The Strangglers yn Cyhoeddi Sioe Haf Fyw Arbennig yn Dathlu 50 Mlynedd yng Nghastell Cil-y-coed - Monlife - Page 3


The Strangglers yn Cyhoeddi Sioe Haf Fyw Arbennig yn Dathlu 50 Mlynedd yng Nghastell Cil-y-coed

Rhannu blwyddyn Aur ar gyfer The Stranglers a Chil-y-coed yn ennill statws fel tref

A’r Buzzcocks fel gwesteion arbennig – Dydd Sadwrn 8fed Mehefin 2024

Tocynnau ar werth o 10am ar ddydd Gwener 1af Rhagfyr

https://myticket.co.uk/artists/the-stranglers

Mae’r Eiconau pync/roc o Brydain, The Stranglers, yn dathlu eu hanner canmlwyddiant drwy gyhoeddi perfformiad byw arbennig yr haf nesaf yng Nghastell Cil-y-coed, ar ddydd Sadwrn 8fed Mehefin. Gan rannu eu hanner canmlwyddiant gyda Chil-y-coed yn dathlu 50 mlynedd ers derbyn statws fel tref, bydd hwn yn ddathliad euraidd disglair na fydd Cil-y-coed byth yn ei anghofio. The Stranglers yw un o’r bandiau sydd wedi goroesi hiraf ac maent yn tarddu o’r sîn bync ym Mhrydain, ac maen nhw’n dod â’u sioe haf arbennig i ddathlu eu pen-blwydd yn 50 oed gyda’u ffrindiau, Buzzcocks, hefyd yn ymuno â nhw ar y noson.

Gan ddathlu eu gyrfa arloesol yn y diwydiant, sy’n ymestyn dros bum degawd anhygoel, bydd The Stranglers yn tanio Cymru wrth iddynt ddod â’u catalog helaeth o ganeuon yn fyw yn y perfformiad unigryw hwn. Gan ddewis cefndir canoloesol anhygoel Castell Cil-y-coed fel eu llwyfan, a gyda’r awyr serennog agored yng ngolau’r lleuad, mae hwn yn argoeli i fod yn berfformiad ysblennydd a bythgofiadwy na fydd cefnogwyr pync eisiau ei golli.

“Mae wedi bod yn 50 mlynedd, ac am daith pync gynddeiriog mae cerddoriaeth The Stranglers wedi’i chael,” meddai’r band, “Mae yna gatalog mor eang ac amrywiol o ganeuon rydyn ni eisiau eu rhannu gyda phawb, ac felly fe fyddwn ni yn dewis y traciau gorau i berfformio’n fyw ar y noson. Byddwn yn bloeddio’r clasuron pync/roc hynny, o dan awyr Cymru a waliau Castell Cil-y-coed yn edrych drostyn nhw, ac mae’n mynd i fod yn brofiad arbennig i ni gyd. A byddwn yn chwifio’r faner dros Gil-y-coed hefyd, gan ei bod yn dathlu hanner can mlynedd ers ennill statws fel tref, ac felly mae’n argoeli i fod yn noson arbennig i ni a’r dref, a byddwn yn dathlu gyda chi. Noson i’w chofio i bawb un. Ni’n methu aros.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’n wych gweld Castell Cil-y-coed unwaith eto yn denu bandiau eiconig i berfformio yma. Edrychwn ymlaen at groesawu’r Stranglers a’r Buzzcocks i’n sir wych ac yn arbennig i Gastell Cil-y-coed, lleoliad prydferth ar gyfer unrhyw gyngerdd. Am ffordd i ddathlu pen-blwydd Cil-y-coed yn 50 fel tref!”

Tocynnau ar werth o 10am ar ddydd Gwener 1af Rhagfyr

https://myticket.co.uk/artists/the-stranglers

The Stranglers

The Stranglers (Official)

https://thestranglers.co.uk/embed/#?secret=wZqoXDAzEq#?secret=H0lhyJ6Gkp

https://www.facebook.com/thestranglers/

https://www.instagram.com/stranglersofficial

https://www.youtube.com/channel/UC9nz7lwupHQIIcZwq1mmewg

Buzzcocks

http://www.buzzcocks.com/

https://www.facebook.com/buzzcocksofficial/

Mae The Stranglers yn fand roc Saesneg a ddaeth i’r amlwg drwy’r sîn pync-roc. Gyda 23 cân o fewn y 40 sengl gorau yn y DU ac 19 albwm o fewn y 40 albwm gorau yn y DU a gyrfa sy’n ymestyn dros bum degawd, mae’r Stranglers yn un o’r bandiau sydd wedi goroesi hiraf i darddu yn y byd pync yn y DU.

Wedi’u ffurfio fel y Guildford Stranglers yn Guildford, Surrey, yn gynnar yn 1974, gwnaethant ennill ganmoliaeth  o fewn golygfa roc tafarn ganol y 1970au. Er bod eu hagwedd ymosodol, di-gyfaddawd wedi’u huniaethu gan y cyfryngau â’r sîn pync-roc a oedd yn dod i’r amlwg yn y DU, nid oeddynt yn dilyn unrhyw genre cerddorol unigol, ac aeth y grŵp ymlaen i archwilio amrywiaeth o arddulliau cerddorol, o don newydd, roc celf a roc gothig trwy soffisti-pop rhai o’u hallbwn o’r 1980au. Cawsant lwyddiant prif ffrwd mawr gyda’u sengl ym 1982 ‘Golden Brown’. Mae eu llwyddiannau eraill yn cynnwys ‘No More Heroes’, ‘Peaches’ ‘Skin Deep’ ‘Always the Sun’ a ‘Big Thing Coming’.

Mae’r Buzzcocks  yn cynnwys y cantor-gyfansoddwr-gitarydd band pync Seisnig Pete Shelley a’r canwr-gyfansoddwr Howard Devoto a ffurfiwyd yn Bolton yn 1976. Yn ystod eu gyrfa, cyfunodd y band elfennau o roc pync, pop pŵer, a pop pync. Cawsant lwyddiant gyda senglau sy’n asio crefftwaith pop ag egni pync cyflym; casglwyd y senglau hyn yn ddiweddarach ar Singles Going Steady, a ddisgrifydd gan y newyddiadurwr a’r beirniad cerddoriaeth Ned Raggett fel “campwaith pync”.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Samantha Giannini,
Kilimanjaro Live  Ffôn: 07932 820952  e-bost: sam.giannini@kilimanjarolive.co.uk


Mae Grantiau Gwella Mynediad ar gael nawr

Amanda Harris in Chepstow during her epic journey along the Wales Coast Path. Credit @amandascoastalchallenge
Amanda Harris yng Nghas-gwent yn ystod ei thaith epig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Credyd @amandascoastalchallenge

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer dau gynllun Grant Gwella Mynediad newydd gyda’r nod o wella mynediad i atyniadau ymwelwyr Sir Fynwy neu ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr.

Ariennir y ddau gynllun grant o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Y cyntaf yw Cynllun Cefnogi Gwella Mynediad i Ddigwyddiadau, sy’n cynnig grantiau refeniw o hyd at £5,000 i ymgeiswyr sydd am wella mynediad mewn digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr a/neu gynnig gweithgareddau cynhwysol newydd mewn digwyddiadau yn Sir Fynwy.

Yr ail yw Cynllun Grant Cyfalaf Gwella Mynediad, sy’n cynnig grantiau cyfalaf o hyd at £25,000 i sefydliadau yn Sir Fynwy sy’n ceisio gwella mynediad at atyniadau a digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr.

Bydd ceisiadau ar gyfer y ddau gynllun grant yn cael eu hasesu rhwng nawr a diwedd Rhagfyr 2024 (pan fydd y cynllun yn cau) neu cyn hynny os dyrennir yr holl gyllid.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’r grantiau hyn yn rhoi cyfle gwych i wella hygyrchedd digwyddiadau ac atyniadau yn Sir Fynwy er budd pawb, boed nhw yma am ddiwrnod, wythnos neu oes. Byddwn yn annog unrhyw sefydliad sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i gyflwyno cais.”

Mae’r cynlluniau grant yn rhan o brosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin ehangach Llywodraeth y DU i ddatblygu Sir Fynwy fel cyrchfan i bawb. Mae gweithgareddau arfaethedig eraill yn cynnwys datblygiadau i wella hygyrchedd gwefan y gyrchfan, www.VisitMonmouthshire.com  a chyngor a hyfforddiant arbenigol i fusnesau twristiaeth ar fynediad a chynwysoldeb.

Gallwch ddarllen mwy am gynlluniau grant newydd a’r meini prawf cymhwyster yma:www.visitmonmouthshire.com/destination-management/access-improvement-grants

Monmouthshire County Council Cabinet Member for Equalities and Engagement Cllr. Angela Sandles
elod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles


Cyfleusterau chwaraeon newydd yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed

Photo on the new MUGA at Caldicot Leisure centre.  Cllr Jackie Strong, Cllr I R Shillabeer, Caldicot Town Council, Chair of Monmouthshire County Council Cllr Meirion Howells, Cabinet Member for Education Cllr Martyn Groucutt, Joe Killingley, Caldicot Leisure Centre Manager and Jack Harris, Community and Sport Development Officer.
Cyng Jackie Strong, Cyng I R Shillabeer, Cyngor Tref Cil-y-coed, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy y Cyng Meirion Howells, Aelod Cabinet dros Addysg Cyng  Martyn Groucutt, Joe Killingley, Rheolwr Canolfan Hamdden Cil-y-coed a Jack Harris, Swyddog Datblygu Cymunedol a Chwaraeon.

Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy agoriad swyddogol o gyrtiau pêl-fasged, pêl-rwyd a thenis newydd Canolfan Hamdden Cil-y-coed ar ddydd Iau, 1af o Dachwedd.

Bydd y safle defnydd deuol yn darparu ar gyfer diwallu anghenion y cwricwlwm, gyda’r ysgol uwchradd ar y safle ac ysgolion cynradd clwstwr lleol, yn ogystal â’r defnydd cymunedol gyda’r nos ac ar benwythnosau, a hynny diolch i’r llifoleuadau bylbiau LED newydd uwchben y cyrtiau. Gellir archebu lle drwy’r wefan, ap neu yn y dderbynfa yn y ganolfan hamdden.

Mae Canolfan Hamdden Cil-y-coed yn ganolfan wych i lawer o glybiau, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Yn ogystal â’r cyrtiau defnydd deuol newydd sydd â chylchoedd pêl-fasged newydd sbon y gellir addasu eu huchder, sy’n darparu ar gyfer pob oed a gallu, gall ymwelwyr gael mynediad i gae 3G gyda llifoleuadau (cymeradwywyd gan FIFA), maes Astroturf maint llawn, neuadd chwaraeon amlbwrpas, ystafell ffitrwydd, cyrtiau sboncen a phwll nofio 20m. Er mwyn dysgu mwy am y ganolfan hamdden, ewch i https://www.monlife.co.uk/monactive/caldicot-leisure-centre/

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Bydd y cyrtiau newydd sy’n agor yn swyddogol heddiw yn chwarae rhan hanfodol wrth ganiatáu i ddisgyblion lleol, grwpiau ieuenctid, trigolion a’r gymuned ehangach i fyw bywyd gweithgar, iachus drwy gydol y flwyddyn. Ni allaf aros i weld pawb yn elwa o’r cyfleuster newydd anhygoel hwn.”

Cabinet Member for Equalities and Engagement Cllr Angela Sandles Joe Killingley, Caldicot Leisure Centre manager on the new improved Basketball court at Caldicot Leisure Centre
Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy Cllr Angela Sandles gyda Joe Killingley, Rheolwr Canolfan Hamdden Cil-y-coed ar y cwrt pêl-fasged newydd.


Hwyl Arswydus i’r teulu cyfan yn Sir Fynwy’r hanner tymor hwn

Mae hanner tymor bron yma a hydref eleni bydd llu o hwyl i’r teulu i’w fwynhau ar hyd a lled Sir Fynwy.

O nofio i grefftau, pêl-droed i rywbeth arswydus, bydd rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau yn ystod wythnos hanner tymor yr hydref (30 Hydref – 5 Tachwedd).

Mae MonLife yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau i gadw’ch plant bach yn brysur yn ystod hanner tymor.

Bydd nofio, pêl-droed a bydd Gemau Sir Fynwy yn dychwelyd.

Yn ystod hanner tymor, bydd MonLife yn cynnal sesiynau Chwarae Gweithredol AM DDIM yng nghanolfannau hamdden y Fenni, Cas-gwent, Cil-y-coed a Threfynwy. Mae’r rhaglen ‘Chwarae’ yn 1 awr a 55 munud, lle gellir gadael plant 5-11 oed gyda’n gweithwyr chwarae hynod hyfforddedig a phrofiadol, a dewis o amrywiaeth o weithgareddau i’w chwarae gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd.

Bydd MonLife hefyd yn cynnal sesiynau Aros a Chwarae am ddim yn ystod hanner tymor, lle gall plant a theuluoedd ddewis yn rhydd o lawer o weithgareddau gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd. Nodwch fod angen goruchwyliaeth gan rieni ar gyfer plant dan 11 oed!

Yng Nghastell Cil-y-coed, gall ymwelwyr fwynhau amser hyfryd Calan Gaeaf eleni gyda chyfres o sesiynau un-awr sy’n addas i deuluoedd.

