Tudalen Effaith MonLife
Pwrpas MonLife yw darparu profiadau cwsmeriaid o ansawdd uchel ac annog rhagor o ymwelwyr i ardal Sir Fynwy, gan gefnogi amgylcheddau gwydn a gweithredol i wella ac arddangos y cyfleoedd cyfoethog ac amrywiol sydd ar gael i bobl eu mwynhau. Cafodd MonLife ei lansio ym mis Ionawr 2020 ac er bod hynny’n gyfnod o lawer o ansicrwydd, rydym yn falch ein bod wedi gallu parhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y cyfyngiadau. Rydym wedi addasu’n barhaus i sicrhau bod ein gwasanaethau’n ddiogel, yn addas i’r diben a gall ein preswylwyr gael mynediad at wasanaethau i helpu gyda’u hiechyd a’u lles.
Dyma ychydig o’n llwyddiannau allweddol hyd yma:
- Buddsoddiad o £2.5m yn ein cyfleusterau hamdden
- 863,000 o ymweliadau â’n 4 Canolfan Hamdden Egnïol MonLife
- Cyfrannu £1.3m at yr economi leol oherwydd Amgueddfeydd Sir Fynwy
- Roedd 86% o’r bobl ifanc sy’n rhan o’r prosiect Shift yn gweld gwelliant yn eu hiechyd meddwl/lles emosiynol.
- Mae 700 o oedolion hŷn, pobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.
- Byddai 99% o’r ymwelwyr yn argymell Sir Fynwy fel lle i ymweld
Cenhadaeth
Yn hyrwyddo bywydau mwy iachus a phrofiadau ysbrydoledig a’n hyrwyddo hyfywedd Sir Fynwy fel lle gwych.
Gweledigaeth
Ymgyfoethogi bywydau pobl a’n creu lleoedd hyfyw.
Amcanion
• Ymgyfoethogi bywydau pobl drwy gyfranogiad a gweithgarwch
• Adeiladu cymunedau cryf yn Sir Fynwy
• Datblygu sgiliau arwain ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Gwerthoedd
Tryloywd-er – Tegwch – Hyblygrwydd – Gweithio fel tîm – Caredigrw-ydd
This post is also available in: English