Tudalen 4 – Monlife


Cyngor Sir Fynwy yn cynnal Cynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth

Mynychodd 60 o ddisgyblion o Gynllun Academi Arweinyddiaeth Cyngor Sir Fynwy Gynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga ar ddydd Gwener, 8fed Mawrth.

Derbyniodd y llysgenhadon ifanc, a ddaeth o’r pedair ysgol uwchradd yn y sir, hyfforddiant arweinyddiaeth a sgyrsiau ysbrydoledig i’w helpu gyda’u gwaith gwirfoddoli yn eu hysgolion a’u cymunedau.

Buont yn cymryd rhan mewn gweithdai i ddatblygu eu sgiliau ymhellach a chawsant gyfle i rwydweithio â llysgenhadon eraill a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Cynhaliodd partneriaid amrywiol o’r sector weithdai, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, a gyflwynodd weithdy ar ‘Rôl yr Arweinydd Ifanc’ – gyda Gemau Stryd yn cyflwyno sesiwn ar ‘Llais Ieuenctid ac Ymgynghori’. Nod y rhain oedd ymrymuso’r llysgenhadon ifanc i weithio’n agos gyda’u cyfoedion a helpu i lunio rhaglenni gweithgareddau corfforol.

Rhannodd Amber Stamp Dunstan o MonLife ei phrofiad o ymuno â’r llwybr arweinyddiaeth a dod yn aelod llawn o staff tra hefyd yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru. Cymerodd y llysgenhadon ifanc ran hefyd mewn dadl yn dilyn sesiwn ar gyfathrebu. O dan arweiniad Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy, rhoddodd hyn gyfle i’r bobl ifanc rannu eu barn ar y rhaglen arweinyddiaeth a sut y gallwn barhau i’w gwella wrth symud ymlaen.

Roedd cynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth yn cyd-daro â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. I nodi’r achlysur, siaradodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, am ei phrofiadau drwy gydol ei gyrfa ddisglair i nodi’r achlysur.

Group of people holding their hands in a heart shape.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae gallu dod â’n llysgenhadon ifanc ynghyd yn Neuadd y Sir yn wych. Bydd clywed a gweld pawb yn ymgysylltu â’i gilydd a dysgu o brofiadau gwahanol yn caniatáu i’r bobl ifanc datblygu eu sgiliau arwain ymhellach. Roedd clywed gan Amber a’r Prif Gwnstabl Pam Kelly ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ysbrydoliaeth. Diolch am rannu eich profiadau gyda’r llysgenhadon ifanc.”

I ddysgu mwy am yr Academi Arweinyddiaeth neu i ddarganfod sut y gallwch chi neu’ch plant gymryd rhan, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/connect/sports-development/


Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a Llwybr Amlddefnydd – Cwestiynau ac Atebion

Cynlluniwyd cynllun teithio llesol Cyswllt Cil-y-coed i greu rhwydwaith integredig o lwybrau rhannu defnydd, sy’n cysylltu ardaloedd preswyl presennol ac ar y gweill yn nwyrain Cil-y-coed a’r cylch gyda chyrchfannau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Y nod yw galluogi preswylwyr i ddefnyddio teithio llesol ar gyfer teithiau lleol a chysylltu gyda rhwydweithiau ehangach teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus  Glannau Hafren drwy adeiladu llwybrau ansawdd uchel a chyfleus ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo.

Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed

Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed yn canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed. Rhannwyd y cynllun yn dair adran wahanol* (gweler y cynllun isod):

  • Rhan 1: Yn rhedeg ar hyd llwybr hen reilffordd Dinham y Weinyddiaeth Amddiffyn, ychydig i’r de o’r Cae Grawn  ym Mhorthysgewid, i fod yn gydwastad gyda Pharc Gwledig Castell Cil-y-coed. Mae’r prif waith adeiladu bellach wedi ei gwblhau, gyda pheth mân waith i’w gwblhau yn hydref 2024 sy’n cynnwys: plannu coed, tirlunio, goleuadau ac arwyddion.
  • Rhannau 2 a 3: O’r lefel gyda’r parc gwledig tua’r gogledd i Crug, gan groesi safleoedd CDLlD gogledd-ddwyrain Cil-y-coed. Mae aliniad llwybr yn cael ei ddatblygu.
  • Rhan 4 – Llwybr Aml-ddefnyddiwr: Yn rhedeg trwy Barc Gwledig Castell Cil-y-coed yn cysylltu â Chysylltiadau Cil-y-coed a’r B4245 ar yr ochr ddwyreiniol ac yn cysylltu â Church Road (ac ymlaen i Ganol Tref Cil-y-coed) ar yr ochr orllewinol.

