Paentiad pwysig Turner o Gastell Cas-gwent yn dod gartref - Monlife

Paentiad pwysig Turner o Gastell Cas-gwent yn dod gartref

Diolch i gyllid a sicrhawyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu  V&A  a chymorth y Loteri Genedlaethol, Becwedd Beecroft y Gymdeithas Amgueddfeydd, Ymddiriedolaeth Dyffryn Wysg a chronfa pryniant amgueddfeydd MonLife, bydd ‘trysor lleol’ – paentiad gan JMW Turner yn dod gartref i Gas-gwent yn fuan. Mae dyfrlliw Turner o Gastell Cas-gwent yn un o ddim ond dau o weithiau gan yr artist y gwyddys eu bod yn dangos yr olygfa eiconig o’r castell ger Afon Gwy.

 

Mae Treftadaeth MonLife wedi sicrhau’r tirlun hardd a gaiff ei arddangos yn yr haf yn amgueddfa Cas-gwent a gobeithir y bydd cynifer o bobl leol ag sydd modd yn ymweld i edrych ar y paentiad a chael eu hysbrydoli ganddo.

 

Caiff Joseph Mallord William Turner (1775-1851) ei gydnabod fel efallai yr artist ‘Rhamantus’ Prydeinig gorau a chyfeirir ato yn aml fel “paentiwr goleuni” oherwydd ei allu i gyfleu tirluniau a morluniau egnïol ar bapur a chanfas.

 

Dim ond 19 oed oedd Turner pan baentiodd y dyfrlliw o Gastell Cas-gwent yn 1794 a chredir iddo gael ei greu fel canlyniad i daith gyntaf yr artist o Dde Cymru. Unwaith y caiff ei arddangos yn Amgueddfa Cas-gwent, bydd y paentiad yn helpu i gyfleu stori Sir Fynwy y 18fed ganrif a hefyd gariad Turner at y sir.

 

Dywedodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol a Gweithredol: “Mae’n newyddion gwych y bydd y paentiad yn dychwelyd i Gas-gwent lle gwnaeth Turner ei baentio yn 19 oed. Daw yn em yng nghasgliad paentiadau a darluniau Sir Fynwy a ysbrydolwyd gan Ddyffryn Gwy. Gobeithiaf y bydd artistiaid ifanc heddiw yn ei weld ac yn cael eu hysbrydoli. Roeddem wedi credu y byddai prynu gwaith celf pwysig fel hyn allan o’n cyrraedd, nes i gyllidwyr hael gamu mewn i arbed y paentiad ar gyfer y genedl a Sir Fynwy.”

 

Caiff paentiad Turner ei arddangos yng Nghas-gwent yn yr haf, yn y cyfamser i ganfod mwy am amgueddfeydd Sir Fynwy a’u harddangosiadau cyfredol ewch i  https://www.monlife.co.uk/heritage/

 

This post is also available in: English