Cyfres Cyflwyniad i Gelf: Y 19eg Ganrif – Arlein - Monlife
Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio

Cyfres Cyflwyniad i Gelf: Y 19eg Ganrif – Arlein

Mawrth 25 @ 7:00 pm - 8:00 pm

Event Series Event Series (See All)

Nid oes angen unrhyw gefndir mewn hanes celf i gofrestru ar y cwrs eang a gafaelgar hwn, dim ond yr awydd i edrych yn galetach ar gelf a deall ei datblygiadau yn gliriach.

O Rhamantiaeth i chwyldro Argraffiadaeth, mae’r gyfres hon o ddeg darlith ar-lein yn symud o ddechrau’r 19eg ganrif i’r 1880au, gan gwmpasu rhai o’r datblygiadau mwyaf radical ym myd celf ers y Dadeni.

Ymunwch â chwrs hanes celf ar-lein Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife Gyda’r darlithydd poblogaidd o Sir Fynwy, Eleanor Bird.

10 wythnos o ddarlithoedd un awr gyda’r nos ar-lein trwy Zoom

Yn dechrau ar ddydd Llun 15fed Ionawr 7-8pm, (egwyl ar 12fed  Chwefror ac yn gorffen ar 25ain Mawrth)

Ffi ar gyfer y cwrs: £50

Cofrestrwch: www.visitmonmouthshire.com/arthistory

Mae’r cwrs yn ymdrin ag anterth y cyfnod o beintio tirluniau Prydeinig gyda Turner a Constable yn arwain y ffordd, a’r dylanwad a gafodd y peintwyr hynny ar artistiaid Ffrengig. Mae’r gyfres yn mynd ymlaen i archwilio newidiadau dramatig mewn celf Ffrengig – gyda Realaeth yn newid y pwnc y mae artistiaid yn dewis ei archwilio a pheintwyr Barbizon yn dod o hyd i harddwch mewn tirweddau bob dydd. Tra oedd y Cyn-Raffaeliaid Prydeinig wedi ei swyno gan y canol oesoedd a William Morris gychwyn y mudiad Celf a Chrefft, datblygodd ychydig o beintwyr radicalaidd yn Ffrainc liwiau gwych ac effaith sydyn Argraffiadaeth.

Llun: Turner, Llosgi Tŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin, Hydref 1834, 1834 (Cleveland)

This post is also available in: English

Manylion

Dyddiad:
Mawrth 25
Amser:
7:00 pm - 8:00 pm
Series:
Categori Digwyddiad:

Trefnydd

MonLife
Phone
01633 644800
Email
-