*Caiff adrannau o’r cynllun eu cyflwyno fel y bydd cyllid a chyfyngiadau eraill yn caniatáu, h.y. nid o reidrwydd mewn trefn rifyddol.

Cynnydd Presennol

Rhan 1: Mae’r prif waith adeiladu bellach wedi’i gwblhau, gyda rhai mân waith eto i’w gwblhau yn hydref 2024 sy’n cynnwys: plannu coed, tirlunio, goleuadau ac arwyddion.

Mae croeso i chi ddefnyddio’r rhan hon o lwybr teithio llesol newydd Cysylltiadau Cil-y-coed ar gyfer cerdded, olwynio a beicio. Sylwch nad yw’r llwybr hwn yn cael ei hyrwyddo fel un hygyrch i bob defnyddiwr ar hyn o bryd ac mae’n cynrychioli’r cam cyntaf o ran darparu cysylltiad cyflawn o Borthsgiwed i Gil-y-coed.

Nodwch y canlynol os gwelwch yn dda:

  • Parc Gwledig Castell Cil-y-coed: Ar hyn o bryd, nid oes llwybr wyneb caled ffurfiol yn cysylltu’r llwybr tarmac hwn â ffordd wasanaeth tarmac y Parc Gwledig. Bydd angen i ddefnyddwyr sy’n dymuno parhau i mewn i’r Parc Gwledig ddefnyddio llwybrau glaswellt anffurfiol, sydd ag arwynebau anwastad, llethrau a giatiau.
  • Parc Elderwood: Nid oes cysylltiad ymlaen o ben y ramp i Barc Elderwood oherwydd bod y datblygiad tai yn dal i gael ei adeiladu.

Llun: Cysylltiadau Cil-y-coed cam 1 – Cyn ac ar ôl

Rhannau 2 a 3: Mae ymgynghorwyr a benodwyd gan CSF wedi cynnal astudiaeth o’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer datblygu’r llwybr i’r gogledd a’r dwyrain o’r Parc Gwledig, gan ystyried y cyfleoedd allweddol a chyfyngiadau’r ardal hon. Mae Cyngor Sir Fynwy bellach yn bwrw ymlaen â’r camau nesaf i ddatblygu’r adran hon.

Rhan 4 – Llwybr Aml-Ddefnyddwyr: Mae ymgynghorwyr yn cael eu penodi i symud ymlaen â’r gwaith dylunio a chaniatâd hyd at y cam cyn-adeiladu ar gyfer llwybr teithio llesol newydd arfaethedig sy’n rhedeg o ben gogleddol Cam 1 y Cysylltiadau trwy ochr ddwyreiniol Parc Gwledig Castell Cil-y-coed i ymuno â ffordd darmac y parc gwledig presennol ychydig i’r dwyrain o nant Nedern. Mae gwaith asesu ar wahân ychwanegol yn cael ei wneud i edrych ar y cysylltiadau ymlaen i’r dwyrain a’r gorllewin.

Pam canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed?

Mae’r cynllun yn anelu i wella mynediad cynaliadwy i wasanaethau, siopau a safleoedd addysg a chyflogaeth o amgylch Cil-y-coed. Mae cynhyrchu teithiau yn gysylltiedig â’r datblygiad preswyl arfaethedig yn nwyrain a gogledd Cil-y-coed yn ogystal â’r angen i liniaru tagfeydd yn gysylltiedig gyda safleoedd cyflogaeth lleol a phontydd di-doll yr Hafren yn rhoi ysgogiad ychwanegol i’r cynllun, gan fod hwn yn gyfle i wneud teithio llesol y dull a ffefrir ar gyfer teithiau lleol ar gyfer preswylwyr hen a newydd fel ei gilydd.

Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed a gyflwynir mewn camau yn canolbwyntio ar ddwyrain Cil-y-coed, yn cynnwys cysylltu gyda datblygiadau tai oddi ar Heol yr Eglwys a Heol Crug i sicrhau fod gan breswylwyr cyfredol a phreswylwyr y dyfodol opsiynau trafnidiaeth cyfleus, iach a chynaliadwy, i leihau a rheoli effaith traffig ffordd poblogaeth gynyddol a chyfeirio preswylwyr ac ymwelwyr i ganol y dref fel cyrchfan leol.

Isod mae manylion ein Map Teithio Llesol ar gyfer Cil-y-coed, yn dangos faint o amser y byddai’n ei gymryd fel arfer i  deithio yn yr ardal leol. Bydd yr ardaloedd datblygu lleol, a ddangosir mewn brown, yn cynnwys parseli o fannau gwyrdd (h.y. mae’r safleoedd a ddangosir yn cynnwys ardaloedd na fydd adeiladu):

Beth yw teithio llesol?

