydd cwblhau Cam 3 WelTAG yn llwyddiannus, a fydd yn darparu achos busnes llawn gan gynnwys dyluniadau manwl a gwybodaeth gyflenwi, yn ein galluogi i wneud cais am gyllid i symud i WelTAG Cam 4 (y cyfnod adeiladu). Gallai Cyngor Sir Fynwy ofyn am gyllid i ddatblygu’r cynllun hwn mor gynnar â’r flwyddyn ariannol nesaf (2024/2025), yn dibynnu ar gynnydd y dyluniadau a sicrhau caniatâd.
Sut fydd y cynllun yn cael ei ariannu?
Bydd y llwybr yn cael ei ariannu drwy grantiau Llywodraeth Cymru gyda’r nod o wella dulliau trafnidiaeth gynaliadwy.
Pam mae’r llwybr ar ochr ogleddol y ffordd?
Mae aneddiadau Gwndy a Rhosied ill dau ar ochr ddeheuol y B4245 yn bennaf, bydd yr aliniad hwn o’r llwybr yn lleihau nifer y croesfannau ffyrdd sydd eu hangen, gan wella cydlyniad y llwybr. Yn ogystal, mae llwybr teithio llesol yn cael ei letya’n well ar ochr ddeheuol tanffordd yr M4 oherwydd y bwlch gwartheg ar ochr ogleddol y ffordd.
Pam mae’r llwybr wrth ymyl y ffordd?
Ystyriwyd aliniadau llwybrau amgen yn yr astudiaethau dros dro ar gyfer y llwybr, gostyngwyd y rhain oherwydd naill ai barn y cyhoedd neu ddichonoldeb technegol. Gwelwyd bod y llwybr ar hyd y ffordd yn gadarnhaol ar gyfer diogelwch personol oherwydd diogelwch gweladwy eraill sy’n mynd heibio.
Pam na all beicwyr ddefnyddio’r ffordd neu’r llwybr RhBC?
Nod y cynllun hwn yw ei gwneud yn bosibl i ystod ehangach o bobl gyrraedd cyrchfannau lleol yn gyfforddus ac yn ddiogel gan ddefnyddio teithio llesol. Er bod beicio (yn hytrach na cherdded) yn ffurfio canran uwch o deithio llesol o amgylch Rhosied a Gwndy, mae lefelau teithio llesol cyffredinol yn isel yn yr ardal.
Mae’r adran Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (RhBC4) sy’n ymuno Gwndy a Rhosied yn llwybr anuniongyrchol sydd heb ei oleuo a’i selio i raddau helaeth, gan ei gwneud naill ai’n anymarferol neu’n anaddas i amrywiaeth o bobl ddefnyddio teithio llesol rhwng Rhosied a Gwndy.
Byddai arwyneb sengl eang y llwybr teithio llesol a rennir arfaethedig, ochr yn ochr â’r B4245, yn darparu ar gyfer ystod ehangach o ddulliau teithio llesol. Mae’r llwybr wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan gerddwyr a phobl sy’n defnyddio cadair olwyn a sgwteri symudedd, yn ogystal â’r rhai ar feiciau a beiciau mwy/addasol. Er bod rhai pobl yn beicio ar y rhan hon o’r B4245 ar hyn o bryd, mae cyflymder a chyfaint y traffig – yn ogystal â phresenoldeb cerbydau nwyddau trwm – yn ei gwneud yn annhebygol y bydd y rhan fwyaf o bobl yn dewis defnyddio’r llwybr byr, uniongyrchol hwn trwy deithio llesol oni ddarperir llwybr sydd wedi gwahanu.
Beth yw ‘llwybr teithio llesol cyd-ddefnyddio’?
Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr i’w ddefnyddio gan unrhyw ddull o deithio llesol, boed yn cerdded, olwynion neu feicio, heb unrhyw nodweddion neu farciau gwahanu corfforol. Ni chaniateir ceir a beiciau modur ar lwybr cyd-ddefnyddio. Mae’r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig wedi’i ddylunio fel tri metr o led, ac eithrio rhan trosbont yr M4, lle gallai fod angen ei gulhau ychydig. Bydd y llwybr yn cael ei oleuo a’i wahanu oddi wrth draffig y ffordd.
