Mae’r “Rocket Man” yn ôl! Profwch deyrnged Elton John gorau’r DU gyda sioe boblogaidd Soul Street Production, The Elton John Show.
Gyda dros 300 miliwn o recordiau’n cael eu gwerthu, Syr Elton John yw canwr-gyfansoddwr mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth. Seren lewyrchus, gydag ôl-gatalog diddiwedd o ganeuon anhygoel a fydd yn eich cadw’n dawnsio drwy’r nos!
O “Tiny Dancer” i “Your Song”, mae The Elton John Show yn dod ag “Elton Ifanc” yn ôl i’r llwyfan ar ei orau a llawn egni.