Mae teithio llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, olwyno neu seiclo i gyrchfan y mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn eu disgrifio fel “teithiau pwrpasol”. Nid yw’n cynnwys teithiau a wneir yn llwyr ar gyfer hamdden er y gallai wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol drwy helpu i gysylltu’r rhwydweithiau. Gellir defnyddio Teithio Llesol i fynd i’r ysgol, gwaith, gwasanaethau a siopau, neu fel un o nifer o ddulliau teithio ar daith hirach – er enghraifft, cerdded i’r orsaf i ddal bws neu drên. Ffocws strategaeth teithio llesol Cyngor Sir Fynwy yw teithiau o dair milltir neu lai, sy’n golygu gwella seilwaith cerdded a seiclo o fewn cymunedau a rhwng aneddiadau cyfagos tebyg i Gil-y-coed, Porthysgewin a Crug, fel y gall teithio llesol fod yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau lleol. Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn anelu i weithio cysylltiadau teithio llesol i drafnidiaeth gyhoeddus, i gefnogi teithio cynaliadwy ar draws y sir.

Sut y caiff cynllun Cyswllt Cil-y-coed ei ariannu?

Caiff Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a’r Llwybr Amlddefnydd eu hariannu drwy grantiau Llywodraeth Cymru sydd wedi eu hanelu at welliannau i ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy.

Sut y caiff tynnu coed ar hyd y llwybr teithio llesol ei liniaru?

Wrth adeiladu Cam 1, mae coed a llystyfiant wedi’u clirio i wneud lle i’r llwybr a’i rampiau mynediad. Roedd angen clirio coed ychwanegol hefyd mewn ymateb i glefyd (Chalara) coed yr ynn ar y safle ac fe’i cyfunwyd i fod yn fwy cost effeithiol. Roedd y gwaith clirio ond yn cynnwys yr hyn oedd ei angen i sicrhau bod yr hen reilffordd yn ddiogel ar gyfer y defnyddwyr presennol ac i alluogi adeiladu’r llwybr Teithio Llesol tra’n diogelu bywyd gwyllt ar y safle.

Disgwylir y bydd y llwybrau teithio llesol gwell yn cynyddu cyfleoedd lleol ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo a dylai hynny gael effaith gadarnhaol hirdymor ar yr amgylchedd a bioamrywiaeth lleol fel y’i disgrifir yn Nghanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol.

Pam na all seiclwyr ddefnyddio’r ffordd?

Gallai llawer o deithiau byr mewn car gael eu gwneud drwy deithio llesol yn lle hynny. Mae syniad o berygl oherwydd traffig ffordd yn rhwystr allweddol sy’n atal mwy o bobl rhag teithio llesol, ac mae lefelau isel o seiclo er y rhwydwaith ffordd gynhwysfawr yn dangos nad yw seiclo ar y ffordd yn opsiwn ymarferol i lawer. Mae’r cynllun yn manteisio ar y cyfle i wella hygyrchedd llwybrau oddi ar y ffordd sy’n fwy tebygol o gynnig dewis deniadol a diogel yn lle gyrru ar gyfer ystod ehangach o bobl, gan gynyddu’r awydd am deithio llesol tra’n cwtogi nifer y teithiau byr a wneir mewn ceir.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gysylltu â thîm y prosiect, e-bostiwch ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk


Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy yn llwyddo yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024

Mae Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy wedi ennill gwobr ‘Nofio Ysgolion a Diogelwch yn y Dŵr’ yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024.

Yn dilyn y gwobrau a gynhaliwyd ar 20fed Ionawr, llwyddodd Adran Chwaraeon a Hamdden MonLife i ennill y wobr yn dilyn 2023 gwych. Nod y rhaglen yw sicrhau bod nofio mewn ysgolion yn hygyrch i gynifer o blant â phosibl ledled Sir Fynwy, cydweithrediad rhwng ysgolion a hamdden i ddarparu sgiliau bywyd hanfodol.

Yn 2023, roedd 100% o ysgolion Cynradd ac Uwchradd Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn rhaglen nofio MonLife. Daeth dros 3500 o blant i ddilyn Fframwaith Nofio Ysgol. Arweiniodd y rhaglen at gynnydd o 12.5% yn nifer y disgyblion a enillodd Wobr Nofio Ysgol ym mlwyddyn 6, gyda dros 62% o ddisgyblion yn cyflawni deilliannau’r cwricwlwm erbyn i’w cyfnod yn yr ysgol gynradd ddod i ben.

Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais mawr ar ddiogelwch yn y dŵr, ac yn ystod Wythnos Atal Boddi, cafodd pawb a fynychodd wers atal boddi bwrpasol. Ategwyd hyn ymhellach gan y sesiwn benodol am Ddiogelwch yn y Dŵr a roddwyd i’r sawl a fu’n cymryd rhan yn eu sesiwn gyntaf.

