Menter Noddi Llyfr yn cael ei lansio yn llyfrgelloedd Sir Fynwy - Monlife

Menter Noddi Llyfr yn cael ei lansio yn llyfrgelloedd Sir Fynwy

Mae llyfrgelloedd Sir Fynwy wedi lansio menter “Noddi Llyfr” i wella ymgysylltiad cymunedol. Gall trigolion nawr noddi llyfrau yn llyfrgelloedd Sir Fynwy drwy ein partneriaeth â Chyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed.

Mae’r cynllun newydd yn galluogi pobl leol i gyfrannu’n uniongyrchol i’w llyfrgell drwy noddi teitlau newydd, gan sicrhau bod y silffoedd yn parhau’n fywiog ac yn llawn stoc ar gyfer holl aelodau’r gymuned.

Bydd y sawl sy’n noddi yn derbyn cydnabyddiaeth am eu haelioni gyda phlât llyfr a thystysgrif o werthfawrogiad am bob llyfr noddedig. Mae hyn yn rhoi cyfle i unigolion anrhydeddu cof ffrind neu anwyliaid wrth iddynt gyfrannu at gasgliad y llyfrgell. Croesewir rhoddion gan sefydliadau yn fawr hefyd.

Mae amryw o llyfrau ar gael trwy’r cynllun Noddi Llyfr yn Llyfrgell Cil-y-coed

Gall noddwyr sydd â diddordeb gymryd rhan drwy lawrlwytho’r ffurflen o’n gwefan a’i chyflwyno ochr yn ochr â thaliad arian parod neu siec yn daladwy i Gyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed yn eich llyfrgell leol yn Sir Fynwy. Bydd eich cyfraniadau yn cefnogi’r gwaith o brynu llyfrau ar gyfer ein llyfrgelloedd yn uniongyrchol, er budd oedolion a phlant.

Sylwch, er y byddwn yn ymdrechu i osod llyfrau newydd mewn llyfrgelloedd lleol, nid oes sicrwydd y bydd rhoddion yn cael eu dyrannu i gangen arferol y rhoddwr.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r fenter hon yn caniatáu i Lyfrgelloedd Sir Fynwy ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. 

Diolch i bawb sydd wedi noddi llyfr yn barod ac i’r rhai fydd yn ein noddi yn y dyfodol.

“Mae ein cydweithrediad â grwpiau cymunedol lleol, megis Cyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed, yn dangos sut, fel Cyngor, ein bod am weithio gyda’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Diolch iddynt am eu hymroddiad i hyrwyddo’r gwasanaethau a helpu gyda’r rhaglen anhygoel hon.

I nodi’r fenter arwyddocaol hon, mynychodd aelodau’r gymuned a chynrychiolwyr etholedig lleol ddigwyddiad arbennig ddydd Llun, 18fed Tachwedd, lle buom yn dathlu llwyddiant yr ymgyrch “Noddi Llyfr” ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn Sir Fynwy.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/

Is-Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd Chyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed, Cyng. Peter Strong yn lansio’r fenter newydd yn Llyfrgell Cil-y-coed gydag aelodau o’r grŵp Chyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed.

Is-Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd Chyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed, Cyng. Peter Strong gyda chydwedd y Is-Gadeirydd Cyng.Jackie Strong

This post is also available in: English