Bydd crefftau a gemau Calan Gaeaf yn y neuadd wledda, ac yna llwybr pwmpen brawychus bwgan brain drwy ein cwrt a’r tyrau.

Mae Hen Orsaf Tyndyrn yn cynnig pethau mwy brawychus, lle gall plant fwynhau llwybr pwmpen arswydus, gwneud mygydau Calan Gaeaf, a gweithgareddau crefft.

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ôl ym mis Hydref eleni, gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig ar gyfer pob oedran mewn amgueddfeydd ar draws ein safleoedd. Mae amgueddfeydd Y Fenni, Cas-gwent a’r Neuadd Sirol hefyd yn dathlu ysbryd y cyfnod gyda digwyddiadau crefft Calan Gaeaf – does dim angen archebu lle. Hefyd, beth am gael hwyl gyda ffrindiau a theulu yn ein prynhawn crefft hanner tymor i blant, dan arweiniad Gwirfoddolwyr creadigol Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife, Dydd Iau 2 Tachwedd 2-4pm, Y Neuadd Ymarfer, Stryd yr Eglwys Isaf, Cas-gwent.

Ymunwch â ni yng nghlybiau ieuenctid Y Parth, Cil-y-coed neu’r Caban, Y Fenni ar gyfer ein Partïon Calan Gaeaf rhwng 4-9pm ddydd Mawrth 31ain Hydref. Mae’r rhain yn sesiynau agored i bobl ifanc fynychu gyda gweithgareddau Calan Gaeaf ar thema 11+ oed

Cymerwch olwg aderyn o’r bodau dynol mewn sioe deuluol newydd sbon gan M6 Theatre yn Theatr y Fwrdeistref yr hanner tymor hwn. Yn llawn dwli, caneuon gwreiddiol a chwarae cysgodion hardd, mae’r sioe hynod gorfforol hon yn defnyddio ychydig iawn o iaith i adrodd stori am gymryd gofal, darganfod beth sy’n bwysig a dysgu sut i hedfan.


Ysbrydoli arweinwyr y dyfodol i ddod yn Llysgenhadon Ifanc mewn cynhadledd flynyddol

Mae plant ysgol Sir Fynwy wedi cael eu hysbrydoli i ddod yn arweinwyr drwy chwaraeon, a hynny ar  i’r Gynhadledd Llysgenhadon Ifanc Efydd ddychwelyd.

Cynhaliwyd y gynhadledd flynyddol yng Nghanolfan Antur Awyr Agored Gilwern ar ddydd Gwener, 20fed  Hydref. Roedd plant ym mlwyddyn 6 yn cynrychioli ysgolion cynradd ar draws Sir Fynwy gyda ffocws y gynhadledd yn canolbwyntio ar iechyd, lles, gweithgaredd corfforol ac arweinyddiaeth.

Drwy gydol y dydd, bu’r Llysgenhadon Ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai – megis mentora eu cyfoedion, siarad cyhoeddus, ac ymgynghoriadau disgyblion – yn ogystal â sesiynau ymarferol a gyflwynwyd gan bartneriaid allanol. Ers 2017, mae mwy na 5,300 o ddisgyblion wedi cymryd rhan yn rhaglen ‘playmaker’ blwyddyn 5, gyda mwy na 350 wedyn yn mynd ymlaen i gynrychioli eu hysgol yn rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd blwyddyn 6. Mae’r rhaglen, sydd wedi’i chydnabod fel arfer gorau, bellach yn cael ei hailadrodd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gan roi llwyfan i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau arwain drwy chwaraeon.

Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd yn ddechrau’r daith i lawer o bobl ifanc gyda phedair academi arweinyddiaeth wedi’u sefydlu ar draws holl ysgolion cyfun Sir Fynwy. Mae’r academïau arweinyddiaeth yn parhau i ymgorffori negeseuon a osodwyd yn y rhaglen ac yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gefnogi gweithgaredd corfforol yn eu hysgol a’u cymuned leol, tra’n ennill profiad gwirfoddoli hanfodol.  Mae llwybr clir wedi’i sefydlu i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a chael cyfleoedd cyflogaeth drwy’r llwybr i gyflogaeth ôl-16.

Yn ogystal â’r llysgenhadon ifanc, roedd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, Meirion Howells, a’r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Angela Sandles, yn bresennol ar y diwrnod hefyd.

Dywedodd y Cyng.  Sandles: “Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd yn arf mor bwysig i hyrwyddo manteision chwaraeon, gweithgaredd corfforol a byw’n iach. Braf oedd gweld cymaint o bobl ifanc brwdfrydig yma yng Ngilwern heddiw. Roeddynt yn mwynhau’r gweithgareddau g ac i’w gweld yn elwa o’r diwrnod. Edrychaf ymlaen at weld sut mae ein Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio’r hyn y maent wedi’i ddysgu heddiw i helpu i ledaenu negeseuon cadarnhaol am les yn ôl yn eu hysgolion.” Am fwy o wybodaeth am raglenni Datblygu Chwaraeon, neu i gysylltu â’r tîm, e-bostiwch  sport@monmouthshire.gov.uk


Prosiect partneriaeth i wella cynaliadwyedd y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus

Image courtesy of Ramblers Cymru

Yn dilyn cais llwyddiannus i Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Fynwy yn lansio’r Prosiect Llwybrau i’r Gymuned.

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd o wneud y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir a bydd yn cyfrannu at dargedau cyfiawnder cymdeithasol, lles a chymunedau cydnerth.

Mae rhan o’r prosiect yn galluogi staff Mynediad Cefn Gwlad MonLife i weithio gyda grwpiau gwirfoddol cymunedol, gan ddarparu deunyddiau, hyfforddiant a gwybodaeth iddynt, wrth wneud gwelliannau i arwyddion a hygyrchedd llwybrau.

I ehangu ar y prosiect hwn, mae Cyngor Sir Fynwy wedi arwyddo Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Cherddwyr Cymru – y cyntaf o’i fath yng Nghymru neu Loegr.

Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i ddefnyddio rhan o Gyllid Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru i weithio gyda thri grŵp gwirfoddol cymunedol arall yn Sir Fynwy. Bydd y cyllid yn cael ei weinyddu gan y Cyngor, gyda Cherddwyr Cymru yn darparu swyddog llawn amser i ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgysylltu i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.

Mae digwyddiad lansio cyhoeddus yn cael ei gynnal rhwng 2pm a 4pm ar ddydd Sadwrn, 28ain Hydref yn Hyb Cymunedol Magwyr a Gwndy. Bydd y digwyddiad hwn yn galluogi trigolion i ddod draw i ddysgu mwy am y prosiect a sut y gallant gymryd rhan.

Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Cherddwyr Cymru i helpu i wella llwybrau lleol a mynediad i fyd natur. Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth newydd gyda’r cerddwyr yn bartneriaeth sylweddol sy’n caniatáu i ni wella hawliau tramwy cyhoeddus yma yn Sir Fynwy. Bydd hyn yn rhoi’r llwybrau gorau i drigolion ac ymwelwyr fynd i gerdded neu heicio, gan gysylltu cymunedau ac economïau lleol.

“Mae ein llwybrau’n byrth sy’n cysylltu ein cymunedau ac yn ein helpu i fynd allan i’r amgylchedd naturiol. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â’r digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio a’r lansiad ar 28ain Hydref.”

Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Cerddwyr Cymru : “Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein gwaith i’n helpu i roi cerdded wrth galon cymunedau a rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd. Os ydych chi’n angerddol am gerdded yn eich cymuned, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.”

Digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio:

Trefynwy: Dydd Mercher, 25ain Hydref, 2pm tan 4pm, yn dechrau ym maes parcio’r Parc Sglefrio, Heol Rockfield, Trefynwy, NP25 5AS

Brynbuga: Dydd Iau, 26ain Hydref, 2pm tan 4pm, gan ddechrau ym maes parcio Gwarchodfa Natur Cefn Ila

Os nad ydych yn gallu mynychu un o’r digwyddiadau ond dal am gymryd rhan neu ddarganfod mwy, cysylltwch â rhys.wynne-jones@ramblers.org.uk

Byddem wrth ein bodd pe gallech ein helpu drwy lenwi’r holiadur ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Sir Fynwy i helpu gyda’n prosiect ‘Llwybrau i Gymunedau’ a lansir yr wythnos yma. CLICIWCH YMA


Gall pawb helpu darlunio dyfodol gweledigaeth y celfyddydau yn Sir Fynwy

Ann Sumner a Beth McIntyre yn cyfarfod ag Emma Bevan-Henderson, Cadeirydd cyfarfod Gŵyl Gelf y Fenni yn Oriel Makers Crafts yn y Fenni

Mae gennym ddiweddariadau cyffrous sy’n gysylltiedig ag ymchwil Prosiect Mapio Celfyddydau Gweledol Sir Fynwy. Trefnwyd y gwaith hwn drwy bartneriaeth Caerdydd Creadigol gyda MonLife fel rhan o brosiect Hybiau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol.

  1. Cyfle Comisiynu

      Mae Caerdydd Creadigol, sydd mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol yn Sir Fynwy, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf, wrthi’n ceisio comisiynu naw artist i gynhyrchu darn o waith ar thema creadigrwydd, cymuned ac arloesedd lleol. Mae’r cyfle hwn yn cael ei ddarparu fel rhan o brosiect Hybiau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol. Nodwch y gall darnau sydd wedi’u comisiynu fod yn amlddisgyblaethol ar draws amrywiaeth o gyfryngau creadigol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: celfyddydau gweledol, cerflunwaith, fideo, geiriau llafar/ysgrifenedig, tecstilau, perfformiad, dawns, gosodiad ac ati.

      Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw neu’n gweithio yn Sir Fynwy, Casnewydd neu Rhondda Cynon Taf.  Mae Caerdydd Creadigol yn gobeithio comisiynu tri artist o Sir Fynwy gyda hyd at £1000 ar gael i bob artist.  Y dyddiad cau yw’r 31ain Ionawr 2024 a gellir dod o hyd i’r wybodaeth ar wefan Caerdydd Creadigol: sef https://creativecardiff.org.uk/creative-cardiff-artist-commission

  • FREE Creative Cuppas, a letyir gan The Borough Theatre yn y Fenni ac a ddarperir gan Caerdydd Creadigol

       Dydd Iau 25ain Ionawr am 10.00am

       Gwneud mannau gwaith yn hygyrch i bobl greadigol niwrowahanol gyda’r cynhyrchydd, Tom Bevan. Mae Tom yn gynhyrchydd theatr a digwyddiadau byw llawrydd o Gaerdydd.  Mae ganddo Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Dyslecsia ac mae eisiau creu gofodau lle gall pobl greadigol niwrowahanol ddod at ei gilydd ac adeiladu undod, cefnogaeth a chydweithio. Ers mis Hydref 2023, mae wedi bod yn cynnal man agored er mwyn i bobl greadigol, cynhyrchwyr ac artistiaid niwrowahanol sy’n gweithio yn y sector diwylliannol yn Ne Cymru ddod at ei gilydd i weithio a chysylltu.

      Creative Cuppa: Ionawr (Sir Fynwy) | Caerdydd Creadigol

       Dydd Iau 22ain Chwefror 2024 am 10.00am

       Creu cynnwys digidol gydag Amy Pay, newyddiadurwr, ysgrifennwr copi ac ymgynghorydd creadigol hynod brofiadol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Gyda chefndir amrywiol ym maes cyfryngau print, darlledu a newyddiaduraeth ddigidol, mae’n defnyddio’i sgiliau i helpu pobl i gyfleu eu straeon trwy eiriau, strategaeth a syniadau creadigol. Mae hi wedi gweithio gyda chleientiaid bach a mawr, gan gynnwys Lonely Planet, Croeso Cymru, The Telegraph, yr Evening Standard a The Guardian, gydag arbenigeddau gan gynnwys teithio yn y DU, busnesau bach, coffi arbenigol a diwydiannau creadigol. Gweler y ddolen isod i ddarllen mwy o fanylion ac archebu eich lle:

https://creativecardiff.org.uk/creative-cuppa-february-monmouthshire

       Dydd Iau 21ain Mawrth 2024 am 10.00am

       Adeiladu Hyder wrth weithio yn y diwydiannau creadigol; cyflwyniad gan Richard Holman. Dechreuodd ei yrfa gyda’r BBC cyn mynd ymlaen i sefydlu un o asiantaethau hysbysebu a dylunio bwtîc uchaf ei barch y DU.  Heddiw mae’n gweithio fel awdur, siaradwr a hyfforddwr. Mae’n credu bod angen creadigrwydd ac arloesedd ar y byd nawr yn fwy nag erioed, a dyna pam ei fod wrth ei fodd yn gweithio gydag unigolion a thimau i fagu eu hyder a gwneud syniadau gwell a dewrach.  Gweler y ddolen isod am y digwyddiad hwn ac i archebu eich lle:

https://creativecardiff.org.uk/cy/paned-i-ysbrydoli-mawrth-sir-fynwy

I gael y newyddion diweddaraf a diweddariadau ar ddigwyddiadau neu ar sut i gyfrannu at y prosiect hwn, ewch i: https://www.monlife.co.uk/heritage/

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “This is such an exciting time for arts in Monmouthshire, I look forward to hearing everyone’s creative ideas and input. It will be great to see the development of a clear vision and collective goal for the future. I can’t wait to learn and see the opportunities that will come from this project and the success it will bring in developing a creative economy in Monmouthshire.”

