Partneriaeth Natur Lleol Sir Fynwy
Mae Monlife yn falch o gynnal Partneriaeth Natur Lleol Sir Fynwy, rhan o rwydwaith partneriaethau PNL Cymru ym mhob awdurdod lleol a pharc cenedlaethol ledled Cymru. Mae Partneriaethau Natur Lleol yn adnoddau amhrisiadwy i gymunedau, gan ddarparu cyngor ar fioamrywiaeth ac ymrymuso grwpiau lleol i gyfrannu at gadwraeth natur ac annog cydweithio ymhlith elusennau a sefydliadau cadwraeth.
Rydym yn ail-lansio Partneriaeth Natur Lleol Sir Fynwy yn 2023 i ehangu ar y gwaith a ddechreuwyd eisoes a datblygu cysylltiadau newydd ar draws y sir i ddathlu, cadw a gwella ein cynefin unigryw a chyfoethog, a dod â phobl ynghyd i rannu arferion gorau ac adnoddau er mwyn sicrhau’r buddion mwyaf posibl i pobl a bywyd gwyllt.
Cylchlythyr y GwanwynBeth mae’r PNL yn gwneud?
Bydd y bartneriaeth yn hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng sefydliadau allweddol ac unigolion sy’n amddiffyn a’n gwella natur yn Sir Fynwy. Bydd hyn yn cynnwys rhwydweithio a rhannu arferion gorau i hyrwyddo cyflawni camau gweithredu effeithlon ar draws sefydliadau partner
Bydd Monlife yn arwain ar gyflawni Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Sir Fynwy, gan gynnwys partneriaid a rhanddeiliaid allweddol yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu.
Wrth gyflawni hyn, byddwn yn adolygu’r blaenoriaethau cenedlaethol a lleol a nodir yn y Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur, yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a’r Datganiadau Ardal i nodi rhywogaethau, cynefinoedd, neu leoedd blaenoriaeth yn Sir Fynwy lle y mae angen gweithredu a ffocysu.
Bydd y Bartneriaeth yn monitro’r gwaith o gyflawni camau adfer natur, gan werthuso cynnydd tuag at weithredu cynlluniau lleol a’u diwygio yn ôl yr angen.
Byddwn hefyd yn cefnogi datblygiad prosiectau a gyflawnir gan sefydliadau unigol sy’n cyfrannu at nodau’r Bartneriaeth ac yn datblygu prosiectau newydd i fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol.
Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o faterion cadwraeth natur a’r gwaith a wneir gan y partneriaid drwy raglen ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth.
Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Sir Fynwy
Un o amcanion y Bartneriaeth Natur Lleol yw llunio Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGAN Lleol) i lywio gwaith y bartneriaeth.
Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru (CGAN) yn eang, wedi’i gynllunio i fod yn ganllaw i bob corff cyhoeddus yng Nghymru sy’n amlinellu amcanion Llywodraeth Cymru ar raddfa genedlaethol. Roedd prosiect Gwent Fwyaf Gydnerth wedi gweithredu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwent Fwyaf (GGNRAP) i ddarparu fframwaith i ysgogi newid ar raddfa ranbarthol, ac i gefnogi sefydliadau i gydweithio’n well.
Bydd CGAN Lleol Sir Fynwy yn trosi’r amcanion hyn i raddfa leol wrth weithio tuag at y nod cyffredin. Bydd yn nodi’r camau a’r canlyniadau manwl sydd eu hangen i gyflawni’r amcanion cyffredinol ar gyfer y rhanbarth.
Mae CGAN Lleol Sir Fynwy yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd, a dewch yn ôl am gyhoeddiadau pellach.
Cysylltwch â ni
Os hoffech ragor o wybodaeth am y Bartneriaeth Natur Lleol, i ymuno â’n rhestr bostio neu drafod camau posibl i adfer natur yn eich ardal, cysylltwch â’r Tîm Bioamrywiaeth ar: LocalNature@Monmouthshire.gov.uk
This post is also available in: English