Climate Emergency - Monlife

Newid Hinsawdd

Beth yw’r Argyfwng Hinsawdd?

Ym mis Mai 2019 datganodd Cyngor Sir Fynwy Argyfwng Hinsawdd, gyda chefnogaeth unfrydol gan Gynghorwyr. Penodwyd y Cyng Jane Pratt yn aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am newid hinsawdd a datgarboneiddio.

Mae hyn yn wirioneddol bwysig, oherwydd:

Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn wirioneddol bwysig, oherwydd os yw tymheredd y blaned yn codi gan 2°C rydym yn wynebu risgiau o sychder, llifogydd a thlodi – bydd yn cael effaith enfawr ar gannoedd o filiynau o bobl. Yn Sir Fynwy mae’r effeithiau a allai ddigwydd yn cynnwys digwyddiadau tywydd mwy eithafol (megis stormydd), prinder dŵr, sychder, colli rhywogaethau a risg llifogydd. I ddarllen yr adroddiad llawn gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd, gweler https://www.ipcc.ch/report/sr15/

Greta Thunberg, y ferch yn ei harddegau o Sweden, a ddechreuodd streicio o’r ysgol tu allan i Senedd Sweden a dechrau mudiad byd-eang o streiciau ysgol ar gyfer yr hinsawdd, yn esbonio’n rymus bwysigrwydd a brys mynd i’r afael â newid hinsawdd yn awr:

Beth sydd angen i ni wneud?

Mae’r cyngor eisoes yn gwneud llawer o bethau i geisio gostwng ein hallyriadau carbon, megis gostwng ein defnydd ynni, cynhyrchu pŵer solar a cheisio annog ceir trydan.

Fodd bynnag, nid yw’r pethau hyn ar eu pen eu hunain yn ddigon i fynd i’r afael ag Argyfwng Hinsawdd. Mae angen cynlluniau newydd i wneud gwahaniaeth ar draws pob cymuned a holl ddinasyddion Sir Fynwy – mae’n ymwneud â sut ydym yn teithio, byw, bwyta, cynhyrchu ein bwyd, siopa a’n cysylltiad annatod gyda’n hamgylchedd. Mae angen i hyn i gyd weithio tra’n cydbwyso anghenion menter a chefnogi ein heconomi gwledig/amaethyddol yn awr ac yn y dyfodol.

Mae cynlluniau yn mynd rhagddynt i gyrraedd ein targed i ostwng allyriadau carbon y cyngor i sero erbyn 2030.Dros yr haf bu swyddogion cyngor yn gweithio i ddatblygu cynllun gweithredu a strategaeth fydd yn nodi sut y bwriadwn wneud hyn.  Mabwysiadwyd y cynllun hwn gan y Cyngor ym mis Hydref 2019 ac mae’n canolbwyntio ar ynni, trafnidiaeth, gofodau gwyrdd, gwastraff a chaffael.

Strategaeth a Chynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd Cyngor Sir Fynwy v2.0

Gallwch weld y cynnydd a wnaed ar bob cam gweithredu erbyn mis Mehefin 2021 yma

Ym mis Tachwedd 2021, yn dilyn ymgynghoriad cymunedol eang, cyhoeddwyd cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru a’i ddiwygio, y gallwch ei weld yma.

Beth allaf ei wneud i helpu?

Ni all y cyngor ostwng carbon ar ben ei hun ostwng carbon ac rydym angen help y cyhoedd a busnesau. Mae grŵp Hyrwyddwyr Hinsawdd Cymunedol Sir Fynwy wedi cwrdd gyda swyddogion cyngor i drafod sut y gallant helpu – cadw llygad am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan gyda gweithgareddau’r cyngor i ostwng carbon. 

Mae camau syml y gall pawb eu cymryd i ostwng eu ôl-troed carbon, megis cerdded a seiclo mwy, gostwng, ail-ddefnyddio ac ailgylchu gwastraff a phrynu bwyd lleol.  Dyma rhai syniadau: 

Lleihau defnydd ynni 

  • Gall bethau syml megis troi’r goleuadau i ffwrdd, peidio â gadael pethau ar fodd parod a dim ond berwi’r dŵr sydd wir ei angen arnoch yn y tegell gwneud gwahaniaeth go iawn. https://www.energysavingtrust.org.uk/home-energy-efficiency  
  • Gall deall sut mae eich rheolyddion gwres yn gweithio a defnyddio thermostatau’n gywir arbed ynni.  
  • Os ydych yn defnyddio peiriant golchi llestri, sicrhewch eich bod dim ond yn ei ddefnyddion pan yw’n llawn 
  • Sicrhewch fod eich peiriant golchi dillad yn llawn a’ch bod yn sychu dillad ar lein yn hytrach nag yn y peiriant sychu os allwch. 

