Ymunwch â ni ar gyfer Ogof Siôn Corn yng Nghastell Cil-y-coed!
Bydd cyfle i blant gwrdd â Siôn Corn, rhoi gwybod iddo beth maen nhw ei eisiau ar gyfer y Nadolig a dod i ffwrdd â’u rhodd eu hunain. Bydd yna hefyd ddiodydd poeth, gwin cynnes, siocled poeth a mins peis yn cael eu gweini yn y siop anrhegion er mwyn eich cael yn llawn o ysbryd y Nadolig.
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiadau – 7fed, 8fed, 14eg a 15fed Rhagfyr
Amserau – Sesiynau hanner awr rhwng 10am a 4pm (egwyl hanner awr i Siôn Corn 12:30 – 13:30)
Cost £8 y plentyn. (Mae pob tocyn ar gyfer un plentyn)
Lle i fynd – Cwrdd ar Bont Godi’r Castell. Peidiwch â chyrraedd cyn eich slot amser.
Telerau ac Amodau
Rydym hefyd yn cynnig sesiynau tawel i weld Siôn Corn a’i ellyllon yng Nghastell Cil-y-coed, gyda llai o niferoedd ym mhob sesiwn. Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol ac y byddai’n well ganddo sesiwn dawelach, e-bostiwch caldicotcastle@monmouthshire.gov.uk.
This post is also available in: English