Abergavenny – Monlife

Cynllun strategol y Fenni

Rydym yn datblygu llwybrau teithio llesol ar draws y Fenni i gysylltu preswylwyr yn well gyda chyrchfannau lleol a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Ein nod yw rhoi mynediad teg i addysg, cyflogaeth, siopau lleol a gwasanaethau, gan gefnogi cymunedau cynaliadwy, cydnerth a chysylltiedig ar draws y Fenni a Llan-ffwyst.

Rydym yn canolbwyntio ar gysylltiadau teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, a chynlluniwyd ein llwybr o amgylch pont teithio llesol newydd yn croesi’r Afon Wysg rhwng Heol Merthyr a Dolydd y Castell, a dolenni cysylltiedig ar gyfer llwybrau cynaliadwy mwy deniadol ac uniongyrchol i Llan-ffwyst a’r Fenni.

Elfennau’r cynllun

  • Pont newydd hygyrch ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo ar draws yr Afon Wysg ychydig i lawr yr afon o bont bresennol Heol y Fenni
  • Uwchraddio llwybrau ar draws Dolydd y Castell i wneud llwybr teithio llesol rhydd o geir i ganol tref y Fenni ac ymlaen at orsaf reilffordd y Fenni
  • Gwella darpariaeth cerdded a seiclo a chyfleusterau croesi priffordd o fewn Llan-ffwyst, yn cynnwys Heol Merthyr a’r Cutting.

Pont teithio llesol

Nod y cynllun yw darparu pont newydd ar gyfer cerddwyr/seiclo ar draws yr Afon Wysg, gan alluogi pobl i groesi’r Afon Wysg ymaith o gerbydau ffordd..

Cafodd pont Heol y Fenni eu hadnabod ers amser maith fel man toriad ar gyfer teithio llesol, ac mae Cyngor Sir Fynwy wedi rhoi blaenoriaeth i ddatblygu’r llwybr hwn. Daw’r bont newydd y prif groesiad afon ar gyfer teithio llesol rhwng Llan-fwyst a’r Fenni. Bydd hyn yn cynnig dewis diogel a deniadol i ddefnyddio’r llwybr troed cul dros bont bresennol Heol y Fenni ac annog newid dull teithio fel canlyniad. Mae’r bont ffordd yn strwythur wedi ei restru sy’n cludo llawer o draffig ffordd. Ychydig o gwmpas sydd ar hyn o bryd i’w gwneud yn fwy croesawgar na diogel ar gyfer teithio llesol. Y nod yw pontio’r ddolen goll hon a sicrhau cysylltiadau effeithlon o’r pontydd (newydd a phresennol) i ganol y dref, gan alluogi teithio iach rhwng cartrefi a chyrchfannau allweddol tebyg i ysgolion, Nevill Hall a chanol y dref.

Dolydd y Castell

Cafodd Cyngor Sir Fynwy ganiatâd cynllunio i uwchraddio’r llwybrau ar draws Dolydd y Castell i safonau teithio llesol, gan wella llwybrau rhwng Pont Heol y Frenni, canol tref y Fenni/maes parcio Byfield ac, mewn cyfnod datblygu diweddarach, ddwyrain y Fenni a gorsaf reilffordd y Fenni.

Dolenni Llan-ffwyst

Nod cynllun dolenni Llan-ffwyst yw darparu dolenni teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r bont teithio llesol newydd ar draws yr Afon Wysg. I gyflawni hyn, y cynllun yw gwella palmentydd a chyfleusterau croesi o fewn Llan-ffwyst, gan gysylltu Llan-ffwyst i’r Fenni gyda llwybrau hygyrch.

Beth yw’r newid y disgwyliwn ei weld?

  • Cynyddu teithiau llesol yn y Fenni
  • Gwella cysylltedd a hygyrchedd ar gyfer teithiau llesol yn a rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni
  • Gwella lefel wirioneddol a thybiedig diogelwch personol wrth gerdded a seiclo
  • Creu a gwella llwybrau cerdded/seiclo neilltuol newydd oddi ar y ffordd, gan gysylltu gyda chyfleoedd teithio llesol
  • Diogelu a rheoli ecosystemau gwerthfawr fel rhan o gyflenwi cynlluniau a chynnig budd net i fioamrywiaeth
  • Hyrwyddo teithio cynaliadwy fel bod yn ddeniadol a diogel yn y Fenni a Llan-ffwyst.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) a’i bartneriaid lleol yn gofyn am eich barn ar y cysylltiadau Teithio Llesol arfaethedig rhwng Pont Droed a Beicio Llan-ffwyst ar draws yr Afon Wysg a Llan-ffwyst i’r de. Dweud eich dweud

Map Ardal Teithio Llesol y Fenni

This post is also available in: English