The Monmouthshire Games - Monlife

Gemau Sir Fynwy

Rydyn ni’n ÔL! Mae Gemau Sir Fynwy (TMG) yn dychwelyd ar gyfer Gwyliau’r Haf!

Gallwch nawr archebu lle trwy ymweld ag unrhyw un o’n canolfannau hamdden! Fel arall, gallwch archebu ein calendr llawn o sesiynau TMG ar-lein o 24 Mehefin.

  • 22/07/2024 – 23/08/2024
  • TMG: 8:30am – 4:30pm
  • O: £21.00 y plentyn

Mae Gemau Sir Fynwy yn seiliedig ar ddysgu sgiliau newydd, datblygu hyder, cwrdd â phobl newydd ac yn bwysicaf oll cael hwyl drwy chwaraeon. Gyda dros 30 o wahanol chwaraeon, bydd pob diwrnod yn llawn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon y gall plant a phobl ifanc 5-11 oed eu mwynhau.  Mae uchafswm o 30 lle ar gael bob dydd, fesul safle.

Sut ydw i’n archebu lle i fy mhlentyn ar gyfer Gemau Sir Fynwy?

Gallwch archebu eich plentyn ar TMG trwy gofrestru isod

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin GSF

This post is also available in: English