Monmouth - Monlife

Trosolwg ar gyfer Cynllun Strategol Trefynwy

Mae gan dîm Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy lawer o gynlluniau ar y gweill i helpu i wella cerdded, olwyna a beicio ar draws Sir Fynwy gyfan ac nid yw Trefynwy’n wahanol. Y weledigaeth yw creu “prif lwybr Teithio Llesol” trwy Drefynwy i roi cyfle i bobl gael mynediad at ysgolion, siopau, cyfleusterau gofal iechyd, a’r canolfannau hamdden mor gyflym, effeithlon ac mor ddiogel â phosibl. Ar ôl ei gwblhau byddai’r llwybr yn caniatáu i rywun deithio’n effeithiol o Wyesham trwy ganol y dref ac i waelod Kingswood Gate heb orfod stopio.  Mae’r prif lwybr yn cynnwys sawl adran, rhai eisoes wedi’u hadeiladu, rhai yn y broses o gael eu hadeiladu a rhai i’w hadeiladu yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r cynllun 

1. Kingswood Gate Meadow 

Mae Kingswood Gate Meadow yn llwybr defnydd a rennir 3m o led sy’n croesi dolydd o ystâd dai Kingswood Gate i Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw ac yn cysylltu â llwybr Williams Field Lane, gan greu llwybr parhaus sy’n arwain at ganol Trefynwy. Mae cynnydd gyda’r rhan hon o’r llwybr wedi bod yn anodd gyda rhai trafodaethau tir anodd a chynlluniau SDCau (Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy). Mae’r SDCau bellach wedi’i gwblhau ac mae’r trafodaethau tir yn agos at gael eu datrys. Byddwn yn ceisio adeiladu’r cynllun hwn yn haf 2025 unwaith y bydd y gwaith cynllunio manwl a’r trafodaethau tir wedi’u cwblhau, yn amodol ar sicrhau’r cyllid gofynnol.  Bydd yr arian eleni yn cael ei ddefnyddio tuag at gael lluniadau manwl terfynol a chyfreithlondeb tir wedi’i gwblhau. 

Mae’r cynllun yn edrych ar y canlynol:

  • Darparu llwybr 3m a rennir (gyda chulhau lleol lle nad yw lled llystyfiant yn caniatáu cydymffurfio’n llawn).
  • Arwyddion newydd ar gyfer y llwybr 
  • Nodweddion draenio SDCau
  • Cysylltiad â chamau a chroesfan a adeiladwyd yn flaenorol. 
  • Goleuadau lefel isel sy’n addas ar gyfer cynefinoedd lleol 

Hyd y llwybr 345m

2. Adran Gul Williams Field Lane – Cynllun i’w ddatblygu

Mae’r rhan gul hon sy’n cysylltu Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw â lWilliams Field lane yn hanfodol ar gyfer y llwybr parhaus. Mae’r rhan gul rhwng dwy uned ddiwydiannol fawr ac felly gall dod o hyd i’r ateb delfrydol gymryd peth amser.  Mae’r cynllun yn ei gamau datblygu cynnar a’r flaenoriaeth yw dod o hyd i ateb sy’n addas i bob parti.  Adeiladwyd croesfan twcan newydd ym mis Ionawr 2024 sy’n caniatáu croesi ffordd yr ystâd ddiwydiannol yn ddiogel i gerddwyr a beicwyr.

3. Williams Field Lane – Adeiladwyd 2021/2022

Adeiladwyd yr adran hon yn 2021/2022 gyda Chyllid Teithio Llesol a darparodd lwybr defnydd a rennir 3m yn arwain o Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw i’r gyffordd yn Drybridge House. Mae’r llwybr hwn yn caniatáu mynediad hawdd a diogel i Ysgol Gynradd Overmonnow yn ogystal â llwybr i’r cyhoedd ei ddefnyddio i ffwrdd o’r Wonastow Road brysur. Mae’r llwybr wedi’i oleuo’n dda gyda goleuadau lefel isel ac adeiladwyd parc chwarae yn Kings Fee hefyd fel rhan o’r cam hwn.  Mae monitro’r llwybr hwn yn barhaus yn dangos lefelau defnydd uchel iawn ar adegau prysuraf y dydd sy’n dangos bod y llwybr yn cael ei ddefnyddio’n dda. 

