Torri a Chasglu
Agwedd bwysicaf rheoli glaswelltir ar gyfer rheoli glaswelltir ar gyfer bioamrywiaeth yw torri a symud y tyfiant – a elwir hefyd yn torri a chasglu. Gwneir hyn ar ôl i’r blodau gwyllt flodeuo a gosod hadau.
Mae torri blynyddol yn atal gweiriau cryf rhag mygu’r blodau gwyllt mwy bregus ac yn gadael i olau gyrraedd y planhigion a fydd yn egino yng ngwanwyn blwyddyn nesaf.
Mae cymryd y toriadau i ffwrdd yn eu hatal rhag pydru ac ychwanegu maethion yn ôl i’r pridd. Mae pridd sy’n gyfoethog mewn maethion yn sicrhau amrywiaeth isel gan fod y glaswellt a’r blodau cryfaf yn tyfu’n fwy na’r holl rai eraill ac yn eu cau allan. Mae gan y glaswelltiroedd mwyaf bioamrywiol lefelau maeth isel, lle gall rhywogaethau bregus ffynnu.
Treialu Torri a Chasglu
Cynhaliodd Asiantaeth Ynni Hafren Gwy a’r PGGG Treialon Torri a Chasglu i archwilio ffyrdd effeithlon o ddefnyddio toriadau glaswellt o dechnegau rheoli glaswelltir Natur Wyllt ac asesu’r potensial ar gyfer rheoli carbon niwtral.
Ar hyn o bryd mae toriadau gwair yn cael eu compostio yn bennaf ond mae potensial i’w defnyddio mewn prosesau i wneud mwy o ddefnydd o’r toriadau. Fodd bynnag, bu pryderon o ran halogiad, cost, amser, a defnydd ynni wrth wneud hyn ar raddfa fawr.
Roedd y treial yn ystyried yr achos economaidd, hinsawdd ac ymarferol dros ddefnyddio toriadau glaswellt fel porthiant carbon niwtral mewn treulio anerobig a chynhyrchu bio-olosg trwy byrolysis. Mae treulio anerobig yn defnyddio’r toriadau i greu bio-nwy ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd, yn yr un modd ag y defnyddir ein gwastraff bwyd. Mae bio-olosg yn fath o siarcol a grëwyd trwy byrolysis, cynnyrch hynod ddefnyddiol y gellir ei ddefnyddio i wella ansawdd pridd a dal carbon am gannoedd o flynyddoedd. Ar gyfer pob tunnell o fio-olosg sy’n cael ei gynhyrchu a’i ddal, caiff tua 2 dunnell fetrig o CO2e ei dynnu o’r atmosffer.
Yn ein treial, dewiswyd samplau glaswellt o 15 lleoliad o wahanol fathau o laswelltir a reolir gan bartneriaid Grid Gwyrdd Gwent i’w hastudio. Profodd y ddau ddull yn ymarferol, gyda chynhyrchu Bio-olosg yn cynnig datrysiad dal carbon a all wella ansawdd pridd neu gael ei ddefnyddio mewn diwydiant. Ni chanfu’r treial unrhyw halogion sylweddol yn y samplau glaswellt, gan eu gwneud yn addas ar gyfer y prosesau hyn. Gallai dull hybrid wneud y gorau o effeithlonrwydd, gan gynhyrchu 1000 tunnell o fio-olosg bob blwyddyn, gan dynnu 2000 tunnell o CO2e o’r atmosffer, a symud ymlaen tuag at system rheoli glaswelltir gwbl garbon-niwtral.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: Adroddiad Torri a Chasglu Grid Gwyrdd Gwent
This post is also available in: English