Ystafell Ffyrfhau Blaenaf Trefynwy
Mae Ffyrfhau Blaenaf Trefynwy yn cynnwys offer ymarfer corff â chymorth pŵer i bobl hŷn, pobl sydd â chyflyrau meddygol hirdymor, ac unrhyw un sy’n edrych i gyflawni eu nodau ffitrwydd, waeth beth fo’u hoedran, eu gallu neu lefel ffitrwydd. Rydym yn cynnig amgylchedd cynnes a chyfeillgar i gwrdd â ffrindiau newydd wrth aros yn heini. Mae ein haelodaeth Ffyrfhau’n cynnwys;
- Mynediad diderfyn i’n hystafell Ffyrfhau Blaenaf
- Mynediad i Bwll Nofio NEWYDD Trefynwy
- Gwiriadau iechyd am ddim
- Dosbarthiadau ffitrwydd wedi’u dewis yn benodol i wella’ch profiad ffyrfhau. Gweler y rhestr o ddosbarthiadau a gynhwysir isod;
- Cylchedau Ysgafn F4L
- Aml-chwaraeon F4L
- Ioga
- Pilates
- Tai Chi
- Erobeg Aqua
- Ymestyn a Ffyrfhau
- Cydbwysedd Corff Rhithwir
- Sh’bam Rhithwir
Prisio:
- Talu wrth Fynd: £9.00
- Aelodaeth Ffyrfhau Fisol: £25.90
- Aelodaeth Ffyrfhau Flynyddol: £259.00 (GAN ARBED £51.80)
Siaradwch ag aelod o’r staff ynglŷn â’r dosbarthiadau uchod. Mae ein staff wrth law i siarad â chi am bob dosbarth, y buddion, a mwy.
I holi’n uniongyrchol am Aelodaeth Ffyrfhau, ffoniwch 01633 644800 neu anfonwch e-bost atom i: monmemberships@monmouthshire.gov.uk.
This post is also available in: English