Argymhellir llwybrau cyd-ddefnyddio yng nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol ar gyfer ffyrdd rhyngdrefol fel y B4245 rhwng Rhosied a Gwndy, lle nad yw nifer y defnyddwyr o wahanol ddulliau yn debygol o gyrraedd lefel lle byddai darpariaeth ar wahân – a’r effaith dilynol ar yr amgylchedd, tir, deunyddiau a’r gost – yn gallu cael eu cyfiawnhau. Mae llwybrau ag arwyneb sengl eang yn gallu darparu ar gyfer beiciau mwy o faint, fel y rhai a ddefnyddir gan bobl anabl, a phobl mewn cadeiriau olwyn. Mae llwybrau cyd-ddefnyddio yn caniatáu ar gyfer defnydd hyblyg yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd – er enghraifft, efallai mai beicwyr yw’r grŵp mwyaf yn ystod yr oriau brig yn ystod yr wythnos, a cherddwyr a’r rhai sy’n defnyddio sgwteri symudedd yw’r grŵp mwyaf yn ystod y dydd ac ar y penwythnos.
Mae llwybrau cyd-ddefnyddio wedi’u cynllunio i ddarparu digon o le fel y gall beicwyr goddiweddyd grwpiau o gerddwyr a beicwyr arafach, yn unol â chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol. Mae defnydd anghyfreithlon o lwybrau teithio llesol gan bobl ar feiciau modur ac e-sgwteri yn fater i’r heddlu a dylid ei riportio’n briodol drwy ffonio 111.
Sut mae hyn yn effeithio ar gynlluniau ar gyfer Gorsaf Gerdded Magwyr a Gwndy?
Mae Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi cynlluniau ar gyfer Gorsaf Gerdded Magwyr a Gwndy gan y bydd yn annog ac yn cefnogi teithio llesol, yn helpu’r modd i newid o’r ffordd i’r rheilffordd ac yn arwain at ostyngiad mewn allyriadau carbon a llygredd aer yn yr ardal. Mae’r cyfamser ychwanegu llwybr teithio llesol rhwng Gwndy a Rhosied yn ategu cynlluniau ar gyfer gorsaf gerdded, gan gynnig yr opsiwn o deithiau di-gar a gwreiddio’r dewis o deithio llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy yn arferion teithio pobl leol.
A oes digon o le, a fydd gwyrddni’n cael ei symud ac a fydd y ffordd yn cael ei chulhau?
Bydd y llwybr teithio llesol arfaethedig yn gofyn am ailgynllunio rhannau o’r ffordd a’r ymyl, a chaffael darnau o dir oddi wrth dirfeddianwyr preifat. Mae lled bresennol y ffordd yn amrywio ar hyd y rhan hon, bydd y cynllun yn gwneud y ffordd yn lled gyson o chwe metr a hanner, sef isafswm lled bresennol y ffordd.
Bydd tîm tir Cyngor Sir Fynwy yn ymgysylltu â’r tirfeddianwyr, os bydd cymeradwyaeth ar gyfer y cynllun yn caniatáu cynnydd i’r cam hwn. Mae’r tîm ecoleg eisoes wedi cysylltu â’r tirfeddianwyr perthnasol a oedd angen caniatâd i fynd i mewn i dir preifat i gynnal arolygon ecoleg i baratoi ar gyfer y cynllun hwn.