Am y tîm: Mae Beth McIntyre, sy’n hanu o Drefynwy ac Ann Sumner wedi cydweithio ers blynyddoedd lawer, ar ôl cyfarfod am y tro cyntaf fel cydweithwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae Ann yn gyn Bennaeth Celfyddyd Gain ac roedd Beth yn Uwch Guradur (Celfyddyd Gain – Printiau a Darluniau) yn yr amgueddfa. Gyda’i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ymchwilio a chwmpasu prosiectau, arwain ymgynghoriadau, trefnu digwyddiadau rhwydweithio a gweithio gydag artistiaid.


B4245 cynllun teithio llesol Rhosied i Gwndy – Cwestiynau Cyffredin

Nod cynllun teithio llesol Rhosied i Gwndy y B4245 yw gwella teithiau rhwng Rhosied a Gwndy. Archwiliwyd sawl llwybr ac, er y gellir datblygu llwybrau ychwanegol yn y dyfodol, aseswyd prif lwybr arfaethedig, sy’n cynnwys llwybr teithio llesol defnydd a rennir ger ochr ddeheuol y B4245, i ddarparu’r llwybr teithio llesol byrraf, mwyaf uniongyrchol rhwng Rhosied a Gwndy. Paratowyd dyluniadau manwl o’r opsiwn a ffefrir hwn ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’r blwch coch ar y ddelwedd hon yn dangos yr adran o’r B4245 rhwng Rhosied a Gwndy sy’n destun y cynllun hwn

Disgrifiad o’r cynllun

Nid oes gan y B4245 presennol rhwng Gwndy a Rhosied ddarpariaeth palmant. Mae astudiaethau blaenorol ar hyd y llwybr hwn wedi tynnu sylw at yr angen am ddarpariaeth ddiogel i gerddwyr a beiciau, i gysylltu â gorsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren ac ar draws ardal Glannau Hafren. 

Mae Rhosied a Gwndy ychydig dros filltir ar wahân, pellter y gellid ei wneud gan ddefnyddio sgwter symudedd mewn hanner awr neu feicio mewn llai na deng munud. Bydd llwybr teithio llesol ar hyd y rhan hon o’r B4245 yn caniatáu i drigolion y ddau bentref elwa o’r cyfleusterau a’r cyfleoedd a gynigir gan eu pentrefi cyfagos, heb fod angen mynediad at gar.

Canlyniadau’r ymgynghori

Archwiliodd 219 o bobl y cynigion, ac ymateb i’n hymgynghoriad, naill ai yn y digwyddiad wyneb yn wyneb ar Hydref 4ydd 2023 neu ar-lein. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Rhosied a Chyngor Tref Magwyr sylwadau ar wahân.

B4245 llwybr teithio llesol Rhosied-Gwndy (Cam 1)

Roedd 96% o’r bobl yr ymgynghorwyd â nhw yn ‘gefnogol iawn’ neu’n ‘eithaf cefnogol’ o’r llwybr teithio llesol arfaethedig Rhosied i Gwndy, sydd fel y disgwyl o ystyried nad oes cyswllt uniongyrchol a hygyrch ar gyfer teithio llesol ar hyn o bryd. Mae llawer o bobl eisiau cael yr opsiwn o deithio llesol ar frys ac yn canfod nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn ddigonol. Dywedodd y mwyafrif helaeth y byddai’r gwelliannau arfaethedig yn dylanwadu ar eu dewis moddol ar gyfer teithiau lleol.

Canolbwyntiodd sylwadau ar y potensial i’r llwybr teithio llesol arfaethedig fod yn opsiwn diogel, hygyrch, ymarferol, cynaliadwy, iach a fforddiadwy.  Mae’n cael ei weld fel cyswllt ‘i bawb’ mawr ei angen rhwng cymunedau.  Roedd pryder gan rai am agosrwydd y llwybr i’r B4245, y potensial am wrthdaro rhwng defnyddwyr llwybrau, effaith y llwybr ar fioamrywiaeth leol a’r posibilrwydd o dagfeydd traffig neu golli lled y ffordd.  Byddwn yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn trwy ddylunio, defnyddio arfer gorau a dadansoddi effaith y lleoliad lleol.  Gweler yr adran Cwestiynau Cyffredin isod am fwy o fanylion.

Mae’r llwybr hwn yn cael ei ystyried yn gam wrth gysylltu Magwyr a Gwndy â Chyffordd Twnnel Hafren, Cil-y-coed ac ymhellach i ffwrdd. Dywedodd sylw nodweddiadol:  ‘Mae hwn yn gynllun a fydd o fudd i drigolion ac ymwelwyr yr ardaloedd cysylltiedig, ac yn hyrwyddo dulliau teithio mwy ecogyfeillgar, e.e. wedi’i gyfuno o gerdded/beicio a hyfforddi yn lle gyrru.’

Heol yr Orsaf (Cam 2)

Mae dros hanner y bobl yr ymgynghorwyd â nhw yn teithio ar hyd Heol yr Orsaf i gyrraedd trafnidiaeth gyhoeddus (gorsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren) ac mae’r mwyafrif yn aml yn defnyddio’r llwybr ar gyfer teithiau pwrpasol. Dywedodd y rhan fwyaf y byddai palmentydd ehangach a gwelliannau cyffredinol i’r seilwaith teithio llesol yn eu hannog i gerdded a/neu feicio ar hyd Heol yr Orsaf, lle ar hyn o bryd roedd mwy na thri chwarter y bobl a ymgynghorwyd yn bennaf yn gyrru ar ei hyd.

Llwybr Teithio Llesol arfaethedig Rhosied i Gil-y-coed (Cam 3)

Dywedodd 92% o’r ymatebwyr ‘Byddaf’ i’r cwestiwn ‘A fyddech yn cefnogi Cam 3 adran llwybrau Teithio Llesol Rhosied i Gil-y-coed?’

Beth yw teithio llesol?  

Mae Teithio Llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, olwyna neu feicio i gyrchfan (a elwir hefyd yn “deithiau pwrpasol”). Nid yw’n cynnwys cerdded a beicio a wneir ar gyfer hamdden yn unig, er y gallai wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol trwy helpu i gysylltu rhwydweithiau.  Gellir defnyddio teithio llesol i gyrraedd yr ysgol, gwaith, gwasanaethau a siopau, neu fel un o sawl dull ar daith hirach – er enghraifft, cerdded i’r orsaf i ddal bws neu drên.  Mae strategaeth teithio llesol Cyngor Sir Fynwy yn canolbwyntio ar deithiau o dair milltir neu lai, sy’n golygu gwella seilwaith cerdded a beicio o fewn cymunedau a rhwng pentrefi agos fel Rhosied a Gwndy, i wneud teithio llesol y dewis naturiol cyntaf ar gyfer teithiau lleol.

