iTree Eco Study - Monlife

Astudiaeth iTree Eco

Mae’r PGGG wedi defnyddio dull i-Tree Eco mewn dwy ardal astudio achos yng Ngwent: y cyntaf yng Nghasnewydd a’r ail yng Nghas-gwent a Glannau Hafren yn Sir Fynwy. Mae i-Tree Eco yn feddalwedd a ddefnyddir i fesur strwythur ac effeithiau amgylcheddol coed trefol a chyfrifo’u gwerth i gymdeithas mewn perthynas â: gwytnwch stociau coed trefol cyfredol a chynlluniedig i newid yn yr hinsawdd, eu rôl wrth reoleiddio tymheredd, a rheoli dŵr. Gellir defnyddio data o arolwg i-Tree Eco i helpu’r rhai sy’n gofalu am y coed hyn i wneud penderfyniadau rheoli mwy gwybodus.

Yng ngham casglu data’r prosiect, hyfforddwyd grŵp o wirfoddolwyr i ymgymryd â cham casglu data’r prosiect, gan gynrychioli cyfraniad gwych i’r prosiect yn ei gyfanrwydd yn ogystal â rhoi cyfle uniongyrchol iddynt ddysgu mwy am goed.  Mae ymchwil i goedwigoedd bellach yn mynd rhagddo’n gyflym gydag adroddiad technegol ar gyfer Tîm Cyflawni’r GGG, gan gynnwys crynodeb ar gyfer darllenwyr nad ydynt yn arbenigwyr, a bydd hyn yn barod ddechrau haf 2022.  Mae “Canllaw i redeg eich prosiect i-Tree Eco eich hun” hefyd wedi’i baratoi, sy’n dwyn ynghyd yr hanfodion i helpu grŵp prosiect i wneud penderfyniadau i roi prosiect Eco ar waith.

Adroddiad terfynol i-Tree Eco Sir Fynwy

This post is also available in: English