Priodasau yn y Neuadd Sirol
Priodasau yn y Neuadd Sirol – Lleoliad Unigryw ar gyfer Priodasau yn Sir Fynwy
A ydych yn chwilio am rywle unigryw i briodi? Efallai lleoliad moethus gyda nodweddion hanesyddol? Lleoliad sydd yn gyfleus i chi a’ch gwesteion? Rhywle i gynnal eich seremoni a’ch derbyniad o dan yr un to? Os felly, mae’r Neuadd Sirol ar eich cyfer chi!
Gyda dewis o ran ystafelloedd ar gyfer y seremoni a’r derbyniad, sydd yn arddangos pensaernïaeth Palladaidd gan gynnwys ffenestri sash, nenfydau uchel, pileri mewnol a grisiau mawreddog ynghyd â chroeso cynnes, byddwch wrth eich bodd gyda’r modd y mae’r Neuadd Sirol yn ymddangos ac yn teimlo.
Rydym yn medru cynnal eich Seremoni Sifil a/neu’ch Derbyniad Priodas ar unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn ac mae modd gwahodd hyd at 100 o westeion mewn amryw o ystafelloedd. Nid ydym yn credu mai ond un ffordd yn unig sydd yna o wneud pethau ac nid oes rhaid i chi lynu at becynnau cyfyngedig. Byddwn yn eich helpu chi i lunio eich diwrnod mewn modd personol i chi, boed yn achlysur mawr neu fach. Rydym yn hapus i chi ddathlu eich diwrnod cyfan gyda ni, neu ran ohono’n unig – dewiswch chi a byddwn yn cynnig cymaint o gefnogaeth a chyfarwyddyd ag yr ydych yn ei ddymuno.
Mae croeso i chi ddarllen mwy o wybodaeth am Briodasau ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am drefnu ymweliad gyda’r Neuadd Sirol, mae croeso i chi gysylltu â ni..
Seremonïau Sifig @ Neuadd Sirol
Lleoliad Seremoni Priodas Sifil yn Nhrefynwy
Mae’r Neuadd Sirol yn cynnig lleoliad unigryw a diddorol ar gyfer seremoni priodas yng nghanol tref Trefynwy. Gyda thair ystafell drwyddedig ar gyfer seremonïau sifil, mae cariadon wrth eu bodd gyda’r gofod gwahanol sydd ar gael.
“Diolch am sicrhau bod ein priodas mor ddidrafferth a heb unrhyw broblemau. Byddem yn fwy nag hapus i argymell y lleoliad a’r tîm! Rydym wedi derbyn cymaint o ganmoliaeth am y lleoliad – roedd ein gwesteion wrth eu bodd – yn enwedig gyda’r areithiau yn y llys. DIOLCH ETO!”
Will a Steph 17.12.16
Derbyniadau Priodas
Yn y Neuadd Sirol, rydym yn medru cynnig y rhyddid a’r hyblygrwydd i chi i gynllunio eich priodas fel yr ydych yn dymuno ac wedi dychmygu. Dewiswch un o’r ddwy ystafell hyfryd sydd gennym ar gyfer derbyniad eich priodas a/neu ddathliadau gyda’r hwyr. Crëwch eich bwydlen a dewiswch arlwywyr, cynllunydd blodau, ffotograffydd, Band neu DJ wrth i chi ddylunio’ch priodas o’r dechrau i’r diwedd. Rydym yma drwy gydol y broses ac yn hapus i wneud argymhellion a rhoi cymaint o gefnogaeth ac arweiniad â sydd ei angen arnoch.
Mae croeso i gyplau i ddathlu’r diwrnod a’r nos gyda ni, neu’r diwrnod yn unig neu’r nos yn unig. Mae modd i chi hefyd gadw’r adeilad ar eich cyfer chi yn unig a neb arall.
“Roedd yn gwbl wych, ac ni fyddem wedi medru gofyn am leoliad gwell neu staff mwy cyfeillgar a mor barod i’n cynorthwyo! Roedd fy rhieni wrth eu bodd gyda phob dim”
Theresa Treasure
This post is also available in: English