Cabinet Member for Equalities and Engagement, Cllr Angela Sandles with students from Magor Church in Wales Primary School at their school swimming lesson.
Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Cyng. Angela Sandles gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr yn eu gwers nofio

Mae’r rhaglen hefyd wedi galluogi myfyrwyr Academi Arweinyddiaeth MonLife i gael profiad o weithio mewn digwyddiadau chwaraeon. Yn nhymor yr haf 2023, bu myfyrwyr yr Academi Arweinyddiaeth yn cynorthwyo staff MonLife i gynnar pedair Gŵyl Nofio ar gyfer Ysgolion Cynradd. Roedd 345 o blant wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cynhwysol. Roedd gwyliau yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy yn caniatáu i ddisgyblion gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau hwyl heb orfod cystadlu, gan gynnwys fflotiau, strociau a rasys woggle.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r wobr hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein Hadran Chwaraeon a Hamdden, hyfforddwyr nofio ac athrawon ysgol. Mae’n rhoi mynediad i ddysgwyr i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol iddynt fyw bywyd gweithgar a sgiliau a all achub bywydau. Llongyfarchiadau a diolch i’r holl staff sy’n cynnal ac yn cefnogi’r rhaglen.”


Arddangosfa Newydd yn Amgueddfa Neuadd y Sir

Drwy gydol mis Ionawr, mae arddangosfa newydd wedi’i harddangos yn Neuadd y Sir i ddathlu ei hanes dros 300 mlynedd. Yr arddangosfa hon yw’r gyntaf o lawer o arddangosfeydd newydd a arddangosir yn Amgueddfa newydd Neuadd y Sir.

Ochr yn ochr â’r arddangosfa, bydd tîm Neuadd y Sir yn ymgysylltu â’n cymunedau lleol ac yn siarad ag ymwelwyr i ddeall pa bynciau a themâu y maent am eu gweld yn yr amgueddfa. Bydd yr holl adborth yn cael ei ddefnyddio i greu’r Cynllun Dehongli a fydd yn llywio dyluniad a phrofiad ymwelwyr â’r amgueddfa.

Yn ogystal â’r arddangosfa, gall ymwelwyr weld yr adolygiadau diweddar o’r casgliadau a gynhaliwyd ar draws amgueddfeydd MonLife.

Wedi’i ariannu gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r gwaith hwn yn cefnogi symud casgliadau Nelson a Threfynwy i’w cartref newydd yn Neuadd y Sir. Mae’r grant yn ychwanegiad cadarnhaol i’w groesawu, yn enwedig gyda’r pwysau cynyddol ar wasanaethau diwylliannol oherwydd cyllidebau sy’n cael eu cwtogi. Bydd y gwaith yn helpu i lunio dyfodol cynaliadwy i’r amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i bleidleisio ar y gwrthrychau a’r themâu allweddol sy’n ymwneud â’r Arglwydd Nelson, a fydd yn llywio’r arddangosfeydd yn yr amgueddfa newydd yn y dyfodol.

Mae’r holl waith hwn wedi bod yn rhan o’r prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Bocs’ y mae’r amgueddfa wedi bod yn ei gyflawni drwy gydol 2023. Ar ôl adolygu casgliad Nelson, nododd y tîm gasgliad o arwyddocâd cenedlaethol. Dyma nawr yw eich cyfle i roi adborth ar yr hyn sy’n bwysig i chi o fewn y casgliad.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r arddangosfa newydd yn yr Amgueddfa yn gyfle gwych i gymunedau lleol ac ymwelwyr â Threfynwy ddysgu mwy am hanes adeilad mor eiconig yng nghanol y dref. Rydym am ddarparu gofod lle gall pawb ddysgu am eu hanes lleol tra’n  gweld arddangosfeydd y maent am eu gweld. Ewch i’r arddangosfa i ddysgu mwy am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn Amgueddfeydd MonLife.”

Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd yn Neuadd y Sir yma: https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/the-shire-hall/


Mae gwaith yn mynd rhagddo ar Lwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy

Gan ddechrau ar y 22ain Ionawr, bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau gweithio ar lwybr teithio llesol newydd, Llwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a Chronfa Dyrannu’r Gronfa Lles Craidd, a’i nod yw datblygu llwybr teithio llesol newydd sbon yn Nhrefynwy.

Mae’r llwybr hwn yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith Teithio Llesol cynhwysfawr. Bydd yn darparu mynediad uniongyrchol i Bont Mynwy a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yng nghanol y dref. Bydd y llwybr yn cysylltu Lôn Cae Williams â chanol tref Trefynwy drwy Heol Wonastow a Stryd Drybridge. Bydd hefyd yn darparu cysylltiadau o barc sglefrio Heol Rockfield i ganol y dref.

Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn gweld nifer o newidiadau ar hyd y llwybr. Maent yn cynnwys:

  • Lledu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol Heol Wonastow i gynnwys llwybr troed/beic a rennir (bydd dwy lôn ar gyfer traffig yn cael eu cynnal).
  • Gosod cyffordd â blaenoriaeth (cyffordd T) yn lle’r gylchfan fach bresennol yn Heol Wonastow /Rockfield.
  • Darparu croesfan i gerddwyr ar Heol Wonastow a Heol Rockfield.
  • Lledu’r droedffordd bresennol ar Heol Rockfield o’r gyffordd flaenoriaeth newydd i barc sglefrio Trefynwy. Bydd traffig dwy ffordd yn cael ei gynnal, ac ni fydd yn effeithio ar safleoedd bysiau.
  • Lledu rhan fer o’r llwybr troed presennol ar hyd Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy
  • Cael gwared ar rannau o barcio ar y stryd ar hyd Heol Wonastow i ddarparu’r llwybr yn unol â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol.
  •  

Disgwylir i’r gwaith barhau am 12 wythnos, gyda’r nod o orffen erbyn canol mis Ebrill 2024. Bydd y llwybr hwn yn darparu cysylltiadau â lleoliadau addysg, megis Ysgol Gynradd Overmonnow ac Ysgol Gyfun Trefynwy, a bydd yn gyswllt canolog â chanol y dref a’i chyfleusterau. Bydd angen goleuadau traffig dros dro ar gyfer y gwaith ac maent wedi’u trefnu gan ystyried gwaith ffordd arall sydd wedi’i gynllunio yn yr ardal i leihau’r effaith.

Os hoffech fwy o fanylion am y rhaglen waith gyflawn yn Nhrefynwy, ewch i https://www.monlife.co.uk/williams-field-lane-to-monnow-bridge-active-travel-route/.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae hwn yn gam cyffrous yn natblygiad Llwybr Teithio Llesol yn Nhrefynwy. Bydd ehangu llwybrau troed yn darparu llwybr mwy diogel i feicwyr a cherddwyr wrth iddynt teithio o gwmpas Trefynwy.”


Cynigion ar gyfer Gofodau Natur Cymunedol yn y Fenni

Bydd Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy, y mae Cyngor Sir Fynwy yn ei chynnal, yn cyflwyno’r Prosiect Gofodau Natur Cymunedol yn y Fenni y gaeaf hwn a’r gwanwyn nesaf, yn dilyn prosiectau tebyg yn Nhrefynwy a Chas-gwent.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gofynnwyd i drigolion a rhanddeiliaid rannu eu barn ar syniadau ar gyfer gwella’r ardal. Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol, gyda’r syniadau bellach yn cael eu datblygu’n ddyluniadau terfynol. Gallwch nawr roi adborth ar y dyluniadau cyn i unrhyw waith ddechrau.

Yr wyth safle yn y Fenni a fydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yw:

• Major’s Barn / Man Chwarae Underhill

• Parc Croesenon

• Dan y Deri (Ynysoedd Gwyrdd)

• Dan y Deri (mannau gwyrdd CSF)

• Yr Orsaf Fysiau

• Ardal Chwarae St Helen’s Close/Union Road

• Ymyl Ffordd Rhan Isaf Monk Street 

• Clos y Parc

Mae’r safleoedd hyn wedi’u dewis ar sail ymatebion a dderbyniwyd yn ystod camau cyntaf yr ymgynghoriad a lle bydd natur a phobl yn elwa fwyaf.

Mae trigolion, busnesau, a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i ymweld â thudalen we Gofodau Natur Cymunedol i weld y dyluniadau a rhannu eu hadborth erbyn 19 Ionawr, 2024. Nod y Cyngor yw parhau i reoli a gwella mannau gwyrdd y tu hwnt i’r prosiect hwn ac mae’n croesawu syniadau am feysydd yn eich ardal chi y gellid eu hystyried yn rhan o gynlluniau’r dyfodol. I roi adborth neu rannu eich syniadau ar ofodau natur cymunedol, e-bostiwch localnature@monmouthshire.gov.uk

Nod y Prosiect Gofodau Natur Cymunedol, a gefnogir gan gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, yw gwella ein mannau gwyrdd ar gyfer natur a helpu i gefnogi cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles. Gellir gwneud hyn mewn amrywiol ffyrdd, megis plannu coed, ychwanegu gwelyau uchel ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned, ac ehangu’r gwaith o blannu blodau gwyllt ar gyfer peillwyr. Byddant yn lleoedd i ddod yn agos at natur a bod yn egnïol.

