TMG FAQ’s - Monlife
Girl in swimming pool during swimming lessons looking at camera smiling holding hand in the air

Cwestiynau Cyffredin Gemau Sir Fynwy (GSF)

Beth yw amserau Gemau Sir Fynwy?

Bydd Gemau Sir Fynwy’n rhedeg o 8:30am – 4:30pm.

I ba oedrannau yw GSF?

Mae ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 ac 11 oed

Faint fydd y gost?

Safonol – £21.00 y dydd
Brodyr a Chwiorydd – £15.75 y diwrnod
Plant sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim – £15.75 y diwrnod

Gemau Sir Fynwy sy’n cael eu talu o flaen llaw (disgownt o 25%)
£15.75
I dderbyn eich disgownt RHAID i chi dalu am 10 diwrnod yn llawn ar gost o £157.50. Bydd y dyddiau’n cael eu hychwanegu at Gerdyn MonLife eich plentyn/plant. Bydd yn rhaid bwcio’r diwrnodau unigol o hyd i sicrhau eich lle ar Gemau Sir Fynwy.

Dwedwch fwy wrthyf am yr opsiwn talu o flaen llaw a’r gostyngiad o 25% ar gyfer Gemau Sir Fynwy

O ganlyniad i’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan y rhieni a’r bobl ifanc, rydym wedi penderfynu ymestyn Gemau Sir Fynwy i gynnwys yr un fformat ar gyfer pob hanner tymor ysgol a gwyliau’r haf. Felly, hoffem gynnig gostyngiad o 25% i rieni a gofalwyr a hoffai ‘brynu’n swp’ ddyddiau ar gyfer Gemau Sir Fynwy. Yn dilyn adborth, rydym wedi gwneud y cynllun disgownt newydd yn fwy hyblyg;

  • Gemau Sir Fynwy sy’n cael eu talu amdanynt o flaen llaw – talwch am 10 diwrnod yn llawn (£157.50) a byddwch yn derbyn gostyngiad o 25% (felly £15.75 y diwrnod yn hytrach na £21.00 y diwrnod).
  • Does dim angen archebu pob un o’r 10 diwrnod ar unwaith. Bydd y ‘diwrnodau’ yn cael eu hychwanegu at gerdyn MonLife unigol eich plentyn/plant a byddwch yn gallu eu hawlio wrth i chi archebu.
  • Nid yw’r cerdyn MonLife wedi talu o flaen llaw yn gwarantu lle i chi o ran Gemau Sir Fynwy, bydd dal angen archebu lle o flaen llaw gyda chanolfan hamdden eich dewis.
  • Mae’r ‘diwrnodau’ ar gerdyn MonLife yn ddilys am flwyddyn ar ôl eu prynu.

Os ydw i’n prynu cerdyn disgownt, ydw i’n gallu defnyddio’r diwrnodau ar y cerdyn yn erbyn mwy nag un plentyn i gael mynediad i Gemau Sir Fynwy? Na. Mae angen prynu unrhyw gardiau, sydd wedi’u talu amdanynt o flaen llaw, yn erbyn pob plentyn unigol ar ei gerdyn ei hun. Ni ellir defnyddio un cerdyn ar gyfer nifer o blant.  Ond bydd unrhyw frodyr a chwiorydd ychwanegol sy’n mynychu Gemau Sir Fynwy yn derbyn y gyfradd ostyngol o 25% beth bynnag.

Mae gen i dalebau gofal plant.  A fyddaf yn gallu defnyddio fy nhalebau gofal plant ar gyfer Gemau Sir Fynwy?

Nid yw Gemau Sir Fynwy yn ddarpariaeth gofal plant ac ni fydd wedi cofrestru gyda’r AGGCC (Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru).  Fodd bynnag, mae’r holl staff yn gymwysedig ac wedi’u hyfforddi i gyflwyno sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol a byddant yn ymgymryd â gwiriadau cyn cyflogi Cyngor Sir Fynwy, gan gynnwys gwiriadau manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ble alla i weld Polisi Diogelu Plant ac Amddiffyn Plant y ganolfan hamdden?

Mae’r canolfannau hamdden yn mabwysiadu’r un polisi a gweithdrefnau gan fod holl sefydliadau a staff Cyngor Sir Fynwy wedi’u hyfforddi i’r lefelau priodol.  Mae datganiad o’r trefniadau i’w gweld yn glir ym mhob canolfan hamdden, felly cymerwch yr amser i’w ddarllen os gwelwch yn dda, mae’r rheolwr dyletswydd bob amser wrth law i roi unrhyw wybodaeth bellach i chi, neu i ateb unrhyw ymholiadau.

A fydd fy mhlant yn nofio?

Byddant, sicrhewch fod eich plentyn yn dod â’r wisg nofio a’r tywel cywir.

Beth arall fydd fy mhlant yn ei wneud?

Rydym wedi cynnwys llawer o weithgareddau, chwaraeon a gemau hwyliog yn y rhaglen. Drwy gydol Gemau Sir Fynwy, bydd plant yn gallu rhoi cynnig ar wahanol chwaraeon a gweithgareddau (Osgoi’r Bêl, Gemau Parasiwt, Pêl-foli wrth Eistedd, Golff Gwallgof, Dawns, a llawer mwy). Bydd cyfle wythnosol i blant gymryd rhan yn “Y Gemau”.  Bydd pob canolfan hamdden yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, felly rydyn ni’n disgwyl i chi ymarfer eich sgiliau a ddysgwyd drwy gydol yr wythnos, yn barod i gymryd rhan yn y Gemau.

