Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed – Monlife
Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio

Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed

Awst 7 @ 11:00 am - 3:00 pm

AM DDIM

Ymunwch â’r Hwyl yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Yn galw ar bob teulu!  Marciwch eich calendrau ar gyfer yr amser chwarae penigamp yng Nghanolfan hamdden Cil-y-coed ddydd Mercher 7fed Awst rhwng 11am a 3pm. Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol wedi cyrraedd, ac rydym yn dathlu hawl plant i chwarae wrth bwysleisio’i rôl hanfodol yn eu bywydau.

Does dim angen archebu lle, dewch draw i chwarae. Paratowch ar gyfer diwrnod llawn cyffro gydag amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ar gyfer pob oedran a gallu, sy’n cynnwys:

  • Sleid castell bownsio
  • Wal ddringo
  • Crefftau Byw yn y Gwyllt
  • Adeiladu ffau
  • Dinas Cardbord
  • Gorsaf rhannau rhydd
  • Tywod, dŵr a chwarae blêr
  • Gorsafoedd crefft gan gynnwys crefft a ddewiswyd yn rhydd
  • Stociau sbyngau gwlyb
  • Gorsaf chwaraeon gydag amrywiaeth o offer
  • Saethyddiaeth
  • Trawstiau cydbwysedd gymnasteg
  • Codi hwyl
  • Llyfrgell yn y Caffi
  • Chwarae meddal ac offer synhwyraidd yn y caffi
  • Siop Gwneud Diodydd
  • Teganau a gemau o’r gorffennol
  • Gorsaf gwneud cerddoriaeth
  • Disgo Tawel

Anogir teuluoedd i ddod â’u hoff fyrbrydau a mwynhau picnic hamddenol yng nghanol bwrlwm yr amser chwarae. Neges i’ch atgoffa fod chwarae blêr a dŵr ar yr agenda, felly gwisgwch yn addas ar gyfer hynny! Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ddillad budr – gadewch i’r hwyl fod yn wyllt a diofal.

Cofiwch fod rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy’r amser!

This post is also available in: English

Manylion

Dyddiad:
Awst 7
Amser:
11:00 am - 3:00 pm
Pris:
AM DDIM
Categorïau Digwyddiad:
,

Trefnydd

MonLife
Phone
01633 644800
Email
-

Lleoliad

Canolfan Hamdden Cil-y-coed
Lôn y Felin
Cil-y-Coed, Sir Fynwy NP26 4BN United Kingdom
+ Google Map
Phone
01633644800
Ewch i wefan y lleoliad