Pam canolbwyntio ar y B4245 rhwng Rhosied a Gwndy?

Amlygwyd yr angen am welliannau yn y rhan hon o Sir Fynwy yn ystod cyflwyniad Map Rhwydwaith Integredig Cyngor Sir Fynwy i Lywodraeth Cymru yn 2018.  Yr opsiynau presennol ar gyfer teithio llesol rhwng Rhosied a Gwndy (tua 1,700 a 4,000 o drigolion, yn y drefn honno) yn gyfyngedig ac yn anhygyrch i ddefnyddwyr amrywiol, oherwydd cyflymder traffig uchel a chyfaint y traffig, a diffyg llwybrau dirwystr a diogel. 

Mae sawl opsiwn ar gyfer cyswllt teithio llesol rhwng Rhosied a Gwndy wedi cael eu harchwilio ac aseswyd prif lwybr arfaethedig sy’n cynnwys llwybr teithio llesol defnydd a rennir ger ochr ddeheuol y B4245 fel yr un a fydd yn darparu’r opsiwn byrraf, mwyaf uniongyrchol.

Mae’r llwybr arfaethedig rhwng Rhosied a Gwndy yn gyswllt pwysig yn y rhwydwaith cerdded a beicio ehangach. Bydd llwybr teithio llesol byr ac uniongyrchol yn agor mynediad iachus, fforddiadwy a chynaliadwy i wasanaethau, ysgolion a chyfleoedd gwaith yn y ddau bentref, yn ogystal â chysylltu pobl leol ac ymwelwyr â’r llwybrau troed a beiciau presennol yn ardal Glannau Hafren, gwasanaethau bysiau ar hyd y B4245 a gwasanaethau rheilffordd i ymhellach i ffwrdd.  

Mae lefelau teithio llesol yn is yn Rhosied a Gwndy o gymharu â Sir Fynwy gyfan. Ar yr un pryd, mae cyfran y preswylwyr yn yr ardal leol sy’n gyrru car neu fan yn uwch na Sir Fynwy gyfan (Cyfrifiad 2021).  Roedd Cyfrifiad 2021 hefyd yn nodi bod gan Fagwyr a Rhosied gyfran uchel (63.7%) o breswylwyr oedran gweithio sy’n debygol o deithio’n rheolaidd i gymudo ac felly’n elwa’n uniongyrchol o well mynediad i Orsaf Reilffordd Cil-y-coed a Chyffordd Twnnel Hafren.

Y Cynigion  

Daeth astudiaeth o opsiynau posibl ar gyfer gwelliannau teithio llesol yn yr ardal i’r casgliad mai llwybr defnydd wedi’i rannu, tri metr o led i ochr ddeheuol y B4245 rhwng Rhosied a Gwndy yw’r opsiwn a ffefrir. Fel arfer, caiff prosiectau fel yr un hwn eu datblygu dros sawl blwyddyn o’r cysyniad hyd at ddyluniad manwl, gan ddilyn Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru neu WelTAG (gweler isod).  Mae prosiectau wedyn yn ddibynnol ar gymeradwyo cyllid gan gyrff fel Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu.  Ar hyn o bryd rydym ar gam dylunio manwl y broses (WelTAG Cam 3). 

Gan mai’r llwybr a ffefrir yw ar gyfer teithio llesol, mae’r broses wedi’i seilio ar Ganllawiau Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer archwilio cerdded a beicio yn ogystal â’r safonau y dylai llwybrau teithio llesol gadw atynt.  

Hidlo’r Opsiynau 

Ar ddechrau’r prosiect hwn ac yn unol â phroses Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, datblygodd tîm y prosiect restr eang o atebion posibl, digon i allu penderfynu a oes unrhyw opsiynau cynllun sy’n werth eu dilyn a dewis rhestr fer o opsiynau i’w hystyried yn fanylach.  Cafodd opsiynau eu rhoi ar y rhestr fer yn seiliedig ar:  

  • eu gallu i atal, neu ddatrys y broblem nawr ac yn y dyfodol;  
  • eu gallu i gyflawni’r amcanion a bennwyd a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru;  
  • eu heffeithiau tymor byr a thymor hwy i sicrhau manteision lluosog ar draws pedair agwedd llesiant a gwneud y mwyaf o’r cyfraniad i’r saith nod llesiant;  
  • eu cyflawniad;  
  • eu cadernid i ansicrwydd a’u potensial i sbarduno newid hirhoedlog. 

Y Broses WelTAG 

Bydd y cynllun arfaethedig yn ceisio cymeradwyaeth a chyllid gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac felly mae wedi cael ei ddatblygu yn unol â Chanllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).  Mae’r broses WelTAG yn cwmpasu cylch bywyd cyflawn ymyrraeth arfaethedig yn y system drafnidiaeth o asesu’r broblem, ystyried datrysiadau posibl a dylunio cynlluniau, hyd at weithredu a gwerthuso prosiectau. 

Mae astudiaethau WelTAG yn rhan hanfodol o brosiectau trafnidiaeth mawr yng Nghymru i helpu i benderfynu pa rai yw’r atebion mwyaf priodol i’w datblygu, ac yn bwysig o ran cefnogi ceisiadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer ariannu grantiau i gwblhau’r gwaith.  Mae WelTAG yn cynnwys cyfres o gamau cynllunio prosiect sy’n dilyn bywyd prosiect, rhaglen neu bolisi o syniadau cynnar hyd at ar ôl iddo gael ei gwblhau.  Mae pum cam WelTAG:  Cwblhawyd camau 1 a 2 y prosiect ym mis Awst 2022, ac rydym ar hyn o bryd yng Nghyfnod 3 WelTAG.

Cyfnodau’r dyfodol  

Bydd llwybr Rhosied i Gwndy (cam 1, a ddangosir isod fel llinell werdd) yn ategu gwelliannau teithio llesol arfaethedig ardal Glannau Hafren eraill y mae Cyngor Sir Fynwy yn ymchwilio iddynt ar hyn o bryd fel camau 2 a 3 y prosiect hwn (a ddangosir fel y llinell goch a’r llinell las, yn y drefn honno). Bydd Cam 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu gwelliannau teithio llesol ar hyd Ffordd yr Orsaf yn Rhosied i annog teithiau cerdded a beicio i orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren. Bydd Cam 3 yn bwrw ymlaen â’r cynigion i barhau â’r llwybr hwn o’r orsaf drenau sy’n teithio tua’r dwyrain, i Gil-y-coed, gyda’r potensial i gysylltu â llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (RhBC) 4 ar Heol yr Orsaf yng Nghil-y-coed.

