The Dime Notes - Monlife
Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

The Dime Notes

Hydref 25 @ 7:30 pm

£18

Jazz o’r 1920au wedi trochi yn y Blŵs a gyda’r clarinet yn flaenllaw gan fand
jazz penigamp o Lundain.
Mae The Dime Notes yn tyrchu yn ôl i seiniau jazz New Orleians oedd wedi trochi
yn y blŵs gyda’r clarinet yn flaenllaw, gan ddatgelu repertoire o stompiau, blŵs a
thrysorau angof o oes aur gan gerddorion fel Jelly Roll Morton, Johnny Dodds a
Red Nichols.
Dan arweiniad David Hornblow a fu’n glarinetydd am gyfnod hir i Chris Barber,
ffigur amlwg ar lwyfan jazz Ewrop a’r pianydd/gyfansoddwr Sam Watts, mae’r
band wedi ei angori gan byls di-stop adran rhythm benigamp Llundain, y gitarydd
David Kelbie, cyfeilydd yn Django a la Creole Evan Christopher, Sweet Chorus John
Etheridge a’r basydd Louis Thomas, sy’n adnabyddus ar y sîn ryngwladol am ei
swing a’i allu amryddawn gyda galw amdano mewn llawer o ffiniau genre gyda’i
sain mawr a’i steil amlochrog.
Mae The Dime Notes yn cyflwyno naws newydd ar steil dragwyddol,
gan danlinellu’r rhigolau gyriannol a’r awelon nwydus a
wnaeth jazz cynnar yn chwyldroadol, dadleuol a
phoblogaidd tu hwnt.

Manylion

Dyddiad:
Hydref 25
Amser:
7:30 pm
Pris:
£18
Gwefan:
https://boroughtheatreabergavenny.co.uk/cy/shows/the-dime-notes/

Lleoliad

Theatr Borough, Y Fenni
Neuadd y Dref, Stryd y Groes
Y Fenni, Sir Fynwy NP7 5HD United Kingdom
+ Google Map
Phone
01873 850805
Ewch i wefan y lleoliad