Cyrraedd carreg filltir o ran y bont Teithio Llesol dros Afon Gwy yn Nhrefynwy – Monlife
Argraff arlunydd o ddyluniad posibl ar gyfer y bont arfaethedig dros Afon Gwy yn Nhrefynwy
 

Mae cynigion am groesfan Teithio Llesol newydd dros Afon Gwy yn Nhrefynwy wedi cymryd cam mawr ymlaen. Mae’r cynllun arfaethedig ar gyfer pont i gerddwyr a beicwyr bellach wedi ei gyflwyno ar gyfer ei gynllunio.  Nod y prosiect, sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, yw creu llwybr diogel newydd, sy’n cysylltu Trefynwy a Wyesham ac yn osgoi’r traffig cerbydau ar Bont Gwy brysur. Dylid nodi y bydd palmant presennol Pont Gwy yn aros os caiff y bont newydd ei hadeiladu.

Mae ‘Teithio Llesol’ yn disgrifio teithiau gyda phwrpas, megis i’r ysgol neu fan gwaith, ac wedi’u gwneud ar droed neu ar feic. Nid yw’r bont ffordd Gwy bresennol (A466) yn addas i ddibenion Teithio Llesol ac mae croesfan ar wahân heb gerbydau wedi cael ei datblygu gan Gyngor Sir Fynwy mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Sustrans, WSP, Cyngor Tref Trefynwy, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ysgolion Haberdashers.

Mae modd gweld y cynlluniau, a gwneud sylwadau, ar y wefan gynllunio yma https://planningonline.monmouthshire.gov.uk/online-applications/?lang=CY drwy nodi’r cyfeirnod cais DM/2022/01800.  Mae cyfrifiaduron mynediad i’r cyhoedd ar gael yn llyfrgell Trefynwy os oes angen.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Deithio Llesol: “Rwy’n hynod hapus ein bod yn symud tuag at wireddu’r prosiect hwn. Bydd y bont newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl Trefynwy a Wyesham ac ymwelwyr â’n sir ni.   Bydd yn ei gwneud hi’n haws i gerdded neu feicio i’r gwaith yn y dref, ac i blant a phobl ifanc fynd i’r ysgol. Mae cwblhau’r prosiect hwn yn flaenoriaeth fel rhan o’n cynlluniau Teithio Llesol ac edrychaf ymlaen at allu diweddaru trigolion ymhellach, maes o law.  Mae cymaint o bobl wedi dweud nad oedden nhw’n teimlo’n ddiogel yn cerdded na seiclo dros y bont bresennol, mae’n iawn felly i’w wneud yn flaenoriaeth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae cefnogi Teithio Llesol yn rhan hanfodol o’n gwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.  Bydd y bont newydd hon yn galluogi mwy o bobl i adael y car gartref a theithio ar droed neu ar feic i ffwrdd o’r traffig, gan wneud cymudo yn haws, yn fwy pleserus ac yn fwy ecogyfeillgar.”

Mae’r bont yn rhan o gyfres gynhwysfawr o gynlluniau Teithio Llesol ar gyfer y dref, gyda’r gwelliannau a gynigir yn cysylltu Wyesham â’r bont newydd ac o’r bont newydd i ddatblygiad Porth Kingswood. Yn amodol ar sicrhau caniatâd cynllunio a chyllid, mae Cyngor Sir Fynwy yn disgwyl codi’r bont yn 2024/5.

Am fwy o wybodaeth am Deithio Llesol yn Sir Fynwy ewch i www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygyddion:

Mae modd gweld dyluniad arfaethedig y bont hefyd mewn fideo ar-lein https://youtu.be/KUmMFQecu80

This post is also available in: English