Aeth Cwningen y Pasg am dro neithiwr drwy Gastell Cil-y-coed gyda’i wyau. Wrth orffen y daith, sylwodd y gwningen fod yr wyau i gyd wedi disgyn allan o’r fasged! Allwch chi helpu i ddod o hyd i’r wyau am wobr?
Dyddiadau: O Ddydd Gwener y Groglith i Ddydd Llun y Pasg (18fed Ebrill i’r 21ain Ebrill 2025)
Amseroedd: Dwy sesiwn ar gael (mae modd cyrraedd unrhyw amser o fewn y sesiynau hyn), mae’r sesiynau’n cael eu cynnal rhwng: 11am – 12pm neu 2pm – 4pm.
Cost: £4.50 y plentyn (gan gynnwys danteithion Pasg NA sy’n seiliedig ar siocled neu fwyd). Mae’n addas i blant 5 oed a hŷn
Caniatewch tua 30 munud i gwblhau’r llwybr, a nodwch hefyd mai mynediad olaf ar gyfer llwybrau’r prynhawn yw 3.15 oherwydd mae’r Castell yn cau am 4pm.
Ewch i Gastell Cil-y-coed y Pasg hwn am helfa wyau wych i blant. Mae pob helfa yn hunan-dywys o amgylch y cwrt, ac felly gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd ac esgidiau cryf. Bydd anrheg Pasg ar ôl ei gwblhau yn yr ystafell de.
Bydd gweithgareddau celf a chrefft hefyd o amgylch y castell i’w mwynhau. Mae’r rhain am ddim ac nid oes angen eu harchebu.
Nid oes ad-daliadau (oni bai bod digwyddiad yn cael ei ganslo), a rhaid i rieni fynd gyda’u plentyn eu hunain. Nid yw tocynnau yn drosglwyddadwy. Efallai y bydd angen dogfennau adnabod (ID) wrth gyrraedd er mwyn cadarnhau eich bod wedi prynu tocynnau.
Nid oes rhaid i oedolion archebu tocyn.
Archebwch eich lle nawrThis post is also available in: English