Active Travel – Monlife

Teithio Llesol

Mae Teithio Llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, olwyno neu feicio i gyrchfan (fe’i gelwir hefyd yn “deithiau pwrpasol”). Nid yw’n cynnwys cerdded a beicio a wneir fel gweithgaredd hamdden yn unig, ond er hyn, gall gyfoethogi gweithgareddau hamdden yn sylweddol drwy helpu i gysylltu rhwydweithiau. Gellir defnyddio teithio llesol i gyrraedd yr ysgol, y gwaith, gwasanaethau a siopau, neu fel un o sawl dull teithio ar daith hirach – er enghraifft, cerdded i’r orsaf i ddal bws neu drên.  

Mae Strategaeth Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy yn canolbwyntio ar deithiau sy’n dair milltir neu lai. Mae hyn yn golygu gwneud teithio llesol y dewis naturiol cyntaf ar gyfer teithiau lleol drwy wella seilwaith cerdded a beicio er mwyn cysylltu pobl â chyrchfannau allweddol o fewn cymunedau. 

Mae manteision enfawr yn deillio o gynyddu lefelau Teithio Llesol. Mae cerdded a beicio ar gyfer teithiau o ddydd i ddydd yn ffordd wych o wella eich iechyd, eich lles ac ansawdd eich bywyd. O’i gymharu â gyrru gall hefyd arbed arian i chi ar danwydd a chostau parcio. Mae Teithio Llesol yn ffordd gadarnhaol o leihau lefelau traffig, a thrwy hynny fynd i’r afael â llygredd aer, sŵn ac allyriadau wrth i ni ymateb ar y cyd i newid hinsawdd. 


Cil-y-coed
Cil-y-coed
Cas-gwent
Cas-gwent
Magwyr a Undy
Magwyr a Undy
Brynbuga
Brynbuga
Argyfwng Hinsawdd
Argyfwng Hinsawdd
Polisi a Chysylltiadau
Polisi a Chysylltiadau

This post is also available in: English