Llogi Preifat
Mae Neuadd y Sir yn osodiad gwych ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau preifat o Bartïon Plant i Nosweithiau Gala Tei Du. Mae hanes Neuadd y Sir hefyd yn ei wneud yn ddewis poblogaidd gyda grwpiau goruwchnaturiol sy’n ddigon dewr i gymryd rhan mewn gwylnosau a seansau cyffrous.
Cysylltwch â ni os dymunwch gynnal unrhyw un o’r digwyddiadau dilynol. Byddem yn falch iawn i drafod eich gofynion yn fanylach gyda chi.
· Parti Pen-blwydd Plentyn
· Parti Pen-blwydd
· Dathliad Pen-blwydd Priodas
· Bedyddio
· Cynulliad Angladd
· Cyflwyno Gwobrau
· Nosweithiau Gala Tei Du
· Grwpiau Goruwchnaturiol
Grwpiau Goruchnaturiol
Gyda sôn i fenyw ddirgel gael ei gweld yn cerdded mewn i ystafelloedd a gydag ysbrydion yn cynnwys barnwr, teulu a ddedfrydwyd i’w crogi am ddwyn bwyd ac ysbrydion tair merch a gyhuddwyd o fod yn wrachod, mae Neuadd y Sir yn ddewis poblogaidd ar gyfer grwpiau goruwchnaturiol sy’n edrych am weithgaredd goruwchnaturiol newydd.
I wneud ymholiadau am ddigwyddiadau’r dyfodol neu wneud archeb ar gyfer eich grŵp goruwchnaturiol, anfonwch e-bost atom yn enquiries@shirehallmonmouth.org.uk.
Costau Llogi: £70 yr awr am uchafswm o 25 o bobl. Bydd ffi ychwanegol o £50 ar gyfer hyd at 35 o bobl ar gyfer grwpiau mwy neu £100 i grwpiau o fwy na 50 o bobl.
This post is also available in: English