Dilynwch lwybr Natur Wyllt dros y gwanwyn
Mae pum darn o waith celf mosäig, sydd wedi eu hysbrydoli gan natur, wedi ymddangos mewn gofodau gwyrdd ar hyd a lled Gwent, gan ysbrydoli pobl i feddwl am y natur yr ydym yn medru ei weld yn ein cymunedau.
Mae’r darnau yma o gelf yma wedi eu datblygu gan y prosiect Natur Wyllt, sydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r dirywiad mewn pryfed peillio ac yn annog pobl i weithredu ar lefel leol, gan greu dolydd newydd mewn pentrefi a threfi ar draws Gwent.
Mae pobl yn cael eu hannog i fynd allan dros y gwanwyn er mwyn ceisio dod o hyd i’r pum cerflun a chwblhau’r daith gerdded. Maent wedi eu lleoli ar draws Gwent, sef yn: Gilfach, Bargoed; Parc Bryn Bach, Tredegar; Meysydd Lles Rogerstone, Rogerstone; Fairhill, Cwmbrân a Pharc Bailey, y Fenni.
Wedi dod o hyd i bob un darn, sganiwch y cod QR er mwyn darllen gwybodaeth gudd am y planhigion a’r pryfed peillio sydd wedi ysbrydoli pob cerflun.
Beth am fynd ati i gysylltu gyda @NatureisntNeat ar Twitter, Facebook ac Instagram a rhannu ag eraill y planhigion a’r pryfed peillio anhygoel yr ydych wedi eu darganfod?
Roedd y gwaith celf wedi eu creu yn ystod haf 2022, pan oedd cymunedau Gwent yn brysur ac yn adeiladu dyluniadau mosäig gyda’r arlunydd Stephanie Roberts. Y thema oedd ceisio cofnodi harddwch y byd natur sydd i’w weld mewn gofodau gwyrdd.
Mae’r darnau mosäig yn dathlu’r berthynas rhwng blodau gwyllt, pryfed peillio a phobl Gwent. Mae pob cerflun wedi ei ysbrydoli gan blanhigion a phryfed peillio lleol, sydd i’w gweld ym mhob un mosäig.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cyngh. Catrin Maby: “Mae’r gwaith celf newydd yn ffantastig ac yn dysteb barhaol i Natur Wyllt a’r effaith bositif y mae’r egwyddorion yn cael ar fywyd gwyllt a phryfed peillio ar draws Gwent.”
“Mae’r dull o dethol a dewis pa bryd i ladd gwair yn caniatáu’r glaswellt a’r blodau gwyllt i ffynnu am gyfnod hwy ynghyd ag amrywiaethau o fywyd gwyllt. Mae gweld y gymuned yn dod ynghyd er mwyn dathlu hyn drwy waith celf, sydd wedi ei arwain gan y gymuned, yn wych.”
Mae’r prosiect celf cymunedol yma yn cael ei gefnogi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig ac wedi ei ariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles gan Lywodraeth Cymru.
Am fwy o wybodaeth am Natur Wyllt, ewch os gwelwch yn dda i www.monlife.co.uk/cy/outdoor/nature-isnt-neat/community-artworks/
This post is also available in: English