Biodiversity in Monmouthshire – Monlife

Bioamrywiaeth yn Sir Fynwy

Beth yw Bioamrywiaeth?

Mae bioamrywiaeth yn air cyfansawdd sy’n cyfeirio at amrywiaeth biolegol, ac yn syml mae’n golygu’r amrywiaeth o fywyd. Amrywiaeth bywyd yw’r holl bethau byw sy’n digwydd yn y byd naturiol a’r amrywiaeth rhyngddynt, o algâu i goed derw, bacteria i forfilod glas.  Nid yw bioamrywiaeth dim ond yn ymwneud â nifer y rhywogaethau sy’n digwydd mewn lle, mae hefyd yn cynnwys y rhyngweithio o fewn, a rhwng, rhywogaethau a’u hamrywiad genetig. Felly, mae Bioamrywiaeth hefyd yn cynnwys cymunedau o rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau.

Mae Gwydnwch yr Ecosystemau yn disgrifio iechyd ein hamgylchedd ar gyfer bioamrywiaeth sy’ hanfodol i ganiatáu i rywogaethau a chynefinoedd addasu i ddigwyddiadau (er enghraifft, effeithiau newid yn yr hinsawdd) ac mae gwydnwch yn dibynnu ar y canlynol:

  • amrywiaeth rhwng ac o fewn ecosystemau
  • y cysylltiadau rhwng ac o fewn ecosystemau
  • graddfa’r ecosystemau
  • cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad).

Rhaid i ni beidio ag anghofio bod Bioamrywiaeth hefyd yn ein cynnwys ni, a sut rydyn ni’n rhyngweithio â rhywogaethau eraill a’n hamgylchedd.  Nid yw bioamrywiaeth dim ond wedi’i gyfyngu i rywogaethau prin neu sydd dan fygythiad, er bod gan Sir Fynwy ddigonedd o’r ddau, mae’n cwmpasu pob peth byw yn y byd naturiol, o’r rhai sy’n gyffredin i’r rhai sydd mewn perygl difrifol.

Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth

Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth lle mae o fewn arfer eu swyddogaethau’n briodol. Wrth wneud hynny, rhaid i awdurdodau cyhoeddus geisio hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Gyngor Sir Fynwy ddefnyddio dull rhagweithiol i wella, a pheidio lleihau, bioamrywiaeth wrth gyflawni swyddogaethau. Daeth y ddyletswydd i rym ar 21 Mai 2016 ac mae’n disodli’r ddyletswydd Bioamrywiaeth gynharach, sef Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.

Datblygodd Cyngor Sir Fynwy Blaengynllun i ymrwymo i gydymffurfio â’r dyletswyddau newydd sy’n ofynnol ar bob awdurdod cyhoeddus. Mae’n ofynnol adrodd ar y cynllun yn 2019 a phob 3 blynedd wedi hynny. Fe fydd y cynllun yn cael ei adolygu yn dilyn yr adroddiadau. Amcanion y cynllun yw:

  • Gwreiddio bioamrywiaeth drwy wneud penderfyniadau ar bob lefel
  • Darparu addysg amgylcheddol i godi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu
  • Ymgymryd â rheoli tir ar gyfer bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau
  • Dylanwadu ar reoli tir i wella gwydnwch ecosystemau
  • Mynd i’r afael â’r pwysau allweddol ar rywogaethau a chynefinoedd
  • Cefnogi prosiectau a phartneriaethau ar raddfa tirwedd i sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf posibl
  • Monitro effeithiolrwydd y cynllun a’r adolygiad

Mae’r Blaengynllun Gwydnwch Bioamrywiaeth ac Ecosystemau yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a bydd ar gael yn fuan.  Mae’r Adroddiad Cynnydd ar gyfnod y cynllun diwethaf, 2020 i 2023, ar gael yma.

Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy

Mae Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy yn cael ei chynnal gan MonLife, wedi’i chydlynu gan aelodau o’r Tîm Seilwaith Gwyrdd.  Mae Partneriaethau Natur Lleol yn darparu cyngor ar fioamrywiaeth ac yn grymuso grwpiau cymunedol i weithredu dros gadwraeth natur.  Gallant hefyd alluogi cydweithio rhwng elusennau cadwraeth a hyrwyddo rhannu arfer gorau a gweithio ar raddfa dirwedd.   Mae Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy yn falch o fod yn rhan o rwydwaith PNLl Cymru ym mhob awdurdod lleol a pharc cenedlaethol ledled Cymru. 

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn gynllun grant gan Lywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo mynediad at natur ar garreg eich drws gan ddarparu grantiau cyfalaf i adfer a gwella natur leol.  Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn defnyddio’r grantiau i gyflwyno Mannau Natur Cymunedol mewn aneddiadau mawr ar draws y sir.   Nod y prosiect Mannau Natur Cymunedol yw trawsnewid ardaloedd chwarae a mannau gwyrdd llai ac o ansawdd gwael yn hafanau bach ar gyfer bywyd gwyllt, a hefyd darparu cyfleoedd i drigolion lleol ar gyfer chwarae gwyllt, tyfu cymunedol a llefydd i fyfyrio’n dawel.

Wedi Gweld Rhywbeth Diddorol?

Mae casglu a dogfennu cofnodion bywyd gwyllt yn cael effaith sylweddol ar warchod bywyd gwyllt a’r cynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt.  Trwy gofnodi a dogfennu’r wybodaeth hon yn weithredol, rydym yn cyfrannu at ddiogelu a gwarchod ein hecosystem gydgysylltiedig.

Ffordd syml o gofnodi beth rydych wedi gweld yw defnyddio system recordio ar-lein SEWBReC sef SEWBReCORD neu drwy lawrlwytho App LERC Cymru i’ch dyfais symudol.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd i archwilio’r cofnodion sydd ar gael ar gyfer eich ardal ar safle Aderyn.

Ynglŷn â Bioamrywiaeth
Ynglŷn â Bioamrywiaeth

Darganfyddwch fwy am natur ac ecoleg Sir Fynwy.

Bioamrywiaeth a Chynllunio
Bioamrywiaeth a Chynllunio

Gwybodaeth i ymgeiswyr cynllunio ac ymgynghorwyr ecolegol sy'n gweithio yn Sir Fynwy.

Prosiectau Seilwaith Gwyrdd a Natur.
Prosiectau Seilwaith Gwyrdd a Natur.

Darganfyddwch fwy am y prosiectau a'r mentrau rydym wedi bod yn gweithio arnynt

Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy.
Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy.

Mae'r Bartneriaeth Natur Leol yn hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth er mwyn diogelu a gwella natur yn Sir Fynwy

Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent
Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent

Partneriaeth ranbarthol yw GGG, gyda'r nod o wella a datblygu seilwaith gwyrdd ar draws Gwent.

Natur Wyllt
Natur Wyllt

Natur Wyllt yw ein dull enwog o reoli ein parciau a'n mannau agored.

This post is also available in: English