Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ôl ym mis Hydref eleni, gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig ar gyfer pob oedran mewn amgueddfeydd ar draws ein safleoedd.
Mae’r Ŵyl eleni yn rhedeg o ddydd Sadwrn 28 Hydref tan ddydd Sul 5 Tachwedd, ac rydym yn barod i’ch croesawu yn ystod y gwyliau hanner tymor ar gyfer #HannerTymorHanesyddol go iawn, gyda digon o hwyl Calan Gaeaf hefyd!
Bydd gemau, posau, gweithgareddau a llawer mwy; digon i ddiddanu’r rhai bach fel bod y rhai mawr yn gallu mwynhau’r hyn sydd gan ein hamgueddfeydd i’w cynnig!
Yn Amgueddfeydd y Fenni, Cas-gwent a’r Neuadd Sirol gallwch fynd i mewn i’r ysbryd Calan Gaeaf gyda chrefftau gwneud a chymryd gartref, gan gynnwys Baneri Ystlumod, Ysbrydion Chwyrlïol a mygydau Cathod Du. Nid oes angen archebu lle, i gyd sydd rhaid gwneud yw galw heibio. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Bydd y rhain ar gael yn Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent bob dydd rhwng 11am a 4pm, ac eithrio dydd Mercher ac yn y Neuadd Sirol bob dydd rhwng 11am a 4pm, ac eithrio dydd Mercher a dydd Sul.
Hefyd, beth am gael hwyl gyda ffrindiau a theulu yn ein prynhawn crefft hanner tymor i blant, dan arweiniad Gwirfoddolwyr creadigol Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife, Dydd Iau 2 Tachwedd 2-4pm, Y Neuadd Ymarfer, Stryd yr Eglwys Isaf, Cas-gwent
This post is also available in: English