4. Cysylltiadau Canol y Dref Williams Field Lane – Gwaith Adeiladu 2023/2024

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r cam hwn ym mis Chwefror 2024 ac roedd i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill 2024, fodd bynnag, oherwydd rhwystr mawr o brif bibell ddŵr wedi byrstio, a arweiniodd wedyn at rywfaint o ailgynllunio angenrheidiol, golygai hyn fod y cynllun wedi’i osod yn ôl sawl wythnos ac mae bellach i fod i orffen y gwaith adeiladu ar ddechrau Mehefin 2024. Mae’r cynllun wedi cael ei ariannu gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a bydd yn ychwanegu rhan bwysig at y prif lwybr cyffredinol trwy Drefynwy. Mae wedi gwella lled palmant i ganiatáu i gerddwyr a defnyddwyr olwynion rannu defnydd i deimlo’n llawer mwy diogel wrth gymudo.  Mae’r gwaith hefyd wedi gwneud cysylltiadau o Wiliams Field Lane i ganol Trefynwy yn daith llawer llai cyfyngedig.

Mae’r cynllun yn edrych ar y canlynol:

  • Amnewid cylchfan fach gyda chyffordd T i gynorthwyo croesi teithio llesol a darbwyllo defnyddwyr HGV rhag defnyddio Wonastow Road a defnyddio’r llwybr cyswllt a ddarperir
  • Dileu parcio ar y stryd i ennill y lled ofynnol
  • Darparu cyswllt ychwanegol i gyfleusterau hamdden, fel y parc sglefrio a’r gofod natur.
  • Blaenoriaeth croesi dros fynedfeydd ochrol.
  • Arwyddion newydd ar gyfer llwybr defnydd a rennir
  • Gosod croesfan twcan ar Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw

Hyd y llwybr 403m

5. Monnow Street – Ar hyn o bryd gyda’r tîm Adfywio

Ar hyn o bryd mae’r tîm Adfywio a Chreu Lleoedd yn edrych ar ddatblygiad Monnow Street.

6. Cysylltiadau Canol y Dref – Cynllun i’w ddatblygu

Ar hyn o bryd mae’r rhan hon yng nghamau cynnar iawn datblygu’r cynllun a byddai’n darparu llwybr amgen trwy Gaeau Chippenham yn hytrach na gorfod llywio drwy stryd fawr Trefynwy. Defnyddiwyd y llwybr hwn yn helaeth yn ystod pandemig COVID-19 ac mae’n dal i gael ei ddefnyddio gan lawer o bobl i naill ai deithio i’r dref, ysgol, cerdded cŵn neu hamdden.  Er bod yna lwybrau sy’n arwain ar draws y caeau chwarae, nid ydynt yn bodloni safonau teithio llesol felly byddai angen rhywfaint o uwchraddiadau i gyrraedd y safonau hynny.

7. Old Dixton Road

Enillodd y cynllun hwn gyllid adeiladu yn 2021/22, ond ni chafodd ei adeiladu oherwydd manylion cyllid uchel o fewn y tendrau, ac felly mae wedi’i ohirio nes bod cyllid a thendro llwyddiannus wedi’u canfod. Nod y cynllun yw darparu palmentydd ehangedig o’r Llyfrgell, heibio’r ysgol gyfun, i’r Ganolfan Hamdden yn Nhrefynwy yn ogystal â “lôn dawel” drwy’r tanffordd sy’n arwain at ochr yr afon.  Mae’r dyluniadau wedi’u newid ychydig, ar ôl i rywfaint o adborth gan ein cynghorydd Teithio Llesol, ac mae’r gwaith adeiladu wedi cael ei gynllunio ar gyfer haf 2025 unwaith y bydd cyllid yn cael ei sicrhau gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn edrych ar y canlynol:

  • Darparu troedffordd mwy o led i gwrdd â safonau teithio llesol.
  • Cyfeirio beicwyr i’r heol gyda gweithrediad y rheoliadau 20mya
  • Pwynt croesi ger y Ganolfan Hamdden. 
  • Croesfan â blaenoriaeth dros fynedfeydd maes parcio.
  • Arwyddion newydd ar gyfer llwybrau 
  • Addasiadau i ddyluniadau blaenorol i gynnwys: 
  • Tynnu’r “pwynt chwyddo” o linell y palmant ger y pwynt tagu
  • Y ffordd i’r danffordd i ddod yn “Lôn Dawel” a chysylltu â Chroesfan Teithio Llesol Gwy yn y dyfodol
  • Hyrwyddo parth 20mya. 
  • Ailosod nodweddion tawelu traffig 

