Campfa Awyr Agored Newydd yn dod i Ganolfan Hamdden Cas-gwent
Mae Canolfan Hamdden Cas-gwent yn falch o gyhoeddi lansiad y Gampfa Pob Gallu Awyr Agored, lle pwrpasol i newydd-ddyfodiaid a selogion ffitrwydd gymryd rhan mewn ymarfer corff a gweithgarwch corfforol, gan gynnwys yr opsiwn i gymryd rhan mewn ymarferion grŵp. Bydd y gampfa yn cynnwys cyfres Twrnamaint i hyrwyddo gweithgarwch corfforol awyr agored a hyfforddiant cryfder, gan gefnogi iechyd a lles cyffredinol.

Ariennir y fenter hon gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd y gampfa awyr agored newydd yn cynnwys offer o’r radd flaenaf gan Indigo Fitness, fel ffrâm ffitrwydd, trac sled tyweirch 12 metr o hyd, rigiau wedi’u gosod ar waliau, a phwysau rhydd. Mae’r agoriad mawreddog wedi’i gynllunio i gyd-fynd â Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol ar 18fed Medi.
Dangoswyd bod ymarfer corff mewn lleoliad grŵp yn cynnig nifer o fanteision, gan gynnwys profiadau hyfforddi gwell, cefnogaeth cymheiriaid, atebolrwydd, ac ymdeimlad o gymuned. Cadwch lygad ar App MonLife a’r cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau, a pharatowch ar gyfer ein lansiad ym mis Medi!
This post is also available in: English