Lle bo angen, bydd ymylon, gwrychoedd a ffiniau caeau yn cael eu hailgynllunio, ynghyd â mynedfeydd a waliau caeau. Mae’r ailgynllunio’n cynnwys trawsleoli neu blannu amnewid gwrychoedd a choed. Mae sicrhau bod y cynllun yn dod â budd net i fioamrywiaeth yn sylfaenol i Gyngor Sir Fynwy ac yn ofyniad am gyllid Llywodraeth Cymru o’r cynllun. Bydd y cynllun yn cael ei asesu’n briodol ar gyfer cyfyngiadau ecolegol a chyfleoedd fel rhan o’r prosiect teithio llesol. Bydd tîm Seilwaith Gwyrdd Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda thîm y prosiect i sicrhau bod yr effeithiau’n cael eu lleihau, a bod cyfleoedd yn cael eu gwneud i’r eithaf i gyfrannu tuag at adfer natur.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn dathlu 10 mlynedd ers lansio’r Ddeddf Teithio Llesol yng Nghymru.
Er bod y cysyniad o deithio llesol wedi bodoli ers tro, nid yw pawb yn gyfarwydd â’r term. Mae teithio llesol yn disgrifio gwneud teithiau hanfodol, fel teithio i’r gwaith, ar daith ysgol, i apwyntiadau, a hynny ar droed neu ddulliau teithio eraill sydd yn defnyddio olwynion. Gall yr elfen o olwynion gynnwys beiciau (trydan neu bŵer pedal yn unig), sgwteri, cadeiriau olwyn, beiciau wedi’u haddasu neu sgwteri symudedd.
Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Hoffwn ddiolch i holl breswylwyr Sir Fynwy sydd yn teithio’n llesol, trwy gerdded neu’n defnyddio dulliau teithio ag olwynion ar gyfer teithiau hanfodol megis cymudo i’r gwaith. Gall pobl o bob oed a gallu deithio ag olwynion neu gerdded, ac mae pob taith y gallwn ei gwneud heb y car yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Rydym wedi ein bendithio yma yn Sir Fynwy gyda chefn gwlad hardd tafliad carreg o’n trefi a phentrefi, ac felly mae dewis teithio llesol â’r fantais ychwanegol o allu cysylltu’n wirioneddol â natur a gweld pethau nad ydych chi’n cael y cyfle iddynt wrth yrru. Dysgwch fwy am deithio llesol yn Sir Fynwy drwy ymweld â gwefan BywydMynwy (MonLife) a darganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal.”
Er mwyn dysgu mwy am brosiectau teithio llesol ewch i https://www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel/ a chliciwch ar un o’r trefi a restrir. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu ar draws y sir, ac felly nawr yw’r amser i groesawu teithio llesol ac elwa’n fwy o’ch taith.
Fel rhan o gyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd yn 2023/24, bydd cam 1 o’r gwaith o adeiladu pont Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni yn dechrau ar ddydd Llun 18 Medi, 2023.
Mae’r gwaith yn cynnwys cloddiau ar gyfer y ramp deheuol yn unig i ddechrau, ar ochr Llan-ffwyst i’r Afon Wysg a bydd yn cymryd tua phedair wythnos i’w gwblhau. Bydd y gwaith sefydlu hwn yn cael ei wneud gan dîm gweithrediadau Cyngor Sir Fynwy. Bydd mynediad i’r banc yn cael ei ganiatáu.
Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei ohirio dros y gaeaf, ac ar ôl hynny bydd yr elfennau sy’n weddill o’r ramp yma, y ramp ar yr ochr ogleddol a phrif strwythur y bont, yn cael eu hadeiladu’r flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd, y bwriad yw cwblhau’r gwaith erbyn Rhagfyr 2024.
Nid yw’r gwaith hwn yn cynnwys unrhyw lwybrau o fewn Dolydd y Castell eleni. Bydd y cais cynllunio ar gyfer llwybrau Dolydd y Castell yn cael ei ystyried yng nghyfarfod cynllunio mis Hydref yng Nghyngor Sir Fynwy.
Gwisgwch eich gwisg fwyaf lliwgar a chofleidiwch y cariad a’r undod yn nigwyddiad Pride ym Mrynbuga ar ddydd Sadwrn 26ain Awst.
Parc Owain Glyndwr fydd y lleoliad ar gyfer dathlu undod, hwyl a chynwysoldeb, lle mae croeso i bawb, ac mae’n dechrau am hanner dydd ac yn parhau tan 8pm.