I ddarganfod mwy, ewch i: https://www.monlife.co.uk/outdoor/green-infrastructure/gi-and-nature-projects/community-nature-spaces/consultation-community-nature-spaces/

E-bostiwch ni – localnature@monmouthshire.gov.uk


MonLife yn cynnal Dathliad Nadolig ar gyfer Gwirfoddolwyr gwerthfawr

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yng ngwasanaethau MonLife ac maent yn hanfodol i gymunedau lleol. Maent yn helpu swyddogion i gyflwyno cyfleoedd a digwyddiadau i drigolion Sir Fynwy.

Ar ddydd Mercher, 13eg Rhagfyr, cynhaliodd MonLife Ddathliad Gwirfoddolwyr y Nadolig yn y Neuadd Sirol, Trefynwy. Roedd y digwyddiad yn caniatáu gwirfoddolwyr o wahanol feysydd gwasanaeth i gwrdd a rhannu eu profiadau gwerthfawr tra hefyd yn caniatáu i ni ddiolch i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith o fewn MonLife.

Mae pobl o bob oed yn gwirfoddoli gyda MonLife am resymau gwahanol, gan gynnwys ennill profiad, magu hyder, mwynhau eu hunain, neu helpu eraill a’u cymuned. Mae llawer o wirfoddolwyr wedi mynd ymlaen i weithio amser llawn o fewn gwasanaethau Cyngor Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Rwyf am ddiolch i’n holl wirfoddolwyr anhygoel sy’n cyfrannu at ein gwaith ar draws y Cyngor. Roedd gweld cymaint yn Neuadd y Sir i ni ddiolch iddynt yn wych. Mae gwirfoddolwyr wedi cael effaith eleni, nid yn unig mewn gwerth economaidd ond hefyd ar lefel gymunedol, gan ddarparu cefnogaeth i’n gwasanaethau MonLife a helpu gyda digwyddiadau ar draws yr hyn y mae MonLife yn ei ddarparu. Os ydych am gael profiad mewn maes penodol, cwrdd â phobl newydd, neu helpu ni wasanaethu’r gymuned, edrychwch ar yr opsiynau gwirfoddoli sydd ar gael.”

Rhwng Ebrill a Medi 2023, cymerodd 282 o wirfoddolwyr ran mewn 32 o gyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys datblygu chwaraeon, Theatr Borough, gweithio yng nghefn gwlad a’n amgueddfeydd. Cyfrannodd y gwirfoddolwyr hyn gyfanswm o 6,289 o oriau, sydd â gwerth economaidd amcangyfrifedig o fwy na £85,000. 

Pan fyddwch yn gwirfoddoli, gallwch gael mynediad at raglen hyfforddi lawn, rhaglen gynefino gyflawn, ‘cyfaill’ penodedig a’n gwefan Volunteer Kenetic ar-lein. Byddwch hefyd yn cael mynediad rheolaidd at gymorth 1-2-1 neu grŵp a chyfle i gwrdd â phobl newydd o’ch ardal ac ar draws y sir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, gallwch ddarganfod mwy yma: https://www.monlife.co.uk/connect/volunteering/ 


Angen Aelodau newydd ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy

Eagle's Nest Viewpoint
Golygfan Nyth yr Eryrod

Mae Cyngor Sir Fynwy yn recriwtio aelodau newydd ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy.

Mae’r Fforwm Mynediad Lleol yn cynghori’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill ar wella hawliau tramwy cyhoeddus a mannau gwyrdd yn Sir Fynwy.

Swyddi gwirfoddol yw’r rhain i roi cyngor ar faterion mynediad i gefn gwlad a helpu i gefnogi gwelliannau i fynediad lleol.

Er bod aelodau’n cael eu penodi’n bersonol, yn unol â’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad o gael mynediad i gefn gwlad, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ddarpar aelodau sydd â chysylltiadau rhagorol a gweithredol â sefydliadau, partneriaethau a grwpiau diddordeb lleol perthnasol.

Mae’r Fforwm yn ceisio cydbwyso buddiannau tirfeddianwyr a rheolwyr tir, pob math o ddefnyddwyr mynediad a’r rhai sy’n cynrychioli buddiannau eraill, megis iechyd, mynediad i bawb a chadwraeth. Rydyn ni’n edrych am aelodau gydag arbenigedd a diddordebau eang, gall cefnogi ymrwymiad Cyngor Sir Fynwy i wella mynediad i gefn gwlad.

Mae’r Fforwm yn rhan o ofynion Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i gynghori ar wella mynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhad o’r ardal ac i gynghori a chynorthwyo gyda gweithredu’r Cynllun Gwella Mynediad i Gefn Gwlad. Mae’n cynnwys rhwng 12 a 22 o aelodau. Penodir aelodau am dair blynedd. Fel arfer cynhelir cyfarfodydd bob chwarter.