Hyd y llwybr 290m

8. Croesfan Teithio Llesol Gwy 

Mae cynigion ar gyfer croesfan Teithio Llesol newydd o afon Gwy yn Nhrefynwy wedi cymryd cam mawr ymlaen, gyda chynllun arfaethedig pont i gerddwyr a beicwyr bellach wedi cael caniatâd cynllunio. Nod y prosiect, sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, yw creu llwybr diogel newydd, sy’n cysylltu Trefynwy a Wyesham ac yn osgoi’r traffig cerbydau ar Bont Gwy brysur. Mae arolygon helaeth wedi’u cynnal fel rhan o’r cynllunio cychwynnol, gan gynnwys traffig, modelu llifogydd ac ecoleg sy’n caniatáu ar gyfer dyluniad llawer mwy manwl ac ymagwedd at adeiladu.  Mae rhai gweithiau gwella natur fel plannu a sefydlu blychau nythu eisoes wedi digwydd mewn safle dethol yn Wyesham fel rhan o’r gofynion ecoleg.  Bydd y cyllid a dderbyniwyd ar gyfer eleni yn mynd tuag at gael dyluniadau manwl o’r bont gan ddefnyddio fframwaith ECI (sef Ymwneud â Chontractwyr yn Gynnar) yn barod i’r cynllun fynd allan i dendro. Disgwylir i’r gwaith o adeiladu’r groesfan ddechrau yn 2025/2026 a pharhau hyd at 2026/2027 oherwydd maint y cynllun gan fod cyfnod adeiladu cyfyngedig oherwydd natur y safle. 

Mae’r cynllun yn edrych ar y canlynol: 

  • Darparu pont gerdded a beicio 3.8m o led yn gyfochrog ac i fyny’r afon i bont bresennol Gwy. 
  • Darparu rhwydwaith cerdded a beicio cydlynol, uniongyrchol, diogel, cyfforddus a deniadol o Wyesham i gymunedau, gwasanaethau a chyfleusterau cyfagos ar draws Trefynwy; 
  • Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i gyflogaeth, iechyd, addysg a gwasanaethau;  
  • Cael effaith gadarnhaol, yn wirioneddol a chanfyddedig, ar ddiogelwch cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn ar hyd ac ar draws ardal yr astudiaeth; 
  • Cyflawni newid moddol yn Nhrefynwy tuag at drafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer pob taith; a lleihau effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.  
  • Darparu cysylltiadau â Chysylltiadau Wyesham a llwybrau Old Dixton Roadd ar y naill ochr i’r bont
  • Bydd y cam hwn o waith yn symud y cynllun ymlaen i brosiect yn barod i’w tendro. Trwy archwiliadau ECI a Cat III ar y strwythur.  Mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu’r bont gymryd 2 flynedd yn 2025/26 a 2026/27.

Hyd y llwybr 1.3 cilomedr

9. Cysylltiadau Wyesham – Datblygiad 2024/2025 y Cynllun

Rhan olaf y prif lwybr yw Cysylltiadau Wyesham, sy’n cysylltu Wyesham â chanol Trefynwy trwy Groesfan Teithio Llesol Gwy. Ar hyn o bryd mae datblygiad y cynllun yn edrych ar y ffyrdd gorau o wella’r llwybrau o ysgol gynradd Kymin View, ar hyd Wyesham Road ac yn cysylltu â Staunton Road a’r A466. Gyda lle cyfyngedig ar fryn Wyesham Road, nid yw’n hawdd newid heb fod gwaith adeiladu enfawr yn gysylltiedig, felly am y tro, mae’r cam hwn yn cael ei oedi. Yn hytrach, mae’r cysylltiadau o ben y bryn ar hyd Wyesham Road i ysgol Gynradd Kymin View yn cael eu harchwilio ymhellach.  Mae opsiynau dylunio ar gyfer yr adran hon yn y broses o gael eu paratoi ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddarach yn 2024.

Trefynwy  – Map Teithio Llesol

This post is also available in: English