Wellbeing, Green Skills & Training – Monlife

Lles, Sgiliau Gwyrdd a Hyfforddiant

Mae bod y tu allan yn gwneud i ni deimlo’n dda!

Mae manteision cysylltu ystyrlon â natur yn niferus, ac amrywiol.  Mae Cydlynydd Iechyd a Lles Rhanbarthol PGGG yn arwain y gwaith hwn i wella lles, cynyddu cyfleoedd i grwpiau ac unigolion gael mynediad i fannau gwyrdd, a gwella ansawdd mannau gwyrdd, yn enwedig o amgylch ardaloedd difreintiedig.

Mae penodi ‘Swyddog Sgiliau a Hyfforddiant Gwyrdd’ ym mis Mai 2023 wedi cryfhau’r Tîm PGGG ac wedi paratoi’r ffordd ar gyfer dull mwy cyfannol o ymdrin â’r maes gwaith hwn. Trwy weithio ar y cyd â’r Cydlynydd Iechyd a Lles, rydym wedi gallu nodi a darparu ystod o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu mewn ymateb i anghenion gwirfoddolwyr.  Enghraifft o ble mae’r dull cydweithredol hwn wedi bod yn llwyddiannus yw comisiynu Coed Lleol i ddarparu Rhaglen Dysgu Awyr Agored Lefel 2, achrededig Agored Cymru, ar gyfer cyn-filwyr y gwasanaethau arfog, sy’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Maindiff Court.

Arweiniodd y cysylltiadau cryf ag ystod eang o grwpiau cymunedol, a sefydlwyd yn ystod ‘Cam 1’ y rhaglen, at lawer o Brosiectau Iechyd a Lles arloesol ac effeithiol. Cipiwyd enghreifftiau o’r prosiectau hynny yn fideos Prosiect Iechyd a Lles PGGG, a gomisiynwyd gennym gan Yogi Communications:

Defnyddiwyd y fideos hynny i lywio ac ysbrydoli llawer o grwpiau cymunedol eraill ar draws rhanbarth Gwent.

Un o’r heriau allweddol yn ‘Cam 2’ PGGG yw sut rydym yn parhau i gefnogi’r grwpiau cymunedol a ariannwyd gennym yng ngham 1, wrth greu cysylltiadau gyda, wrth gefnogi ac ariannu carfan newydd o grwpiau cymunedol.

Un o’r ffyrdd yr ydym wedi cyflawni hyn yw drwy greu rhwydweithiau cymorth sy’n caniatáu i grwpiau cymunedol rannu gwybodaeth a Deallusrwydd mewn perthynas â llesiant, natur, cynhyrchu bwyd cynaliadwy a mannau gwyrdd.

Roedd y Digwyddiad Rhwydwaith Lles a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Trecelyn ym mis Tachwedd yn un cyfle rhwydweithio o’r fath. Mynychodd grwpiau Cymunedol o Flaenau Gwent a Chaerffili a denwyd 43 o gynrychiolwyr a 6 chyflwyniad yn cynnwys 10 cyflwynydd.

Roedd yr adborth yn gadarnhaol dros ben, gyda’r mwyafrif o’r rhai a wnaeth gwblhau ffurflenni gwerthuso yn gofyn am ddigwyddiadau rhwydweithio ddwywaith y flwyddyn.

Ers dechrau ‘Cam 2’ ym mis Ebrill 2023, mae’r Cydlynydd Iechyd a Lles wedi sefydlu cysylltiadau â 26 o grwpiau cymunedol ‘newydd’.  Mae llawer o’r grwpiau hyn wedi cychwyn prosiectau newydd a/neu meysydd gwaith. 

Er ein bod wedi ymdrechu i sicrhau bod dull teg o gefnogi a darparu ar draws pob un o’r 5 awdurdod lleol sy’n cymryd rhan, mae gwahaniaethau yn y dyraniad cyllid trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi arwain at lawer mwy o gyllid ar gael mewn rhai awdurdodau lleol nag eraill.

Fodd bynnag, mae llawer o brosiectau da yn digwydd ar draws y rhanbarth:

Ym Mlaenau Gwent rydym wedi bod yn gweithio gyda ‘Special Movers’ sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Rassau. Maent yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anawsterau corfforol a dysgu sylweddol.  Rydym yn eu hariannu a’u cefnogi i ddatblygu’r gofod allanol y tu ôl i’r adeilad i greu gardd fwytadwy / bywyd gwyllt.