Mae gwybodaeth bellach a ffurflen gais ar gael ar y wefan https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/countryside-access/ neu cysylltwch gyda countryside@monmouthshire.gov.uk

Mae angen ffurflenni wedi’u llenwi erbyn 12fed Ionawr 2024.


MonLife yn dod yn ‘Ganolfan Ragoriaeth’ ar gyfer y Sefydliad Sgiliau Arwain.

Mae tîm Datblygu Chwaraeon BywydMynwy wedi’i enwi’n Ganolfan Ragoriaeth gan y Sefydliad Sgiliau Arwain am gyflwyno Gwobr PlayMaker i ddisgyblion Blwyddyn 5 ar draws holl ysgolion cynradd Sir Fynwy.

Mae’r statws yn cydnabod bod Datblygiad Chwaraeon BywydMynwy wedi rhagori yn sgil yr arweinyddiaeth y mae’n cynnig a’n hyrwyddo’r neges o gredu, arwain a llwyddo drwy ei ddarpariaeth o ansawdd uchel. Dyfernir statws Canolfan Ragoriaeth i’r 2% uchaf o’r 2,500 o ganolfannau.

Children playing. Children placing a ball on a sports cone

Ar ôl cyflwyno Gwobr ‘PlayMaker’ ers 2017/18, mae’r tîm wedi darparu’r hyfforddiant i fwy na 5,500 o ddisgyblion, gyda 100% o ysgolion yn cymryd rhan yn y rhaglen.

Nod Gwobr PlayMaker yw cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau arwain a darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i gynllunio a threfnu darpariaeth chwaraeon yn eu hysgol. Mae hyn yn galluogi pobl ifanc i greu gweithgareddau y gallant eu cyflwyno yn ystod amser egwyl ac amser cinio yn ddiogel. Drwy gyfrwng y Wobr PlayMaker, bydd y disgyblion yn ennill sgiliau cyfathrebu beirniadol, arwain, trefnu a gwydnwch.

Gwobr PlayMaker yw man cychwyn disgyblion ar y llwybr arweinyddiaeth Datblygu Chwaraeon. Ar ôl cwblhau’r wobr hon, mae potensial i ddisgyblion symud ymlaen i gynllun Llysgenhadon Efydd Blwyddyn 6 ac yn ddiweddarach i Academïau Arwain Ysgolion Uwchradd. Mae’r llwybr yn cynnwys Blwyddyn 5 ac uwch ac yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr ddilyn cyfleoedd cyflogaeth ôl-16.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r tîm gael eu cydnabod am eu hymroddiad. Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon yn sicrhau bod disgyblion yn arwain ffordd o fyw egnïol ac yn ennill medrau allweddol mewn cyfathrebu, arweinyddiaeth a threfniadaeth. Bydd y sgiliau hyn yn caniatáu iddynt ddatblygu yn yr ysgol ac wrth ymuno â’r byd gwaith.”

Am fwy o wybodaeth am raglenni Datblygu Chwaraeon, neu i gysylltu â’r tîm, e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk


The Strangglers yn Cyhoeddi Sioe Haf Fyw Arbennig yn Dathlu 50 Mlynedd yng Nghastell Cil-y-coed

Rhannu blwyddyn Aur ar gyfer The Stranglers a Chil-y-coed yn ennill statws fel tref

A’r Buzzcocks fel gwesteion arbennig – Dydd Sadwrn 8fed Mehefin 2024

Tocynnau ar werth o 10am ar ddydd Gwener 1af Rhagfyr

https://myticket.co.uk/artists/the-stranglers

Mae’r Eiconau pync/roc o Brydain, The Stranglers, yn dathlu eu hanner canmlwyddiant drwy gyhoeddi perfformiad byw arbennig yr haf nesaf yng Nghastell Cil-y-coed, ar ddydd Sadwrn 8fed Mehefin. Gan rannu eu hanner canmlwyddiant gyda Chil-y-coed yn dathlu 50 mlynedd ers derbyn statws fel tref, bydd hwn yn ddathliad euraidd disglair na fydd Cil-y-coed byth yn ei anghofio. The Stranglers yw un o’r bandiau sydd wedi goroesi hiraf ac maent yn tarddu o’r sîn bync ym Mhrydain, ac maen nhw’n dod â’u sioe haf arbennig i ddathlu eu pen-blwydd yn 50 oed gyda’u ffrindiau, Buzzcocks, hefyd yn ymuno â nhw ar y noson.