Cwestiynau Cyffredin 

Pryd fydd y llwybr yn cael ei adeiladu?  

Bydd cwblhau Cam 3 WelTAG yn llwyddiannus, a fydd yn darparu achos busnes llawn gan gynnwys dyluniadau manwl a gwybodaeth gyflenwi, yn ein galluogi i wneud cais am gyllid i symud i WelTAG Cam 4 (y cyfnod adeiladu). Gallai Cyngor Sir Fynwy ofyn am gyllid i ddatblygu’r cynllun hwn mor gynnar â’r flwyddyn ariannol nesaf (2024/2025), yn dibynnu ar gynnydd y dyluniadau a sicrhau caniatâd.  

Sut fydd y cynllun yn cael ei ariannu?  

Bydd y llwybr yn cael ei ariannu drwy grantiau Llywodraeth Cymru gyda’r nod o wella dulliau trafnidiaeth gynaliadwy.  

Pam mae’r llwybr ar ochr ogleddol y ffordd?  

Mae aneddiadau Gwndy a Rhosied ill dau ar ochr ddeheuol y B4245 yn bennaf, bydd yr aliniad hwn o’r llwybr yn lleihau nifer y croesfannau ffyrdd sydd eu hangen, gan wella cydlyniad y llwybr. Yn ogystal, mae llwybr teithio llesol yn cael ei letya’n well ar ochr ddeheuol tanffordd yr M4 oherwydd y bwlch gwartheg ar ochr ogleddol y ffordd.

Pam mae’r llwybr wrth ymyl y ffordd?  

Ystyriwyd aliniadau llwybrau amgen yn yr astudiaethau dros dro ar gyfer y llwybr, gostyngwyd y rhain oherwydd naill ai barn y cyhoedd neu ddichonoldeb technegol.  Gwelwyd bod y llwybr ar hyd y ffordd yn gadarnhaol ar gyfer diogelwch personol oherwydd diogelwch gweladwy eraill sy’n mynd heibio.

Mae’r B4245 yn ffordd brysur, a bydd byffer yn cael ei ddarparu lle bo modd rhwng y llwybr defnydd a rennir hwn a’r ffordd gerbydau. Mae hyn yn dilyn yr egwyddorion dylunio a nodir yn y Canllaw Dylunio Teithio Llesol: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-12/canllawiau-ddeddf-teithio-llesol.pdf  

Pam na all beicwyr ddefnyddio’r ffordd neu’r llwybr RhBC?

Nod y cynllun hwn yw ei gwneud yn bosibl i ystod ehangach o bobl gyrraedd cyrchfannau lleol yn gyfforddus ac yn ddiogel gan ddefnyddio teithio llesol.  Er bod beicio (yn hytrach na cherdded) yn ffurfio canran uwch o deithio llesol o amgylch Rhosied a Gwndy, mae lefelau teithio llesol cyffredinol yn isel yn yr ardal.

Mae’r adran Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (RhBC4) sy’n ymuno Gwndy a Rhosied yn llwybr anuniongyrchol sydd heb ei oleuo a’i selio i raddau helaeth, gan ei gwneud naill ai’n anymarferol neu’n anaddas i amrywiaeth o bobl ddefnyddio teithio llesol rhwng Rhosied a Gwndy.

Byddai arwyneb sengl eang y llwybr teithio llesol a rennir arfaethedig, ochr yn ochr â’r B4245, yn darparu ar gyfer ystod ehangach o ddulliau teithio llesol. Mae’r llwybr wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan gerddwyr a phobl sy’n defnyddio cadair olwyn a sgwteri symudedd, yn ogystal â’r rhai ar feiciau a beiciau mwy/addasol. Er bod rhai pobl yn beicio ar y rhan hon o’r B4245 ar hyn o bryd, mae cyflymder a chyfaint y traffig – yn ogystal â phresenoldeb cerbydau nwyddau trwm – yn ei gwneud yn annhebygol y bydd y rhan fwyaf o bobl yn dewis defnyddio’r llwybr byr, uniongyrchol hwn trwy deithio llesol oni ddarperir llwybr sydd wedi gwahanu.

Beth yw ‘llwybr teithio llesol cyd-ddefnyddio’?

Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr i’w ddefnyddio gan unrhyw ddull o deithio llesol, boed yn cerdded, olwynion neu feicio, heb unrhyw nodweddion neu farciau gwahanu corfforol. Ni chaniateir ceir a beiciau modur ar lwybr cyd-ddefnyddio.  Mae’r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig wedi’i ddylunio fel tri metr o led, ac eithrio rhan trosbont yr M4, lle gallai fod angen ei gulhau ychydig. Bydd y llwybr yn cael ei oleuo a’i wahanu oddi wrth draffig y ffordd.

Argymhellir llwybrau cyd-ddefnyddio yng nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol ar gyfer ffyrdd rhyngdrefol fel y B4245 rhwng Rhosied a Gwndy, lle nad yw nifer y defnyddwyr o wahanol ddulliau yn debygol o gyrraedd lefel lle byddai darpariaeth ar wahân – a’r effaith dilynol ar yr amgylchedd, tir, deunyddiau a’r gost – yn gallu cael eu cyfiawnhau. Mae llwybrau ag arwyneb sengl eang yn gallu darparu ar gyfer beiciau mwy o faint, fel y rhai a ddefnyddir gan bobl anabl, a phobl mewn cadeiriau olwyn. Mae llwybrau cyd-ddefnyddio yn caniatáu ar gyfer defnydd hyblyg yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd – er enghraifft, efallai mai beicwyr yw’r grŵp mwyaf yn ystod yr oriau brig yn ystod yr wythnos, a cherddwyr a’r rhai sy’n defnyddio sgwteri symudedd yw’r grŵp mwyaf yn ystod y dydd ac ar y penwythnos.

Mae llwybrau cyd-ddefnyddio wedi’u cynllunio i ddarparu digon o le fel y gall beicwyr goddiweddyd grwpiau o gerddwyr a beicwyr arafach, yn unol â chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol.  Mae defnydd anghyfreithlon o lwybrau teithio llesol gan bobl ar feiciau modur ac e-sgwteri yn fater i’r heddlu a dylid ei riportio’n briodol drwy ffonio 111.

Sut mae hyn yn effeithio ar gynlluniau ar gyfer Gorsaf Gerdded Magwyr a Gwndy?