Yng Nghaerffili, rydym yn gweithio gyda Growing Space ar safle Tŷ Siriol yn Sant Martin. Maen nhw’n creu rhan dawel o’r ardd a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer myfyrio, ymwybyddiaeth ofalgar a chwnsela.

Yn Sir Fynwy, rydym yn gweithio gyda Chyfeillion Dolydd y Castell. Rydym yn ariannu ‘panel dehongli’ dwyieithog ger y pwll. Bydd hyn o fudd i lawer o ddefnyddwyr y safle mynediad agored, ond bydd o fudd arbennig i blant o ysgolion cynradd lleol, sy’n defnyddio’r ardal ar gyfer trochi pyllau a theithiau cerdded natur.

Yng Nghasnewydd, rydym yn parhau i weithio gyda ‘Twmps Nature Group’ a ‘Friends of Road to Nature’. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda’n Swyddog Sgiliau a Hyfforddiant Gwyrdd i gynnig amrywiaeth o hyfforddiant sgiliau gwledig i’w gwirfoddolwyr.  Yn ogystal, rydym wedi ariannu Ymddiriedolaeth Pill i ddatblygu gardd bywyd gwyllt yn y ganolfan gymunedol sydd wedi’i lleoli yn Eglwys Sant Stephen, Pilgwenlli.

Yn Nhorfaen, rydym yn parhau i weithio gydag ‘Able Wales’ ac yn cefnogi eu cysylltiadau â Choetir Cymunedol Blaen Brân. Drwy ariannu Blaen Brân i brynu a gosod toiledau compostio, rydym yn gobeithio cynyddu cyfleoedd i fwy o drigolion a grwpiau cymunedol gymryd rhan mewn gweithgareddau llesiant ar y safle.


Cyfleoedd Hyfforddiant

Bydd PGGG yn gweithio gydag ysgolion, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ledled Gwent, gan gynnig cyfleoedd hyfforddi sy’n ymwneud â natur, hinsawdd a lles. Bydd ein Cydlynydd Sgiliau Gwyrdd Tirwedd a Chefn Gwlad Rhanbarthol yn arwain y gwaith hwn. Bydd cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant yn cael eu postio yma, felly cadwch lygad ar y dudalen hon.

Adnoddau

Mae adnodd dysgu wedi’i gynllunio i helpu athrawon a dysgwyr i brofi, archwilio ac arsylwi rhyfeddodau’r byd naturiol trwy 5 Disgyblaeth y Celfyddydau Mynegiannol. Mae’r adnodd yn defnyddio addasiadau anhygoel y blodau, adar, gwenyn, pili-palod, chwilod a choed o’n cwmpas, i ddarparu cyfleoedd arloesol i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am yr amgylchedd a’u sgiliau creadigol.

Archwilio’r amgylchedd naturiol drwy’r celfyddydau mynegiannol. Ar gael i’w lawrlwytho nawr

Mae’r amgylchedd a’i amrywiaeth o bethau byw, ei fioamrywiaeth, yn darparu’r ysbrydoliaeth a’r ffocws ar gyfer y gweithgareddau trawsgwricwlaidd amrywiol, diddorol a phleserus yn yr adnodd hwn.

Fe’i cynlluniwyd i helpu athrawon a dysgwyr i brofi, archwilio ac arsylwi rhyfeddodau’r byd naturiol trwy 5 Disgyblaeth y Celfyddydau Mynegiannol.  Mae’r adnodd yn defnyddio addasiadau anhygoel y blodau, adar, gwenyn, pili-palod, chwilod a choed o’n cwmpas, i ddarparu cyfleoedd arloesol i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am yr amgylchedd a’u sgiliau creadigol trwy’r canlynol:

  • darlunio gofalgar
  • creu mygydau peillwyr perffaith
  • drama fyrfyfyr ac â sgript
  • creu coreograffi a dyfeisio dawns/symudiad
  • cyfansoddi cerddoriaeth syml
  • gwneud ffilmiau

Gobeithio ein bod wedi ei gwneud hi’n hawdd i bawb gael mynediad ati, does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr celfyddydau mynegiannol nac amgylcheddol!

Mae’r cyfan yno i chi, cynlluniau sesiwn, gwybodaeth ddefnyddiol, (cyfeirio ystyriaethau penodol i’r ddisgyblaeth), nodau ac amcanion (sy’n gysylltiedig â chamau dilyniant) ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau estyn.  Fe wnaethom fwynhau treialu’r sesiynau hyn a chawsom adborth hyfryd, gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio’r adnodd hefyd. 

This post is also available in: English