Gan ddathlu eu gyrfa arloesol yn y diwydiant, sy’n ymestyn dros bum degawd anhygoel, bydd The Stranglers yn tanio Cymru wrth iddynt ddod â’u catalog helaeth o ganeuon yn fyw yn y perfformiad unigryw hwn. Gan ddewis cefndir canoloesol anhygoel Castell Cil-y-coed fel eu llwyfan, a gyda’r awyr serennog agored yng ngolau’r lleuad, mae hwn yn argoeli i fod yn berfformiad ysblennydd a bythgofiadwy na fydd cefnogwyr pync eisiau ei golli.

“Mae wedi bod yn 50 mlynedd, ac am daith pync gynddeiriog mae cerddoriaeth The Stranglers wedi’i chael,” meddai’r band, “Mae yna gatalog mor eang ac amrywiol o ganeuon rydyn ni eisiau eu rhannu gyda phawb, ac felly fe fyddwn ni yn dewis y traciau gorau i berfformio’n fyw ar y noson. Byddwn yn bloeddio’r clasuron pync/roc hynny, o dan awyr Cymru a waliau Castell Cil-y-coed yn edrych drostyn nhw, ac mae’n mynd i fod yn brofiad arbennig i ni gyd. A byddwn yn chwifio’r faner dros Gil-y-coed hefyd, gan ei bod yn dathlu hanner can mlynedd ers ennill statws fel tref, ac felly mae’n argoeli i fod yn noson arbennig i ni a’r dref, a byddwn yn dathlu gyda chi. Noson i’w chofio i bawb un. Ni’n methu aros.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’n wych gweld Castell Cil-y-coed unwaith eto yn denu bandiau eiconig i berfformio yma. Edrychwn ymlaen at groesawu’r Stranglers a’r Buzzcocks i’n sir wych ac yn arbennig i Gastell Cil-y-coed, lleoliad prydferth ar gyfer unrhyw gyngerdd. Am ffordd i ddathlu pen-blwydd Cil-y-coed yn 50 fel tref!”

Tocynnau ar werth o 10am ar ddydd Gwener 1af Rhagfyr

https://myticket.co.uk/artists/the-stranglers

The Stranglers

The Stranglers (Official)

https://thestranglers.co.uk/embed/#?secret=wZqoXDAzEq#?secret=H0lhyJ6Gkp

https://www.facebook.com/thestranglers/

https://www.instagram.com/stranglersofficial

https://www.youtube.com/channel/UC9nz7lwupHQIIcZwq1mmewg

Buzzcocks

http://www.buzzcocks.com/

https://www.facebook.com/buzzcocksofficial/

Mae The Stranglers yn fand roc Saesneg a ddaeth i’r amlwg drwy’r sîn pync-roc. Gyda 23 cân o fewn y 40 sengl gorau yn y DU ac 19 albwm o fewn y 40 albwm gorau yn y DU a gyrfa sy’n ymestyn dros bum degawd, mae’r Stranglers yn un o’r bandiau sydd wedi goroesi hiraf i darddu yn y byd pync yn y DU.

Wedi’u ffurfio fel y Guildford Stranglers yn Guildford, Surrey, yn gynnar yn 1974, gwnaethant ennill ganmoliaeth  o fewn golygfa roc tafarn ganol y 1970au. Er bod eu hagwedd ymosodol, di-gyfaddawd wedi’u huniaethu gan y cyfryngau â’r sîn pync-roc a oedd yn dod i’r amlwg yn y DU, nid oeddynt yn dilyn unrhyw genre cerddorol unigol, ac aeth y grŵp ymlaen i archwilio amrywiaeth o arddulliau cerddorol, o don newydd, roc celf a roc gothig trwy soffisti-pop rhai o’u hallbwn o’r 1980au. Cawsant lwyddiant prif ffrwd mawr gyda’u sengl ym 1982 ‘Golden Brown’. Mae eu llwyddiannau eraill yn cynnwys ‘No More Heroes’, ‘Peaches’ ‘Skin Deep’ ‘Always the Sun’ a ‘Big Thing Coming’.

Mae’r Buzzcocks  yn cynnwys y cantor-gyfansoddwr-gitarydd band pync Seisnig Pete Shelley a’r canwr-gyfansoddwr Howard Devoto a ffurfiwyd yn Bolton yn 1976. Yn ystod eu gyrfa, cyfunodd y band elfennau o roc pync, pop pŵer, a pop pync. Cawsant lwyddiant gyda senglau sy’n asio crefftwaith pop ag egni pync cyflym; casglwyd y senglau hyn yn ddiweddarach ar Singles Going Steady, a ddisgrifydd gan y newyddiadurwr a’r beirniad cerddoriaeth Ned Raggett fel “campwaith pync”.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Samantha Giannini,
Kilimanjaro Live  Ffôn: 07932 820952  e-bost: sam.giannini@kilimanjarolive.co.uk