Arolwg Cyhoeddus Natur Wyllt
Gadewch i ni wybod beth yw eich barn!
Efallai y byddwch wedi sylwi ar newid yn y ffordd mae’ch awdurdod lleol yn rheoli glaswelltir yn eich cymuned. Caiff mannau gwyrdd eu rheoli yn null ‘Natur Wyllt‘, gan adael i laswelltir mewn parciau ac ar ochrau ffyrdd dyfu yn y gwanwyn a’r haf i greu dolydd.
Casglodd prosiect Natur Wyllt eich barn drwy gydol 2022 a chafodd 1600 o ymatebion ar draws y 5 sir yng Ngwent.
- Hoffai 81% o’r bobl a atebodd yr arolwg weld mwy o feysydd yn cael eu rheoli a’u gwella ar gyfer byd natur
- Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno’n gryf fod systemau torri gwair newydd Natur Wyllt yn cael effaith gadarnhaol ar fywyd gwyllt a’u lles eu hunain.
Hoffem gadw’r sgwrs i fynd ac rydym wedi ail-lansio’r arolwg ar gyfer eleni i barhau i gasglu adborth gan gymunedau lleol a pharhau i adolygu rheoli glaswelltir ledled y rhanbarth.
Cwblhewch yr Arolwg yma
Credwn fod Natur Wyllt yn gyfraniad allweddol y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, gwerthfawrogwn y bydd angen i ni mewn rhai ardaloedd i adolygu rheolaeth i sicrhau fod ein mannau gwyrdd yn gweithio drosoch chi a dros natur.
Cawsom ein calonogi’n fawr gan gefnogaeth y cyhoedd i’r newidiadau a wnaethom i’n systemau torri gwair mewn blynyddoedd blaenorol.
Rydym eisiau sicrhau ein bod yn canfod y cydbwysedd cywir rhwng natur a hamdden drwy glywed eich adborth ar sut y credwch fod y newidiadau yn mynd yn eu blaen yn eich mannau gwyrdd.
Er mwyn dweud eich dweud a chyfrannu at y sgwrs, cwblhewch ein harolwg.
This post is also available in: English