Defnyddio ynni adnewyddadwy 

Rheoli mannau gwyrdd 

  • Gadewch ran o’ch gardd yn wyllt, crëwch gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a phlannwch goed er mwyn amsugno carbon deuocsid. https://www.wildlifetrusts.org/actions  
  • Ymunwch â grŵp “Friends of” er mwyn cymryd rhan yn rheoli mannau gwyrdd cynaliadwy, neu er mwyn darganfod mwy ynglŷn â grwpiau lleol sy’n gwneud garddio a thyfu cymunedol. https://www.farmgarden.org.uk/  
  • Ceisiwch leihau eich milltiroedd bwyd gan brynu bwyd sydd wedi’i dyfu’n lleol lle bo’n bosib ac yn ei dymor.  
  • Meddyliwch am ble y mae’r cig yr ydych yn ei brynu yn dod a dewiswch ddeiet amrywiol gyda digonedd o ffrwyth a llysiau  
  • Cymrwch ran mewn rhandiroedd cymunedol neu sefydlwch randir newydd a chymrwch dro yn tyfu eich ffrwyth a llysiau eich hun. https://www.theallotmentgarden.co.uk/Easy-grow/  

Yr hyn yr ydym yn ei brynu 

  • Meddyliwch am faint yr ydych yn ei brynu ac os oes wir ei angen arnoch chi.  
  • Pan fyddwch yn prynu bwyd, meddyliwch am fwyd lleol, yn ôl y tymor, ac am becynnau sydd wedi’u lleihau a bod modd eu hailgylchu 
  • Cefnogwch eich siop elusen leol a phrynwch ail law, neu defnyddiwch gynllun megis Freecycle https://www.freecycle.org/  
  • Ystyriwch brynu “profiadau” i bobl fel anrhegion, neu anrhegion elusennol sy’n cefnogi prosiectau adnewyddadwy, yn hytrach na phrynu anrhegion nid oes eu heisiau neu eu hangen. https://www.oxfam.org.uk/shop/oxfam-unwrapped  

Lleihau gwastraff 

  • Darganfyddwch ryseitiau ac awgrymiadau ynglŷn â defnyddio bwyd a lleihau gwastraff bwyd  https://lovefoodhatewaste.com  
  • Defnyddiwch boteli dŵr gellir eu hail-lenwi, a chynwysyddion gellir eu hailddefnyddio ar gyfer eich cinio. https://refill.org.uk/  
  • Ceisiwch dorri lawr ar blastig untro. https://www.sas.org.uk/plastic-free-communities/  
  • Edrychwch ar ôl eich dillad a pheidiwch â phrynu ffasiwn dafladwy. https://www.loveyourclothes.org.uk/  
  • Rhoddwch ddillad nad ydych eu heisiau, bric a brac, llyfrau, dodrefn ayyb i’ch siop elusen leol er mwyn lleihau tirlenwi ac i helpu codi arian. 

Cerdded a seiclo 

  • Ceisiwch gerdded am deithiau byr, sy’n lleihau carbon yn ogystal â’ch gwneud yn heini ar yr un pryd! 
  • Ffeindiwch mas am lwybrau seiclo a grwpiau seiclo lleol a neidiwch ar eich beic. https://www.sustrans.org.uk/national-cycle-network/  
  • Ymunwch â rhieni a’ch ysgol leol er mwyn datblygu bws cerdded i gerdded eich pobl bach i’r ysgol.  
  • Cymrwch ran mewn cyfleoedd gwirfoddol hawliau tramwy cyhoeddus https://volunteer.monmouthshire.gov.uk/  
  • Gofynnwch i’ch cyflogwr os allen nhw gynnig cawodydd a loceri fel bod modd i chi seiclo i’r gwaith. 

Cerbydau mwy gwyrdd 

Trafnidiaeth gyhoeddus 

Addysg a chymryd rhan 

  • Cymrwch ran ym Mhwyllgor Eco eich ysgol, neu os nad Ysgol Eco yw eich ysgol, darganfyddwch mwy a gofynnwch iddynt a fyddant yn ei ystyried. 
https://www.keepwalestidy.cymru/pages/category/eco-schools
Rydym eisoes yn gwneud peth o hyn yn barod

This post is also available in: English