Rhannwch eich Llais: Lluniwch Ddyfodol ein Hamgylchedd
Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad cymunedol, gyda’r nod o ddeall sut mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn effeithio ar drigolion Sir Fynwy, a chasglu mewnwelediadau gwerthfawr ar sut y gallwn ysbrydoli gweithredu a chefnogi yn ein cymunedau.
Beth sydd ar yr agenda?
- Deall yr Argyfwng Natur: Sut ydych chi a’ch cymuned yn deall y newidiadau yn ein hamgylchedd? Rhannwch eich sylwadau i’n helpu i gael dealltwriaeth gliriach.
- Cymhelliant a Chefnogaeth Gymunedol: Pa fath o gefnogaeth neu adnoddau fyddai’n eich helpu chi ac eraill i weithredu? Gadewch i ni wybod beth fyddai’n gwneud gwahaniaeth.
- Adborth ar Strategaethau Lleol: Adolygwch a rhowch adborth ar ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGAN) a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd. Bydd eich mewnbwn yn helpu i wella a mireinio ein dull gweithredu.
Beth yw’r Strategaethau Lleol?
Rydym yn gofyn am adborth ar ddwy strategaeth leol sydd wedi’u cynhyrchu i gefnogi darpariaeth Adfer Natur Sir Fynwy,
Bydd CGAN Lleol Sir Fynwy, a gynhyrchwyd gan Gyngor Sir Fynwy ar ran Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy, yn ganllaw i waith cadwraeth yn Sir Fynwy i gyflawni canlyniadau er budd adfer natur. Nod y cynllun yw darparu camau ymarferol, cyraeddadwy sydd wedi’u cynllunio i helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac adeiladu gwydnwch ecosystemau yn Sir Fynwy, y gellir eu defnyddio gan unigolion, cymunedau, busnesau, cynghorau ac ymarferwyr cadwraeth ledled Sir Fynwy.
Gallwch ddarllen y CGAN Lleol YMA
Mae’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd yn nodi dull y Cyngor o wella bioamrywiaeth a chynyddu gwytnwch ecosystemau trwy Seilwaith Gwyrdd. Mae hefyd yn nodi dull y Cyngor o wella canlyniadau iechyd a lles a cheisio cyflawni gweithredu yn yr hinsawdd trwy brosiectau a phartneriaethau ar raddfa dirwedd.
Strategaeth Seilwaith Gwyrdd – Crynodeb Gweithredol
Strategaeth Seilwaith Gwyrdd – CYFROL 1
Strategaeth Seilwaith Gwyrdd – CYFROL 2
Cymerwch Ran
Ymunwch â’r sgwrs a helpwch ni i lunio’r llwybr ymlaen. Mae eich adborth yn amhrisiadwy wrth greu atebion sy’n cyd-fynd ag anghenion ein cymuned, ac yn eu cefnogi.
YMGYNGHORIADThis post is also available in: English