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi cynlluniau ar gyfer Gorsaf Gerdded Magwyr a Gwndy gan y bydd yn annog ac yn cefnogi teithio llesol, yn helpu’r modd i newid o’r ffordd i’r rheilffordd ac yn arwain at ostyngiad mewn allyriadau carbon a llygredd aer yn yr ardal. Mae’r cyfamser ychwanegu llwybr teithio llesol rhwng Gwndy a Rhosied yn ategu cynlluniau ar gyfer gorsaf gerdded, gan gynnig yr opsiwn o deithiau di-gar a gwreiddio’r dewis o deithio llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy yn arferion teithio pobl leol.

A oes digon o le, a fydd gwyrddni’n cael ei symud ac a fydd y ffordd yn cael ei chulhau?

Bydd y llwybr teithio llesol arfaethedig yn gofyn am ailgynllunio rhannau o’r ffordd a’r ymyl, a chaffael darnau o dir oddi wrth dirfeddianwyr preifat. Mae lled bresennol y ffordd yn amrywio ar hyd y rhan hon, bydd y cynllun yn gwneud y ffordd yn lled gyson o chwe metr a hanner, sef isafswm lled bresennol y ffordd. 

Bydd tîm tir Cyngor Sir Fynwy yn ymgysylltu â’r tirfeddianwyr, os bydd cymeradwyaeth ar gyfer y cynllun yn caniatáu cynnydd i’r cam hwn. Mae’r tîm ecoleg eisoes wedi cysylltu â’r tirfeddianwyr perthnasol a oedd angen caniatâd i fynd i mewn i dir preifat i gynnal arolygon ecoleg i baratoi ar gyfer y cynllun hwn. 

Lle bo angen, bydd ymylon, gwrychoedd a ffiniau caeau yn cael eu hailgynllunio, ynghyd â mynedfeydd a waliau caeau.  Mae’r ailgynllunio’n cynnwys trawsleoli neu blannu amnewid gwrychoedd a choed.  Mae sicrhau bod y cynllun yn dod â budd net i fioamrywiaeth yn sylfaenol i Gyngor Sir Fynwy ac yn ofyniad am gyllid Llywodraeth Cymru o’r cynllun.   Bydd y cynllun yn cael ei asesu’n briodol ar gyfer cyfyngiadau ecolegol a chyfleoedd fel rhan o’r prosiect teithio llesol.  Bydd tîm Seilwaith Gwyrdd Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda thîm y prosiect i sicrhau bod yr effeithiau’n cael eu lleihau, a bod cyfleoedd yn cael eu gwneud i’r eithaf i gyfrannu tuag at adfer natur.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gysylltu â thîm y prosiect, e-bostiwch ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk  

Dolenni Defnyddiol

Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru drafft newydd (heb eu mabwysiadu eto)

https://www.llyw.cymru/arweiniad-ar-arfarnu-trafnidiaeth-cymru-weltag-2022

Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2017

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2017-12/arweiniad-ar-arfarnu-trafnidiaeth-cymru_3.pdf

Canllaw Dylunio Teithio Llesol

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-12/canllawiau-ddeddf-teithio-llesol.pdf

Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-03/llwybr-newydd-strategaeth-drafnidiaeth-cymru-2021-symudedd-strategaeth-lawn.pdf

Cynllun Cymuned a Chorfforaethol Sir Fynwy

https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2023/07/MMCCommCorpPlan_FINAL_CY.pdf


Elwa’n fwy o’ch taith pan fyddwch yn dewis teithio llesol yn Sir Fynwy

Mae Cyngor Sir Fynwy yn dathlu 10 mlynedd ers lansio’r Ddeddf Teithio Llesol yng Nghymru. 

Er bod y cysyniad o deithio llesol wedi bodoli ers tro, nid yw pawb yn gyfarwydd â’r term. Mae teithio llesol yn disgrifio gwneud teithiau hanfodol, fel teithio i’r gwaith, ar daith ysgol, i apwyntiadau, a hynny ar droed neu ddulliau teithio eraill sydd yn defnyddio olwynion. Gall yr elfen o olwynion gynnwys beiciau (trydan neu bŵer pedal yn unig), sgwteri, cadeiriau olwyn, beiciau wedi’u haddasu neu sgwteri symudedd.

Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Hoffwn ddiolch i holl breswylwyr Sir Fynwy sydd yn teithio’n llesol, trwy gerdded neu’n defnyddio dulliau teithio ag olwynion ar gyfer teithiau hanfodol megis cymudo i’r gwaith. Gall pobl o bob oed a gallu deithio ag olwynion neu gerdded, ac mae pob taith y gallwn ei gwneud heb y car yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Rydym wedi ein bendithio yma yn Sir Fynwy gyda chefn gwlad hardd tafliad carreg o’n trefi a phentrefi, ac felly mae dewis teithio llesol â’r fantais ychwanegol o allu cysylltu’n wirioneddol â natur a gweld pethau nad ydych chi’n cael y cyfle iddynt wrth yrru. Dysgwch fwy am deithio llesol yn Sir Fynwy drwy ymweld â gwefan BywydMynwy (MonLife) a darganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal.”

Er mwyn dysgu mwy am brosiectau teithio llesol ewch i https://www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel/  a chliciwch ar un o’r trefi a restrir. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu ar draws y sir, ac felly nawr yw’r amser i groesawu teithio llesol ac elwa’n fwy o’ch taith.


Gwaith yn dechrau ar bont Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni

artist's impression of the new Active Travel bridge linking Abergavenny and Llanfoist
Argraff arlunydd o bont Teithio Lesol newydd bydd yn cysylltu ‘R Fenni a Llan-ffwyst

Fel rhan o gyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd yn 2023/24, bydd cam 1 o’r gwaith o adeiladu pont Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni yn dechrau ar ddydd Llun 18 Medi, 2023.

Mae’r gwaith yn cynnwys cloddiau ar gyfer y ramp deheuol yn unig i ddechrau, ar ochr Llan-ffwyst i’r Afon Wysg a bydd yn cymryd tua phedair wythnos i’w gwblhau. Bydd y gwaith sefydlu hwn yn cael ei wneud gan dîm gweithrediadau Cyngor Sir Fynwy. Bydd mynediad i’r banc yn cael ei ganiatáu.

Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei ohirio dros y gaeaf, ac ar ôl hynny bydd yr elfennau sy’n weddill o’r ramp yma, y ramp ar yr ochr ogleddol a phrif strwythur y bont, yn cael eu hadeiladu’r flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd, y bwriad yw cwblhau’r gwaith erbyn Rhagfyr 2024.

Nid yw’r gwaith hwn yn cynnwys unrhyw lwybrau o fewn Dolydd y Castell eleni. Bydd y cais cynllunio ar gyfer llwybrau Dolydd y Castell yn cael ei ystyried yng nghyfarfod cynllunio mis Hydref yng Nghyngor Sir Fynwy.

Am fwy o wybodaeth am gynllun Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni, ewch i: www.monlife.co.uk/cy/cwestiynau-cyffredin-dolydd-y-castell/