Mae digwyddiad Pride ym Mrynbuga yn ddigwyddiad cymunedol sy’n ystyriol o deuluoedd, i feithrin ymdeimlad o gymuned, hybu dealltwriaeth ac eiriolaeth dros hawliau cyfartal i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau ac adloniant a fydd yn darparu ar gyfer pobl o bob oed, cefndir a hunaniaeth.
Uchafbwyntiau allweddol Pride ym Mrynbuga fydd;
Ysblander y Prif Lwyfan: Paratowch i gael eich diddanu gyda pherfformiadau cerddoriaeth fyw gan artistiaid dawnus, areithiau twymgalon gan eiriolwyr LHDTC+ a pherfformiadau llusgo a fydd yn goleuo’r llwyfan gyda hud a grym
Pentref Gwerthwyr: Darganfyddwch farchnad brysur gyda gwerthwyr yn cynnig nwyddau enfys, crefftau lleol, bwyd blasus a diodydd adfywiol i gadw’r mynychwyr yn llawn egni a hydradiad trwy gydol y dydd.
Ymgysylltu â’r Gymuned: Cysylltu a dysgu oddi wrth sefydliadau a chynghreiriaid LHDTC+ amrywiol yn y digwyddiad i ddysgu am eu mentrau, eu rhwydweithiau cymorth a’u hadnoddau.
Amgylchedd Cynhwysol: Mae Pride Brynbuga wedi ymrwymo i ddarparu gofod diogel a chynhwysol i bawb, heb wahaniaethu, rhagfarn ac anoddefgarwch.
Gweithgareddau Cyfnewid Dillad: Conglfaen y digwyddiad hwn yw ymrwymiad i greu amgylchedd sy’n meithrin cynhwysiant a mwynhad i bob oed. Mae sesiwn cyfnewid dillad yn cael ei chynnal; mae’n cynrychioli cyfle i bawb ymchwilio’r ei hunaniaeth trwy eu hymddangosiad a’u dewisiadau o ran dillad. A clothes swap is being held, which is not merely an exchange of clothes; it represents an opportunity for all people to delve into the realm of self-identity through their appearance and clothing choices.
Mae’r digwyddiad yn agored i bobl o bob cefndir, waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd. Anogir mynychwyr i wisgo eu gwisgoedd mwyaf lliwgar a llawn mynegiant i ddathlu cariad, balchder ac undod.
Cllr. Dywedodd y Cyng. Dywedodd Ian Chandler, Hyrwyddwr LHDTC+ Cyngor Sir Fynwy: “Mae digwyddiad Pride ym Mrynbuga yn gyfle gwych i ddathlu ein cymuned gyfan mewn ffordd gynhwysol a chadarnhaol. Beth bynnag yw eich hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol, mae lle i chi yn Pride ym Mrynbuga. Felly dewch draw i fwynhau’r adloniant, y farchnad a chwrdd ag eraill o’n sir a’n cymuned wych. Rydym yn edrych ymlaen at weld pawb ym Mharc Owain Glyndwr i ddathlu digwyddiad Pride ym Mrynbuga. Bydd y digwyddiad yn arddangos y gymuned rydym yn byw ynddi a bod Sir Fynwy yn lle i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.”
Mae digwyddiad Pride ym Mrynbuga yn bosibl oherwydd ymroddiad a chefnogaeth noddwyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol; gan anelu at greu diwrnod llawn eiliadau bythgofiadwy sy’n gadael effaith barhaol ar bawb.
Ymunwch yn y dathliadau ym Mharc Owain Glyndŵr, Brynbuga NP15 1AD, ar 26ain Awst 2023, o 12pm tan 8pm a byddwch yn rhan o’r digwyddiad ysbrydoledig hwn.
Mae tocynnau am ddim ar gyfer y digwyddiad ar gael yma: https://www.ticketsource.co.uk/monmouthshire-youth-service
I gael rhagor o wybodaeth, cyfleoedd noddi, neu i wirfoddoli, cysylltwch â gavinbreen@monmouthshire.gov.uk