Beth fydd angen i fy mhlentyn ddod gyda nhw ar y diwrnod?

Mae Gemau Sir Fynwy yn ddarpariaeth chwaraeon drwy’r dydd felly mae esgidiau a dillad addas er mwyn cymryd rhan mewn ymarfer corff yn hanfodol.  Bydd angen i blant hefyd ddod ag ychwanegiadau priodol iddynt fel côt yn y glaw neu eli haul a het gan y bydd rhai gweithgareddau’n digwydd y tu allan, os yw’r tywydd yn caniatáu.  Fel rhan o’r rhaglen, bydd plant hefyd yn nofio bob dydd a bydd angen cit nofio. Bydd angen i blant ddod â phecyn bwyd a byrbrydau ar gyfer y diwrnod cyfan, yn ogystal â photel diodydd at ddefnydd personol. Mae gorsafoedd dŵr ar gael i blant ail-lenwi poteli diodydd drwy gydol y dydd.

Beth sy’n digwydd os yw fy mhlentyn yn sâl ac yn methu mynychu?

Isod ceir y canllawiau canlynol ar gyfer salwch:
Os yw plentyn wedi chwydu neu wedi profi’r dolur rhydd rhaid iddynt beidio â mynychu’r rhaglen tan 48 awr ar ôl yr achos olaf
Rhaid i blant sy’n arddangos symptomau Covid-19 beidio â dychwelyd i’r rhaglen am 14 diwrnod ar ôl sylwi ar y symptomau am y tro cyntaf (tymheredd uchel, peswch parhaus, colli’ch blas ac arogl), ac ni fydd brodyr a chwiorydd yn cael mynychu chwaith.
 
Os yw plentyn yn sâl ac yn methu mynychu’r rhaglen byddant yn cael cynnig slot ar ddiwrnod arall ac os nad yw hyn yn bosibl bydd pwynt bonws yn cael ei ychwanegu at eu cerdyn i’w ddefnyddio mewn rhaglen wyliau yn y dyfodol yn eich dewis ganolfan hamdden. 

A oes angen unrhyw wybodaeth benodol arnoch am fy mhlentyn sy’n mynychu’r cynllun?

Ydych. RHAID i chi gwblhau ffurflen gydsyniad ar gyfer eich plentyn/plant i gael mynediad i’r rhaglen. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni a llofnodi a thicio’r blychau perthnasol ar y ffurflen gydsyniad.  Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth nad yw’n bresennol ar y ffurflen.  Mae angen cwblhau ffurflenni cydsyniad newydd ar gyfer pob plentyn, waeth a ydynt wedi mynychu Gemau Sir Fynwy yn y gorffennol ai peidio. Eich cyfrifoldeb chi yw cwblhau’r ffurflen gofrestru’n gywir. Mae darparu rhifau ffôn cyswllt mewn argyfwng yn ogystal â threfniadau codi a gollwng ar gyfer eich plentyn/plant yn hollbwysig a rhaid i chi gwblhau’r wybodaeth hon ar y ffurflen gydsyniad. Mae gennym flwch ‘optio allan’ ar y ffurflen gydsyniad y mae’n rhaid i chi ei dicio os nad ydych am i’ch plentyn/plant ymddangos mewn unrhyw negeseuon cyfryngau a pheidio â chael eu llun wedi tynnu fel rhan o waith marchnata Gemau Sir Fynwy.

Sut ydw i’n archebu lle i fy mhlentyn ar gyfer Gemau Sir Fynwy?

I archebu lle ar Gemau Sir Fynwy mae angen i chi gofrestru eich diddordeb a bydd y ddolen ar gael yn fuan i wneud hyn, cadwch olwg allan ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol .  Bydd y ganolfan hamdden lle’r ydych wedi cofrestru eich diddordeb, yn cysylltu â chi i drafod pa ddiwrnodau rydych chi’n bwriadu eu harchebu. Yn dilyn y cyswllt o’r ganolfan hamdden bydd angen i chi gwblhau ffurflen gydsyniad a fydd yn cael ei hanfon i’r cyfeiriad e-bost a gyflwynir ar gofrestru diddordeb. Nodwch fod rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gydsyniad er mwyn i’ch plentyn fynychu’r cynllun, ni chaniateir i blant fynychu’r cynllun oni bai bod ffurflen gydsyniad wedi’i chwblhau.


Gwybodaeth COVID-19

Ni ddylid anfon plant i’r cynllun oni bai eu bod yn teimlo’n iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau o’r coronafeirws (COVID-19).

Prif symptomau’r coronafeirws yw:
Tymheredd uchel (twymyn) – ystyr hyn yw eich bod yn teimlo’n boeth i gyffwrdd ar eich brest neu eich cefn (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd);

Peswch newydd, parhaus – ystyr hyn yw eich bod yn peswch am fwy nag awr, neu wedi cael 3 neu fwy o gyfnodau pesychu mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer);

Colled neu newid i’ch ymdeimlad o arogl neu flas (anosmia) – ystyr hyn yw eich bod wedi sylwi na allwch arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer.

This post is also available in: English