Strategaethau ac Astudiaethau
Mae’r PGGG yn dangos ffordd arloesol o gydweithio i gyflawni canlyniadau strategol a lleol i ddarparu dull rhanbarthol o ymdrin â Seilwaith Gwyrdd (SG) yng Ngwent. Drwy’r cydweithio hwn, mae’r bartneriaeth wedi cynhyrchu’r dogfennau a’r astudiaethau strategol canlynol:
Strategaeth Seilwaith Gwyrdd Rhanbarthol
Mae’r strategaeth hon yn darparu Cynllun Fframwaith Gofodol SG ar gyfer rhanbarth Gwent Fwyaf (cynghorau Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Chaerffili), gan nodi blaenoriaethau rhanbarthol trwy fframwaith polisi trosfwaol a gefnogir gan gyfres o gynigion strategol. Bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi’n fuan.
Strategaeth Mynediad Rhanbarthol
Mae’r cynllun strategol hwn ar gyfer rhanbarth Gwent yn nodi cyfleoedd allweddol a strategaethau rheoli. Mae’n cynnwys cynllun cyflawni strategol coridorau gwyrdd ar gyfer prosiectau mynediad a phrosiectau wedi’u costio. Bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi’n fuan.
ReAsesiad Effaith Iechyd Integredig Rhanbarthol (AEII)
Mae’r AEII’n nodi effaith PGGG ar iechyd a lles meddyliol trigolion Gwent. Tynnwyd canfyddiadau allweddol o ddadansoddiad o dystiolaeth rhanddeiliaid, data epidemiolegol ac adolygiad o’r llenyddiaeth berthnasol.
Astudiaeth Achos i-Tree Eco Sir Fynwy
Defnyddiwyd i-Tree Eco i ddeall cyfansoddiad a strwythur coedwig drefol Sir Fynwy a’r buddion y mae’n eu darparu. Gellir defnyddio’r dadansoddiad hwn fel gwaelodlin i wneud penderfyniadau gwybodus i reoli a chynnal y goedwig drefol yn well, ar gyfer hinsoddau’r presennol a’r dyfodol.
This post is also available in: English