Ymunwch â Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy
Rydym yn chwilio am aelodau newydd ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy, Mae’r Fforwm yn cynghori’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eraill ar ffyrdd o wella hawliau tramwy cyhoeddus a mannau gwyrdd yn Sir Fynwy.
Swyddi gwirfoddol yw’r rhain i roi cyngor ar faterion mynediad i gefn gwlad a helpu i gefnogi gwelliannau i fynediad lleol.
Rydym am i’r Fforwm newydd adlewyrchu’r ystod ehangaf o ddiddordebau. Felly, gallech fod yn ddefnyddiwr cefn gwlad a mynediad awyr agored, yn berchennog neu’n rheolwr tir, yn wirfoddolwr cymunedol neu fynediad, yn weithredwr twristiaeth lleol neu’n ymwneud â hybu a chefnogi mynediad i gefn gwlad er lles ac iechyd. Os ydych yn fodlon rhannu eich arbenigedd a chymryd rhan yn y Fforwm mynediad lleol am y tair blynedd nesaf, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ddarpar aelodau sydd â chysylltiadau da a gweithredol gyda sefydliadau lleol perthnasol, partneriaethau a grwpiau diddordeb.
Mae’r Fforwm yn ceisio cynnal cydbwysedd buddiannau gan gynnwys tirfeddianwyr a rheolwyr tir, pob math o ddefnyddwyr mynediad a’r rhai sy’n cynrychioli buddiannau eraill, megis iechyd, mynediad i bawb a chadwraeth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma ac mae’r ffurflen gais ar gael yma neu am fwy o wybodaeth, e-bostiwch rural@monmouthshire.gov.uk
Mae angen dychwelyd ffurflenni cais erbyn 15fed Ionawr 2024. Ar gyfer ‘Arweiniad Recriwtio’, cliciwch YMA.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau Mynediad i Gefn Gwlad, cliciwch YMA.
This post is also available in: English