Seilwaith Gwyrdd a Sir Fynwy
Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Cyngor Sir Fynwy’r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol 2022-2028, sydd â’r nod o symud Sir Fynwy yn ei blaen, gan weithio gyda’n gilydd ar gyfer sir decach, wyrddach, fwy llwyddiannus.
Mae amcanion y cynllun yn cynnwys gwneud Sir Fynwy yn “le gwyrdd” i weithio a byw, gyda llai o allyriadau carbon, a gwneud cyfraniad cadarnhaol at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae’r tudalennau hyn yn darparu mwy o wybodaeth am sut rydym yn gweithio i gyflawni’r nod hwn.
Edrychwch ar ein cynlluniau strategol a'n dogfennau cyfarwyddyd ar gyfer cynllunio a rheoli SG.
Mae gan dirwedd Sir Fynwy sawl dynodiad i ddiogelu'r nodweddion hanesyddol ac esthetig unigryw.
Edrychwch ar ein holl adnoddau defnyddiol fel y gallwch ein helpu i gael effaith gadarnhaol.
Dysgwch fwy am yr holl brosiectau cysylltiedig â SG sy'n cael effaith gadarnhaol ar draws Sir Fynwy.
Partneriaeth ranbarthol yw GGG, gyda'r nod o wella a datblygu seilwaith gwyrdd ar draws Gwent.
Darganfyddwch fwy am yr effaith y gall newid yn yr hinsawdd ei chael ar ein lles cyffredinol.
Dysgwch fwy am gynefinoedd a rhywogaethau Sir Fynwy a'r hyn rydym yn ei wneud i'w diogelu.
Ymunwch â'r Bartneriaeth Natur Leol er mwyn helpu natur ar draws Sir Fynwy.
Beth yw Seilwaith Gwyrdd?
Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r holl goed, planhigion, mannau gwyrdd, glaswelltiroedd, systemau draenio trefol cynaliadwy, perllannau, gwrychoedd, coetiroedd, pyllau dŵr, afonydd a llynnoedd yw Seilwaith Gwyrdd (yr holl nodweddion gwyrdd a glas mewn tirwedd). Gallant ddarparu manteision niferus i’r amgylchedd, cymdeithas a’r economi.
Swyddogaethau SG yw’r rolau y gall asedau eu chwarae os cânt eu cynllunio, eu dylunio a’u rheoli mewn ffordd sy’n sensitif i, ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer, nodweddion naturiol a gwasanaethau ecosystem. Diffinnir gwasanaethau ecosystem fel y buddion a ddarperir gan Seilwaith Gwyrdd sy’n cyfrannu at wneud bywyd yn bosibl ac yn werth ei fyw.
Lleoliad Tirwedd ac Ansawdd Lle | Mae Seilwaith Gwyrdd yn gwella trefluniau, ansawdd y dirwedd ac yn atgyfnerthu cymeriad y dirwedd leol. Mae SG yn cefnogi cadwraeth treftadaeth a mynegiant diwylliannol, ac yn gwneud lleoedd yn fwy diddorol i fyw ynddynt. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am gymeriad y dirwedd yn Sir Fynwy |
Darpariaeth a Chysylltedd Cynefin | Mae’r Seilwaith Gwyrdd yn darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt ac yn annog cysylltedd rhwng safleoedd i hyrwyddo gwydnwch ecosystemau. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am fioamrywiaeth yn Sir Fynwy |
Darpariaeth a Chysylltedd Mannau Gwyrdd | Mae Seilwaith Gwyrdd yn darparu mannau gwyrdd i drigolion eu defnyddio a llwybrau teithio nad ydynt yn gerbydau i leihau allyriadau carbon. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am fynediad cefn gwlad a hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir Fynwy Cliciwch yma i ddarganfod mwy am lwybrau Teithio Llesol |
Defnydd Ynni Cynaliadwy | Mae Seilwaith Gwyrdd yn darparu ac yn hyrwyddo defnydd cynaliadwy o ynni i leihau ein hôl troed carbon. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am yr Argyfwng Hinsawdd |
Cynhyrchu Bwyd Lleol | Gall Seilwaith Gwyrdd gynnwys cynhyrchu bwyd lleol gan gynnwys perllannau cymunedol sydd â manteision lles a pheillwyr. Mae tyfu bwyd cymunedol yn cael ei ddarparu fel rhan o’r cynllun Mannau Natur Cymunedol. |
Gwanhau Llifogydd a Rheoli Adnoddau Dŵr | Gellir cynllunio Seilwaith Gwyrdd i amsugno glawiad trwm a darparu storio dŵr wyneb ar adegau o lif brig. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Systemau Draenio Cynaliadwy |
This post is also available in: English