Yn thriler operatig adnabyddus Leoncavallo Pagliacci, neu Clowns, mae
arweinydd grŵp teithiol o actorion comedi yn darganfod fod ei wraig yn
cael perthynas gyda pherfformiwr arall. Cyn iddo ganfod pwy yw’r gwalch,
mae’n rhaid iddo fynd ar y llwyfan yn rôl gŵr mewn anobaith gyda gwraig
sy’n ei dwyllo. Gan arwain at amwyster ofnadwy o realaeth rhwng y llwyfan
a bywyd go iawn a dystir gan gynulleidfa mewn braw a llawn cerddoriaeth
ysgytwol, mae Pagliacci yn cadw ei statws cwlt fel y ‘drama-o-fewn-drama’
operatig eithaf.
Bydd ail hanner y noswaith yn rhoi sylw i cabaret
newydd o eitemau cerddorol poblogaidd a difyr.