Dewch i ddarganfod, creu a dychwelyd i fyd natur yn ein gweithgareddau sy’n seiliedig ar natur, sy’n digwydd yn Hen Orsaf Tyndyrn haf eleni. Dydd Iau 15fed Awst yw Diwrnod yr Helyg Hyfryd. Dewch i ddysgu sut i wneud coron, pysgodyn neu bili-pala helyg, creu gwasg flodau hardd gan ddefnyddio deunyddiau naturiol ac wedi’u hailgylchu a chreu baneri blodau hardd.
Pris y tocynnau yw £4 fesul plentyn (nid oes angen i oedolion archebu).
Lleoliad: yn y babell ymestyn wrth ymyl y maes parcio gorlif
Amser dechrau: 10:30am
Darperir yr holl ddeunyddiau crefft, gan gynnwys helyg a chalico, ar gyfer pob plentyn
Gall pob plentyn fynd â’u holl greadigaethau adref ar ddiwedd y sesiwn
Mae pob plentyn yn derbyn tocyn trên am ddim i’r trên bach, naill ai i’w ddefnyddio ar y diwrnod neu ar adeg arall
Telerau ac Amodau
Ar gyfer y rhai 3 oed +
Mae angen un oedolyn ar gyfer pob tri phlentyn (nid oes angen i oedolion archebu lle)
Bydd y sesiwn yn cael ei goruchwylio gan un aelod o staff Hen Orsaf Tyndyrn