Prosiectau Seilwaith Gwyrdd
Mae partneriaeth GGG wedi bod yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau ymarferol i wella’r mannau gwyrdd yn ein cymunedau. Bu cymaint o brosiectau ar draws y rhanbarth i wella lleoedd ar gyfer natur; gan gynnwys peillwyr, plannu coed, gwella mynediad a gwella parciau, coetiroedd a mannau gwyrdd cymunedol eraill. Mae grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr wedi cymryd rhan weithredol mewn llawer o’r prosiectau hyn a bydd llawer mwy o gyfleoedd i bobl leol gyfrannu at weithgareddau yn y dyfodol.
Mae rhai enghreifftiau o brosiectau’n cynnwys:
Coridorau Gwyrdd Sir Fynwy: Gwella neu greu cynefinoedd cyfoethog, sy’n gweithredu fel “cerrig camu” er mwyn i fywyd gwyllt (fel peillwyr ac adar) ddod o hyd i gysgod neu fwyd yn ein hardaloedd trefol. Am fwy o wybodaeth ac i adael adborth cliciwch yma – dolen i’r dudalen bresennol Prosiect Seilwaith Coridor Gwyrdd – MonLife.
Prosiect Dyfrgwn yng Nghasnewydd: Roedd y gwaith hwn yn cynnwys plannu coed newydd ar hyd afonydd Brynbuga ac Ebwy i ddarparu sgrinio ar lannau’r afon ar gyfer dyfrgwn. Bydd y plannu yn darparu gorchudd gwell ar lannau’r afonydd i ddyfrgwn, yn lleihau’r risg o ysglyfaethu ac yn eu galluogi i adeiladu tyllau ar hyd ymyl yr afon. Mae monitro dilynol wedi dangos bod y gwaith o blannu glan yr afon wedi arwain at gynnydd yn nifer y dyfrgwn.
Garden City, Blaenau Gwent: Mae llwybrau mynediad a mynedfeydd i’r safle wedi cael eu gwella, gan agor y warchodfa i bobl a grwpiau lleol. Cyflawnwyd y gwaith hwn gan Tillery Action For You, menter gymdeithasol yng Nglyn Ebwy.




This post is also available in: English