Beth yw Grid Gwyrdd Gwent?
Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, cydweithrediad rhwng pum awdurdod lleol Gwent, gan weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid a rhanddeiliaid eraill, wedi bod yn weithredol ers 2020. Ariannwyd y bartneriaeth i ddechrau gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru. Yn 2023, dyfarnwyd bron i £1 miliwn i’r PGGG gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru i hyrwyddo Rhwydweithiau Natur ecolegol gwydn mewn tirweddau ledled Gwent. Gyda chyllid ychwanegol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, bydd y bartneriaeth yn codi ymwybyddiaeth o argyfyngau hinsawdd a natur ac yn cyflwyno prosiectau i greu a gwella ansawdd mannau gwyrdd mewn trefi a chefn gwlad ehangach i sicrhau adferiad natur a chynyddu gwytnwch yr amgylchedd ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.
Gan barhau â llwyddiant y PGGG, bydd prosiect Natur Wyllt yn ymestyn ac yn ymgorffori ei ddull o reoli glaswelltiroedd, gan sefydlu rheolaeth mannau gwyrdd cydgysylltiedig i greu cynefinoedd peillwyr llawn blodau gwyllt ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Gwent. Bydd y prosiect yn ymgysylltu â chymunedau lleol ledled Gwent, gan godi ymwybyddiaeth o ddirywiad peillwyr ac annog perchnogaeth gymunedol a grymuso i gyflawni camau gweithredu a fydd yn eu helpu i adfer.
Bydd y bartneriaeth yn darparu ystod o fuddion lles i gymunedau lleol, yn hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi sy’n seiliedig ar natur ac yn ymgysylltu â gwirfoddolwyr i weithredu cymunedol i wneud gwelliannau i fannau gwyrdd, parciau trefol a gwledig, llwybrau beicio a hawliau tramwy cyhoeddus. Bydd yn hwyluso gwell rheolaeth a chreu coetiroedd ac afonydd, ac yn gweithredu i ddiogelu a gwella cynefinoedd hanfodol ar gyfer peillwyr. Bydd y bartneriaeth hefyd yn archwilio gwell rheolaeth o fannau naturiol i ddarparu cyfleoedd sy’n darparu gweithgarwch ataliol sy’n canolbwyntio ar iechyd.
Cefnogir y prosiect gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Treftadaeth y Loteri a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cadwch lygad am fwy o wybodaeth ar y wefan neu ar ein Tudalen Twitter!
gan gynnwys y Strategaeth SG Rhanbarthol, Strategaeth Mynediad Rhanbarthol, astudiaeth i-Tree a’r Asesiad Effaith ar Iechyd.
Mae'r bartneriaeth wedi gwneud gwelliannau mewn cymunedau, gan gynnwys SG, plannu coed a gwaith mynediad.
Edrychwch yma am ddyddiadau cyffrous ar gyfer eich dyddiadur o'n digwyddiadau sydd ar ddod.
Mae'r Natur Wyllt yn sefydlu rheolaeth mannau gwyrdd cydgysylltiedig i greu cynefinoedd peillwyr llawn blodau gwyllt ledled Gwent.
Dysgwch fwy am grantiau cymunedol a'r prosiectau lles sydd wedi cael eu cefnogi, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant.
Gwent Fwyaf Gydnerth oedd y chwaer brosiect a ddechreuodd y cydweithrediad Grid Gwyrdd Gwent.
This post is also available in: English