Peidiwch â cholli’r gweithgareddau crefft cyffrous yn y Neuadd Sirol yr hanner tymor hwn! O ddydd Llun 12fed i ddydd Gwener 16eg, (Ar Gau dydd Mercher) gallwch alw heibio unrhyw bryd rhwng 10:00am ac 1:00pm ac ymuno â’r hwyl. Gallwch chi wneud eich baneri semaffor, cychod pren a gludwaith eich hun, wedi’u hysbrydoli gan Nelson. Gallwch hefyd fwynhau chwarae dŵr, ffigurau byd bach, a gweithgareddau synhwyraidd. Mae rhywbeth i bawb yn y Neuadd Sirol, felly dewch draw i ryddhau eich creadigrwydd!
Dydd Llun: Pwy sy’n ymuno â ni heddiw ar gyfer ein sesiwn grefft – Heddiw rydyn ni’n gwneud ein hetiau a’n medalau ein hunain yn seiliedig ar Horatio Nelson.
Dydd Mawrth: Nelson oedd, mewn ffordd, y dylanwadwr gwreiddiol, dewch i archwilio sut y marchnatodd ei hun a thynnwch eich hunanbortread eich hun yn ein sesiwn grefft heddiw!#
Dydd Mercher: Ar Gau
Dydd Iau: Ochr yn ochr â’n crefftau byddwn yn cynnal Gemau am 15 munud cyntaf pob awr.
Dydd Gwener: Heddiw yn ein sesiwn grefft rydyn ni’n gwneud llythyrau caru Origami – Oeddech chi’n gwybod bod Nelson ac Emma yn aml yn cyfnewid llythyrau caru pan oedd Nelson i ffwrdd ar y môr?