Chwarae Gweithredol – Canolfan Hamdden Cas-gwent
Canolfan Hamdden Cas-gwent Stryd Gymreig, Cas-gwent, Sir Fynwy, United KingdomBydd MonLife yn cynnal sesiynau Chwarae Gweithredol AM DDIM yn ystod gwyliau hanner tymor! Mae rhaglen Chwarae Gweithredol MonLife yn 1 awr a 55 munud lle gellir gadael plant 5-11 oed gyda’n gweithwyr chwarae hynod hyfforddedig a phrofiadol, a dewis o amrywiaeth o weithgareddau i’w chwarae gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd.