Cyfleoedd dysgu yn Neuadd y Sir
Croeso i raglen ddysgu gyffrous Neuadd y Sir yn yr adeilad oedd yn safle un o’r achosion llys pwysicaf yn hanes Prydain, yr achos yn erbyn Siartwyr Sir Fynwy. Cynlluniwyd ein gweithgareddau dysgu creadigol i ymgysylltu, ysbrydoli ac ennyn diddordeb.
Gweithdai
Brad, Achosion Llys a Chludiant – CA2 – CA4
Gweithdy 2 awr gyda hwylusydd yn ymchwilio yr achos llys yn erbyn Siartwyr Sir Fynwy. Cyfle i ymchwilio tystiolaeth, paratoi eich achos a chynnal eich fersiwn eich hun o’r achos yn erbyn y Siartwyr yn yr ystafell llys lle digwyddodd go iawn!
Euog! – CA2 & CA3
Gweithdy 2 awr gyda hwylusydd yn ymchwilio troseddu a chosb yn Sir Fynwy yn y 19eg ganrif. Ymchwilio trin gwrthrychau a deunydd ffynhonnell sylfaenol, mynd ar ymweliad i’r celloedd dal a chynnal eich ffug achos llys eich hunan yn ein llys barn o’r cyfnod.
Taith Bws y Siartwyr
Y Dynion na Fedrent eu Crogi CA2 – 4
Ymweld â safleoedd eiconig y Siartwyr yn Ne Cymru, gyda Thywysydd Bathodyn Glas. Mae’r daith yn cynnwys Gwaith Haearn Blaenafon a Chadeirlan Gwynllwg, ynghyd â chyfle i ‘orymdeithio lawr Stow Hill’ ac ymweld â Gwesty’r Westgate.
Ymweliad annibynnol i’r llys barn – CA1 – 4
Defnyddiwch ein hadnoddau ar-lein i baratoi eich dosbarth ar gyfer ymweliad i’r llys barn a’r celloedd a chynnal eich ffug achos eich hun.
Mae sgriptiau, dillad a sgwrs gyflwyno ar gael, os dymunir.
This post is also available in: English