Ngheredigion. Dim ond pump diwrnod sydd ganddo ef a’i bartner ffyddlon
Calamity i ddatrys yr achos – os nad yw’n llwyddo, ni fydd Nadolig, dim
anrhegion i’r plant a dim cyngerdd i’r pengwyniaid sy’n hoffi canu carolau …
Yn dilyn llwyddiant Aberystwyth Mon Amour yn 2016, mae’r Lighthouse Theatre
yn dychwelyd gyda’r perfformiad cyntaf ar lwyfan o nofel noir Gymreig arall gan
Malcolm Price. Gyda Llinos Daniel yn cyfarwyddo a cherddoriaeth wreiddiol gan
Kieran Bailey, mae hwn yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Pontardawe a Chanolfan
y Celfyddydau Aberystwyth gyda chefnogaeth Cyngor
Celfyddydau Cymru a Tŷ Cerdd.